Canlyniadau chwilio

349 - 360 of 990 for "Mawrth"

349 - 360 of 990 for "Mawrth"

  • JAMES, Syr DAVID JOHN (1887 - 1967), gŵr busnes a dyngarwr LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1957, cafodd ei urddo'n farchog yn 1959, derbyniwyd ef i Urdd Wen Gorsedd y Beirdd yn 1965 a'r un flwyddyn cyflwynwyd rhyddfraint bwrdeistref Aberystwyth iddo. Bu farw ei wraig 20 Chwefror 1963 ac yntau 7 Mawrth 1967 a chladdwyd hwy ym mynwent Ystrad Fflur.
  • JAMES, EDWARD (1569? - 1610?), clerigwr a llenor Ganwyd yn sir Forgannwg. Ymaelododd yn Rhydychen o S. Edmund Hall, 11 Mawrth 1585/6, yn 16 oed; B.A. o Goleg Iesu, 16 Mehefin 1589; M.A., 8 Gorffennaf 1592. Gwnaed ef yn ficer Caerlleon-ar-Wysg, Chwefror 1595-6, yn rheithor Shire-Newton, 8 Awst 1597, yn rheithor Llangatwg-ger-Wysg, 15 Ebrill 1598, yn ficer Llangatwg-feibion-Afel, 12 Gorffennaf 1599, yn ficer Llangatwg ger Castellnedd, 23
  • JAMES, IVOR (1840? - 1909), cofrestrydd cyntaf Prifysgol Cymru, a hanesydd drefnu bod llyfrgell fawr Enoch R. G. Salisbury, yn cynnwys llyfrau yn delio â Chymru a'r gororau, yn dyfod yn eiddo i Goleg Caerdydd. Yn y cyfamser bu ef a W. Cadwaladr Davies, cofrestrydd coleg newydd Bangor, yn gydysgrifenyddion y pwyllgor a oedd yn trefnu i gael siarter i Brifysgol Cymru, a phan sefydlwyd y brifysgol daeth James yn gofrestrydd cyntaf iddi (Mawrth 1895) a dal y swydd hyd oni
  • JAMES, JAMES (Iago Emlyn; 1800 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd ymneilltuodd i fyw yn Clifton, Bryste, ble, ar 4ydd Mawrth 1844, y priododd Jane Mince yn Eglwys Plwyf Clifton. Yn ôl cyfrifiad 1861 bu'n cadw tŷ llety yn 14 Frederick Place, Clifton, gyda'i wraig, ond ym 1871, dim ond ei wraig a'i chwaer ddi-briod, Maria Mince, recordiwyd o dan y cyfeiriad hwn. Bu farw 5 Ionawr 1879 a chladdwyd ef ym Mryste. Yr oedd yn ysgolhaig medrus, ac yn fardd o gryn fri. Cyhoeddwyd
  • JAMES, JAMES (Iago ap Iago; 1818 - 1843), prydydd Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, 14 Mawrth 1818, mab James James, masnachwr. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ac yn breifat. Er yn wannaidd ei iechyd ymroddodd i astudio ac ystyrrid ef yn ieithydd da. Bu farw 30 Gorffennaf 1843 yn 25 oed. Yn y mesurau rhydd yr ysgrifennodd ei farddoniaeth, ac ymddangosodd darnau o'i waith, ynghyd ag erthyglau, yn yr Eurgrawn a chylchgronau eraill
  • JAMES, JOHN (1777 - 1848), gweinidog y Bedyddwyr, emynydd, rhwymwr llyfrau, ac argraffydd Ganwyd yn Aberystwyth 29 Awst 1777, yn blentyn hynaf o wyth i James David John ac Elizabeth Jones. Bedyddiwyd ef yno 27 Mawrth 1796, ac ymaelododd yn eglwys Bethel. Prentisiwyd ef, fel ei dad, yn grydd, ond ym Medi 1799, dechreuodd bregethu, ac wedi cwrs o addysg yn Aberteifi ac Aberystwyth fe'i hordeiniwyd yn gyd-weinidog â Samuel Breeze ar Bethel a'i changhennau. Wedi cyfnod o weithgarwch
  • JAMES, JOHN (1815 - 1869), bardd ac emynydd yn aelod gyda'r Wesleaid yn Nhregolwyn. Bu farw Mawrth 1869, a'i gladdu ar y 19eg o'r mis yn Nhregolwyn.
  • JAMES, ROBERT (Jeduthyn; 1825 - 1879), cerddor Ganwyd 7 Mawrth 1825 yn Aberdâr, mab Morgan ac Ann James. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau Rosser Beynon. Meddai lais da, a dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Bethesda, Merthyr, yn 1845. Sefydlodd gymdeithas gerddorol ac enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd y gymdeithas Organ y Cysegr, sef casgliad o alawon cysegredig wedi eu trefnu gan Robert James. Yr
  • JAMES, THOMAS EVAN (Thomas ab Ieuan; 1824 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur Ganwyd 17 Mawrth 1824, ym Mhencraig, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, mab Evan a Mary James. Symudodd y teulu i Aberteifi pan oedd ef tua 13 oed. Bu am beth amser yn was fferm Heolcwm, plwyf Ferwig, Sir Aberteifi. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bu'n gwasanaethu yn anordeiniedig yn eglwys Groesgoch, Sir Benfro (1851-2). Urddwyd ef, a gwnaed ef yn weinidog Pontestyll, ger Aberhonddu (1853-6). Bu hefyd
  • JAMES, WILLIAM (1833 - 1905), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 15 Mawrth 1833, yn fab i Thomas ac Anne James, Tynrhos, Llanfihangel-genau'r-glyn. Bu hyd 15 oed yn ysgol ramadeg y pentre (lle y cafodd Lewis Edwards yntau ei ysgol); yna bu'n fugail ar dir ei dad. Bwriadai ei dad iddo fod yn lledrwr yn Aberaeron, ond mynnai crefyddwyr capel y Garn iddo fynd yn bregethwr, gan ei fod mor weithgar yn yr ysgol Sul a chyda chaniadaeth y capel. Felly anfonwyd
  • JANNER, BARNETT (BARWN JANNER), (1892 - 1982), gwleidydd ddilyn y gyfraith fel gyrfa, ac fe'i herthyglwyd i Sidney, Jenkins a Howell, cwmni o gyfreithwyr yng Nghaerdydd, yn 1914. Ymunodd â'r Gwarchodlu Magnelwyr Brenhinol fel milwr cyffredin ar 2 Mawrth 1916, ond ni chafodd ei alw tan 7 Awst 1917, a gadawodd am Ffrainc ar y 24 o Dachwedd. Rai misoedd cyn diwedd y rhyfel dioddefodd effaith peleni nwy mwstard, ac achubwyd ei fywyd gan ymateb chwimwth cyd-filwr
  • JARDINE, DAVID (1732 - 1766), gweinidog Annibynnol ac athro academi bennaeth yr academi newydd yn y Fenni, 7 Mawrth 1757, a Benjamin Davies yn gynorthwywr iddo. Parhaodd Jardine yn weinidog yr eglwys yn y Fenni ac yn bennaeth yr academi hyd ei farwolaeth, 1 Hydref 1766. Priododd ferch y Parch. Lewis Jones, Penybont-ar-Ogwr. Yr oedd yn athro rhagorol a daeth amryw o'i fyfyrwyr yn oleuadau mawr ymhlith yr Annibynwyr.