Canlyniadau chwilio

3721 - 3732 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3721 - 3732 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, JOHN (1762 - 1823), pregethwr Methodist ac emynydd Ganwyd ym Meidrym, Sir Gaerfyrddin. Bu'n trigo yn Llanedi am dymor; symudodd oddi yno i werthu llaeth yn Abertawe. Bu farw 28 Tachwedd 1823. Yr oedd yn bregethwr nerthol, ond yn bur ddiystyr o reolau'r Corff Methodistaidd. Ceir saith o'i emynau yng nghasgliad ei gymydog, Daniel Evans o'r Mynydd-bach, Swp o Ffigys, etc., 1824. Bu rhai ohonynt mewn bri unwaith ond nis arferir yn awr.
  • WILLIAMS, JOHN (1747 - 1831), clerigwr Methodistaidd Ganwyd 1747 ym Mhenwern-hir, ger Pontrhydfendigaid, Sir Aberteifi, mab William Rees Mathias ac Ann, ei briod. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig ac ysgol ramadeg Caerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1770, ac yn offeiriad yn 1771, a gwasnaethodd fel curad Lledrod a Llanwnnws. Daeth o dan ddylanwad clerigwyr Methodistaidd yr ardal - Williams, Llanfair Cludogau, a Daniel Rowland - ac ymunodd â'r
  • WILLIAMS, JOHN (1833 - 1872), hynafiaethydd a chyfreithiwr Ganwyd 7 Rhagfyr 1833, mab hynaf John Williams, Trosyrafon, curad parhaol Llanfaes, Llangoed, a Phenmon. Ymsefydlodd ym Miwmares fel cyfreithiwr mewn partneriaeth â'i frawd, a gweithredai, hefyd, fel 'agent' dros stad Carreglwyd. Yr oedd yn hynafiaethydd diwyd ac o gryn safon, ac ymddiddorai'n arbennig yn hanes hen deuluoedd bonheddig Môn. Ymysg ei waith cyhoeddedig y mae: David Hughes, M.A., and
  • WILLIAMS, JOHN (1768 - 1825), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 8 Mawrth 1768 yn Plas Llecheiddior, gerllaw Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Symudodd yn ifanc i Rhwng-y-ddwyryd, Dolbenmaen. Dygwyd ef i fyny yn Eglwys Loegr, eithr gwrthododd dderbyn cynnig ei deulu i roddi cwrs o addysg glasurol iddo a dewis yn hytrach fyned i fasnach yng Nghaernarfon. Argyhoeddwyd ef o dan bregeth gan David Morris, Twrgwyn, pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yn 1787
  • WILLIAMS, JOHN (1854 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 24 Rhagfyr 1854 yn Cae'r-gors, Llandyfrydog, sir Fôn. Hanoedd ei dad, John Williams, o gymdogaeth Mynydd y Garn, a'i fam, Jane Rowland, o Gemaes. Symudodd y teulu pan oedd ef yn 9 oed i Fiwmares. Yno yn 1871 aeth i'r ysgol ramadeg a gedwid gan John Evans, ac wedyn gan Hugh Williams (1843 - 1911). Dechreuodd bregethu yn 1873 ac yn 1875 aeth i Goleg y Bala o dan Dr. Lewis Edwards. Yn 1878
  • WILLIAMS, JOHN (1754 - 1828), clerigwr Methodistaidd arglwyddes Huntingdon yn Nhrefeca, yn 1784, a bu'n brifathro yno o 1786 i 1791. Bu'n gefn i Fethodistiaid Brycheiniog, a chymerth ran ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn 1811. Golygodd argraffiad newydd o emynau dad, Gwaith Prydyddawl … W. Williams (Caerfyrddin, 1811), ac ef a drosodd emyn Saesneg ei dad, ' O'er the gloomy hills of darkness ', yn Gymraeg. Cyhoeddodd ei drosiad o lyfr William Jones (Nayland
