Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 894 for "Medi"

25 - 36 of 894 for "Medi"

  • BEVAN, THOMAS (Caradawc, Caradawc y Fenni; 1802 - 1882), hynafiaethydd Ganwyd 13 Medi 1802, ym Melin Maesmawr, ger Talybont, sir Frycheiniog, mab Lewis Bevan. Addysgwyd ef yn yr ysgol fechan yng nghapel y Bedyddwyr, Llangynidr, ac yna mewn ysgol breifat yn y Fenni. Wedi bwrw'i brentisiaeth mewn siop groser yn y Fenni, aeth i Lundain, lle bu'n gwasanaethu yn siop ei ewythr yn agos i Tower Hill; wedi hynny bu'n gweithio mewn siop yn Clydach Works, sir Frycheiniog (a
  • BEYNON, Syr WILLIAM JOHN GRANVILLE (1914 - 1996), Athro Ffiseg yn ymwneud ag astudiaeth gydwladol o'r ïonosffer . Priododd yn 1942 Megan Medi, merch Arthur a Margaret James, yng Nghapel Annibynnol Ebenezer, Abertawe a bu iddynt ddau fab a merch. Bu farw 11 Mawrth 1996, yn Aberystwyth.
  • BLACKWELL, HENRY (1851 - 1928), llyfr-rwymwr, llyfr-werthwr, llyfryddwr, a bywgraffyddwr , am gyfnod. Symudodd Henry Blackwell i Efrog Newydd ym mis Medi 1877; dywedir yn Y Wasg (Pittsburg), 21 Mai 1886, ei fod yn arolygu busnes rhwymo llyfrau yr adeg honno. Parhaodd i rwymo llyfrau a datblygu hefyd yn llyfrwerthwr ar raddfa eang, gan werthu llawer o lyfrau yn America ac ym Mhrydain. Casglai bob math o lyfrau, etc., ynglyn a Chymru ac â'r Cymry; yn ôl Y Drych, 22 Hydref 1891, yr oedd
  • BLOOM, MILBOURN (bu farw 1766), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef; honna traddodiad ei fod yn un o deulu Castell Pigyn (Abergwili); yn ôl NLW MS 5456A gellid cerdded o'i gartref i Gaerfyrddin o fewn yr awr. Daw i'r golwg ym Mawrth 1743 (Recordiau Cymdeithasfa'r M.C. yn Ll.G.C.) fel 'cynghorwr cyhoeddus' (h.y. teithiol), ac yr oedd yn arolygwr seiadau y tu isaf i Dywi. Ond ym Medi yn yr un flwyddyn cefnodd ar y Methodistiaid
  • BOOTH, FLORENCE ELEANOR (1861 - 1957), Iachawdwriaethwraig a diwygwraig gymdeithasol Ganwyd Florence Booth ar 12 Medi 1861 ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, yr hynaf o bedwar o blant Dr Isabell Hawker Soper (1833-1907) a'i wraig Jane Eleanor (g. Levick, 1831-1870). Hanai Dr Soper o Plymouth, a gweithiai fel meddyg a llawfeddyg yn y gweithfeydd haearn a phyllau glo lleol. Roedd ei wraig yn ferch i haearnfeistr o Gymru. Roedd Florence yn gerddor dawnus ac roedd ganddi uchelgais i ddilyn
  • BOSSE-GRIFFITHS, KATE (1910 - 1998), Eifftolegydd ac awdures cyhoedd mewn catalogau darluniadol megis A Musician Meets Her Gods a Five Ways of Writing between 2000 BC and AD 200. Cafodd y pleser o weld y Ganolfan Eifftaidd yn adeilad newydd Taliesin ar gampws Prifysgol Abertawe bron wedi'i chwblhau. Agorwyd yr adeilad newydd ym mis Medi 1998. Cyhoeddwyd cyfrol o ysgrifau llenyddol, Teithiau'r Meddwl, rhai ohonynt yn gyhoeddedig eisoes, yn 2004. Bu farw Kate Bosse
