Canlyniadau chwilio

361 - 372 of 566 for "Dafydd"

361 - 372 of 566 for "Dafydd"

  • MADOG DWYGRAIG (fl. c. 1370), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest a rhai llawysgrifau eraill. Yn ei phlith ceir awdlau crefyddol a dychan, a hefyd awdlau i Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, Gruffudd ap Madog o Lechwedd Ystrad, a Morgan Dafydd ap Llywarch o Ystrad Tywi. Casglwyd rhai ohonynt yn y Myvyrian Archaiology of Wales.
  • MADOG FYCHAN ap MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1269) ŵyr Gruffydd Maelor I a brawd Gruffydd Maelor II. Pan fu ei dad farw yn 1236 ymunodd Madog Fychan yn y rhannu a ddilynodd ar Powys Fadog. Yr oedd ei osgo ef ar broblemau gwleidyddol mawr y cyfnod yn gyffelyb i eiddo Gruffydd Maelor I. Yn 1245 ceir ef ymhlith cynghreiriaid Dafydd II; yn 1258 yr oedd ar ochr Llywelyn II. Nid oedd y ffaith i'w ymrwymiad ar ran Tudur ab Ednyfed gael ei dderbyn gan
  • MAELGWN ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1173) Mab Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, brawd unfam i Iorwerth Drwyndwn ac ewythr Llywelyn I. Pan rannwyd y tiroedd y teyrnasai ei dad drostynt rhoddwyd Môn i Faelgwn, eithr gyrrwyd ef allan o'r ynys yn 1173 gan ei hannerbrawd, Dafydd I. Ffodd i Iwerddon, dychwelodd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chymerwyd ef yn garcharor. Ni wyddys mo'i hanes wedi hynny.
  • MANUEL, DAFYDD (1624? - 1726), bardd
  • MAREDUDD ap RHOSER, bardd , canghellor a thrysorydd Llandaf. Cyfeiria Dafydd Benwyn, yn ei farwnad i Faredudd, at ei farddoniaeth i William Evans.
  • MEREDITH, JOHN ELLIS (1904 - 1981), gweinidog (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) ac awdur y daeth yn aelod o Goleg yr Iesu gan rannu llety gyda T. Rowland Hughes, a ddaeth yn ffrind oes iddo. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd Cymraeg y dref a'r Brifysgol. Graddiodd yn 1930 gyda'r gymeradwyaeth uchaf [distinction] mewn diwinyddiaeth a chymerodd ei radd MA yn 1934. Treuliodd flwyddyn yn dilyn cwrs bugeiliol yng Ngholeg y Bala
  • MEREDUDD ap RHYS (fl. 1450-85), uchelwr, offeiriad, a bardd ganrif ond odid, y cyhuddir ef gan Guto'r Glyn o genfigennu wrtho a chwenychu ei le yn abaty Glyn y Groes, lle y cartrefai yn ei henaint gyda'r abad Dafydd. Diau na byddem ymhell o'n lle pe gosodem gyfnod ei weithgarwch fel 1440-50 hyd 1485. Enillodd Meredudd ap Rhys fri i'w enw am ei weithiau barddonol, ac am ei waith fel athro beirdd. Efe a fu'n hyfforddi Dafydd ab Edmwnd yn y gerdd dafod - y gwr a
  • MEURUG, RHYS (bu farw 1586-7), yswain, achwr, a hanesydd Roedd yn byw yn y Cotrel ym mhlwyf Sain Nicolas ym Mro Morgannwg. Yn ôl ei gyfoeswr, Dafydd Benwyn, yr oedd yn fab i Feurug ap Hywel ap Phylip ap Dafydd ap Phylip Hir, o hil Caradog Freichfras. Fe'i penodwyd gan iarll Penfro yn glerc yr heddwch yn Sir Forgannwg. Bu farw 1 Mawrth 1586/7, a chladdwyd ef yn eglwys y Bont-faen. Canwyd dwy farwnad iddo, y naill gan Ddafydd Benwyn (Cardiff MS. 2.277
  • MORGAN, DAFYDD SIENCYN (1752 - 1844), cerddor
  • MORGAN, DAVID (1814 - 1883), diwygiwr crefyddol Ganwyd yn 1814 ym Melin Fodcoll, rhwng Pontarfynach a Chwmystwyth, Sir Aberteifi, y trydydd o naw plentyn Dafydd Morgans, melinydd a saer, a Catherine ei wraig. Symudodd y teulu deirgwaith cyn ymsefydlu ym Melin y Lefel (a adeiladwyd gan ei dad) yn ardal Ysbyty Ystwyth, ac yno y bu'n byw hyd ei briodas. Dysgodd grefft saer yng ngweithdy ei dad. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
  • MORGAN, JOHN (1743 - 1801), clerigwr Lledrod am gyfnod a derfynodd ar ddiwedd 1771. Yn 1772 dilynodd ' Ieuan Brydydd Hir ' yng nghuradiaeth Llanberis (ni byddai rheithoriaid Llanrug a Llanberis yn ei gyfnod ef, John Ellis a Peter Bayly Williams, yn gwasnaethu yn Llanberis). Cyflog Morgan oedd £24, ac yr oedd yn byw yn y Tŷ-isa; cadwai ysgol y bu ' Dafydd Ddu Eryri ' yn ddisgybl ynddi yn 1774. Daeth John Morgan mor enwog fel pregethwr fel y
  • MORGAN, JOHN JAMES (1870 - 1954), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd ym Mawrth 1870 yng Nglynberws, Ysbyty Ystwyth, Ceredigion, mab Dafydd Morgan ('Y Diwygiwr') a Jane ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Ysbyty Ystwyth; ysgol Ystradmeurig, ysgol Thomas Owens, Aberystwyth; Coleg Aberystwyth a Choleg Trefeca. Ordeiniwyd ef yn 1894, a bu'n gweinidogaethu yn y Bont-faen, Morgannwg (1893-95) a'r Wyddgrug (1895-1946). Priododd 1895, Jeanetta Thomas, Llancatal