  • WILLIAMS, JOHN, gof aur farw 1552) i Drayton. Priododd Williams â gweddw rhyw Isaac, gof arian (awgryma J. E. Griffith, op. cit. 393 a 359, mai dyn o Lanfrothen oedd hwnnw). Cymysgwyd John Williams o'r Hafod Lwyfog gan rai ysgrifenwyr â gwr arall, llawer mwy adnabyddus, o'r un enw, sef y ' Sir John Williams, maister of the kinges jewels,' yr edrydd Stow (Survey of London, arg. ' Everyman,' 264) hanes llosgi ei dy yn 1541
  • WILLIAMS, JOHN (RUFUS) (Rufus; 1833 - 1877), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur Ganwyd ym Merthyr Tydfil 5 Mai 1833, yn fab i William a Hannah Williams, aelodau yn Abercanaid, lle y bedyddiwyd yntau yn 1848. Bu'n gweithio'n ifanc yng ngwaith haearn Pentre-bach, ond dechreuodd bregethu 24 Ebrill 1850, ac yn Ionawr 1855, wedi dwy flynedd o addysg mewn ysgol a gedwid ym Merthyr gan Thomas Davies (wedi hynny prifathro Coleg y Bedyddwyr, Hwlffordd), aeth i goleg Pontypwl. Yn 1859
  • WILLIAMS, JOHN (Glanmor; 1811 - 1891), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd yn y Foryd, ger y Rhyl, 11 Awst 1811, yn fab i William ac Elizabeth King Williams. Dechreuodd ei yrfa fel ysgolfeistr. Yn 1849 penodwyd ef yn athro yn Ysgol Genedlaethol Llangernyw, sir Ddinbych. Symudodd oddi yno yn 1852 i'r Blue Coat School yn Ninbych, ac yno y bu hyd 1859. O Ddinbych aeth yn athro i ysgol genedlaethol Gwersyllt, ger Wrecsam, lle y bu hyd 1864. Yn 1864 aeth yn ddisgybl i
  • WILLIAMS, JOHN (1825 - 1904), clerigwr ac awdur brodor o Sir Drefaldwyn Cafodd ei ordeinio yn 1868 gan esgob Llandaf a bu'n gurad yn Tredegar, sir Fynwy, 1868-76. Wedyn bu'n genhadwr ymhlith Cymry Llundain; ymddengys iddo fod yn llafurio ym mhlwyf S. Stephen's, Spitalfields hefyd. Dychwelodd i Gymru yn 1881 a bu'n gurad yn Newcastle (Penybont-ar-Ogwr) cyn cael ei ddewis, yn 1883, yn rheithor Penegoes, Sir Drefaldwyn. Ysgrifennodd Cymry
  • WILLIAMS, JOHN (1801 - 1859), meddyg a naturiaethwr Ganwyd yn 1801 ym Mhentre'r Felin, Llansantffraid Glan Conwy, yn ail fab i Cadwaladr Williams, melinydd; yr oedd Cadwaladr Williams yn gefnder i John Jones, Talsarn - eu tadau'n frodyr. Addysgwyd John Williams yn Lerpwl; gymaint oedd ei awydd am dyfu'n naturiaethwr fel y bwriodd gryn amser yn Ashridge ac yng ngerddi Kew. Prentisiwyd ef i'w frawd hŷn, William, a oedd yn feddyg ac apothecari yn
  • WILLIAMS, Syr JOHN (1840 - 1926), barwnig, meddyg i'r teulu brenhinol, prif sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Ganwyd 6 Tachwedd 1840, yn Bailey, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin, trydydd mab David Williams, Blaenllynant, gweinidog gyda'r Annibynwyr ac amaethwr, ac Eleanor ei wraig. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn y pentref, yn y 'Normal School,' Abertawe (yr oedd â'i fryd ar fyned i'r weinidogaeth y pryd hwn), ac ym Mhrifysgol Glasgow (1857-8). Ar 20 Gorffennaf 1859 prentisiwyd ef gyda'r meddygon W. H. Michael ac