Canlyniadau chwilio

3805 - 3816 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3805 - 3816 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, RICHARD (Dryw Bach; 1790 - 1839), bardd a datganwr Ganwyd yn Pant y Gerddinen, plwyf Aberdâr. Enillodd wobrwyon am farddoniaeth - am awdl i'r ' Goleuni,' ac englynion ar ' Pont Pontypridd '; yr oedd yn ail orau yn eisteddfod Caerdydd, 1834, am englynion ar y testun, ' Ardalydd ac Ardalyddes Bute.' Testun ei ymgais lwyddiannus olaf oedd ' Priodas William Williams, Ysw., Aberpergwm.' Enillodd hefyd rai gwobrau am ddatganu. O ran galwedigaeth
  • WILLIAMS, RICHARD (1747 - 1811), clerigwr a llenor Ganwyd ym Mhenarlâg yn 1747 yn fab i'r rheithor, Richard Williams (M.A., Coleg Iesu, Rhydychen), a oedd yn fab i Peter Williams, clerigwr yntau, perchennog y Fron (Arddynwynt) gerllaw'r Wyddgrug - hawliai'r teulu dras Cynwrig Efell (Yorke, Royal Tribes of Wales). Yn Rhagfyr 1765, 'yn 18 oed,' aeth i Goleg Brasenose, Rhydychen, ond nid oes gofnod iddo raddio. Bu'n rheithor Machynlleth, 1789-1805
  • WILLIAMS, RICHARD (Gwydderig; 1842 - 1917), glöwr a bardd Ganwyd 16 Chwefror 1842, mewn bwthyn o'r enw Pen-y-graig, Brynaman, mab Daniel Richard Williams, glöwr, a'i wraig Mari, merch fferm. Magwyd ef yn Bryn Hafod, Brynaman. Collodd ei dad pan nad oedd ond ieuanc. Dilynodd yntau yng nghamre ei dad a mynd i weithio mewn glofa. Dechreuodd anfon englynion i'r Gwladgarwr pan oedd 'Caledfryn' (William Williams) yn olygydd y golofn farddol yn y papur hwnnw
  • WILLIAMS, RICHARD (fl. 1790?-1862?), baledwr, a chantwr pen ffair
  • WILLIAMS, RICHARD (1802 - 1842), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd yn y Winllan, Llanbrynmair, 31 Ionawr 1802, mab Richard a Mary Williams, a brawd William Williams ('Gwilym Cyfeiliog'). Addysgwyd ef yn ysgol ei ewythr, y Parch. John Roberts, ac yn ysgol William Owen, Trallwng, yn ddiweddarach bu mewn ysgolion yn Birmingham, Wrecsam, a Lerpwl; ac yno, ar ôl ysbaid, yr agorodd ysgol ei hunan. Yn 1830 priododd â Mary, merch y Parch. Thomas Hughes, Lerpwl
  • WILLIAMS, RICHARD (1835 - 1906), hynafiaethydd, hanesydd, a chyfreithiwr Ganwyd yn Bontdolgadfan, Llanbrynmair, mab William Williams ('Gwilym Cyfeiliog'). Addysgwyd ef yn ysgolion Llanbrynmair a'r Drenewydd ac yn academi'r Bala (o dan ofal Dr. Lewis Edwards a John Parry). Yna gweithiodd yn swyddfeydd y cyfreithwyr David Howell, Machynlleth, 1851-6, ac Abraham Howell, Trallwng, 1856-69; fe'i derbyniwyd yn gyfreithiwr yn 1866. Symudodd i'r Drenewydd yn 1869 ac yno y
  • WILLIAMS, RICHARD HUGHES (Dic Tryfan; 1878? - 1919), newyddiadurwr ac awdur storïau byr cyhoeddwyd detholiad, Storïau gan Richard Hughes Williams, gan Hughes a'i Fab.
  • WILLIAMS, ROBERT (1782 - 1818), cyfansoddwr yr emyn-dôn 'Llanfair' a welir ymhob llyfr tonau cynulleidfaol Cymraeg, ac yn Songs of Praise a llyfrau tonau Saesneg eraill. Cyfansoddodd y Dr. R. Vaughan Williams amrywiadau ohoni. Ganed Robert Williams yn ffermdy Mynydd Ithel, Llanfechell, sir Fôn, yn fab i Owen Williams a Mary (ganwyd Davies). Bedyddiwyd ef ar 27 Hydref 1782 yn Llanfechell. Yr oedd yn ddall o'i enedigaeth, ac enillai ei fywoliaeth drwy wneud
  • WILLIAMS, ROBERT (Robert ap Gwilym Ddu; 1766 - 1850), bardd Ganwyd 6 Rhagfyr 1766, unig blentyn William Williams a Jane (Parry) o'r Betws Fawr, ffermdy ym mhlwyf Llanystumdwy. Tebyg mai yn un o ysgolion y gymdogaeth y cafodd addysg gyffredinol, ac mai gan rai o feirdd Eifionydd y dysgodd gelfyddyd barddoniaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn amaethwr cyfrifol, ond cafodd hamdden i ddilyn diddordebau megis llenyddiaeth Gymraeg, diwinyddiaeth
  • WILLIAMS, ROBERT (1848 - 1918), pensaer, awdur a diwygiwr cymdeithasol Face of the Poor or the Crowding of London's Labourers. Yn 1905, cyhoeddodd Williams The Labourer and His Cottage. Roedd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, a lluniodd ddarluniau hardd yn y cyfarfodydd maes yn Sir Aberteifi yn 1897, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y gymdeithas, Archaeologia Cambrensis, ac yn The Builder. Glynodd Robert Williams wrth ei wreiddiau Cymreig, ac yn wir gellir ei weld
  • WILLIAMS, ROBERT (Trebor Mai; 1830 - 1877), bardd Ganwyd 25 Mai 1830 yn Nhŷ'n-yr-ardd ger Llanrhychwyn, Sir Gaernarfon, yn fab i deiliwr. Addysgwyd ef mewn ysgoldy-lleol yn Llanrhychwyn ac am ysbaid yn ysgol rad Llanrwst. Pan oedd yn 13 oed symudodd ei deulu i fyw i Lanrwst a dechreuodd yntau ddilyn crefft ei dad. Wedi priodi, 13 Hydref 1854, agorodd ei fusnes ei hun fel teiliwr yn yr un dref, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Cyn hyn
  • WILLIAMS, ROBERT (1810 - 1881), clerigwr, ysgolhaig Celtig, a hynafiaethydd Ganwyd yng Nghonwy 29 Mehefin 1810, yn ail fab i Robert Williams, curad parhaol Llandudno. Ar ôl cael ei addysg gynnar yn ysgolion Biwmares ac Amwythig, aeth i Goleg Christ Church, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1832 ac yn M.A. yn 1836. Bu'n gurad Llangernyw, sir Ddinbych, o 1833 hyd 1836. Yn 1837 fe'i penodwyd yn ficer Llangadwaladr, ac yn 1838 yn gurad parhaol Rhydycroesau, ger