  • BOWEN, EVAN RODERIC (1913 - 2001), gwleidydd Rhyddfrydol a chyfreithiwr Grimond ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol yn dilyn ymddeoliad Clement Davies ym mis Medi 1956. Roedd carfan gref o fewn y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru a wasgai i geisio sicrhau etholiad Bowen i'r swydd wag. Er mai ychydig iawn o obaith oedd ganddo i ennill yr etholiad, roedd Bowen braidd yn ddig oherwydd llwyddiant Grimond. O ganlyniad, anghynnes oedd y berthynas rhwng y ddau ohonynt hyd nes i
  • BOWEN, IVOR (1862 - 1934), K.C. ac ynad llys sirol Ganwyd ym Mhenybont-ar-Ogwr, mab J. Bowen Jones, gweinidog eglwys Annibynnol yn Aberhonddu. Ar ôl gadael yr ysgol bu am dymor mewn banc yn Llundain; o fis Medi 1883 ymlaen dewisodd gael ei gyfenwi'n Bowen. Derbyniwyd ef gan Gray's Inn yn efrydydd y gyfraith (3 Tachwedd 1886); fe'i galwyd i'r Bar (3 Gorffennaf 1889), ac am rai blynyddoedd bu'n gwasanaethu fel bargyfreithiwr yng Nghaerdydd yng
  • BOWYER, GWILYM (1906 - 1965), gweinidog (A) a phrifathro coleg . Saesneg), Grenville Williams, athro yn ysgol y cyngor, ac yn arbennig R.J. Pritchard, ei weinidog ym Mynydd Seion (A), Ponciau, a'i cododd i bregethu yn 1923. Derbyniwyd Gwilym Bowyer i Goleg Bala-Bangor, lle'r oedd ei frawd hyn, Frederick, eisioes yn fyfyriwr ers tair blynedd a lle'r oedd John Morgan Jones a J.E. Daniel yn athrawon, 27 Medi 1928, a graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf
  • BRACE, WILLIAM (1865 - 1947), arweinydd llafur ac aelod seneddol Ganwyd yn Rhisga, sir Fynwy, 23 Medi 1865, yn fab i Thomas ac Ann Brace. Addysgwyd yn ysgol elfennol Rhisga. Pan yn 12 mlwydd oed cychwynnodd ar ei yrfa fel glöwr yng nglofa Rhisga, a chyn hir dechreuodd gymryd diddordeb ym mhroblemau llafur. Yn 1890 priododd Nellie, merch William a Harriet Humphreys o Gwmcadarn, sir Fynwy. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef yn gynrychiolydd glowyr adran leol Undeb
  • BREESE, JOHN (1789 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Llanbrynmair, Medi 1789. Yn yr ysgol Sul y cafodd ei brif hyfforddiant ym more oes; derbyniwyd ef yn aelod yn 20 oed yn yr Hen Gapel o dan weinidogaeth John Roberts, a phan yn 24 oed anogwyd ef i ddechrau pregethu. Drwy gymorth cyfeillion anfonwyd ef i ysgol yn Amwythig ac oddi yno derbyniwyd ef i athrofa Llanfyllin a oedd newydd symud yno o Wrecsam o dan ofal y Dr. George Lewis. Yn
  • BREEZE, SAMUEL (1772 - 1812), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Hanoedd o blwyf Llandinam a dechreuodd ei yrfa trwy gadw ysgol yn y Dolau, Maesyfed, lle hefyd y'i bedyddiwyd (1793). Symudodd i gadw ysgol ym Mhenrhyncoch, ger Aberystwyth, 1794, a dechreuodd bregethu yn 1795. Urddwyd ef 12 Mehefin 1803 i fod yn un o ddau i ofalu am Fedyddwyr cylch Aberystwyth, ond symudodd i Gastellnewydd Emlyn fis Mawrth 1812. Bu farw 28 Medi 1812, a chladdwyd ef yng