Canlyniadau chwilio

3841 - 3852 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

3841 - 3852 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • WILLIAMS, THOMAS (Twm Pedrog; 1774 - 1814), bardd Ganwyd 25 Mai 1774, mab Owen Williams, amaethwr a thafarnwr y ' Sign,' Llanbedrog, Sir Gaernarfon, a Catherine ei wraig - a'i fedyddio 3 Mehefin 1774. Bu am gyfnod ar y môr - gweler ei 'Awdl i M.W.P. (B.B.) ac E.F., pan oedd y bardd ar y môr yn llong ei fawrhydi, Amethyst, 1800'; yn ddiweddarach ymsefydlodd yn ei sir enedigol. Ceir llawer o'i waith yng nghyfrolau Brython (Tremadog) a cheir
  • WILLIAMS, THOMAS (Brynfab; 1848 - 1927), llenor ac amaethwr Ganwyd 8 Medi 1848 yn Fforch Aman, ffermdy yng Nghwmaman, Aberdâr, mab Thomas a Gwenllian Williams. Symudodd y teulu i'r Fforch, Treorci, pan oedd y mab yn ifanc iawn, ac yno y derbyniodd yr ychydig addysg a gafodd. Pan oedd yn 25 mlwydd oed ymsefydlodd yn yr Hendre, plwyf Eglwysilan, a bu'n amaethwr yno am dros 50 mlynedd. Wedi ymddeol aeth i fyw i'r Hendre Wen, S. Athan. Bu farw 18 Ionawr 1927
  • WILLIAMS, THOMAS (Hafrenydd; 1807 - 1894), cerddor Ganwyd 7 Rhagfyr 1807 yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn. Dechreuodd astudio cerddoriaeth yn 10 oed, a chafodd ychydig wersi gan William Owen, Drefnewydd, a thrwy astudio'r gwerslyfrau cerddorol daeth yn gerddor da. Ei gyfraniad pwysig i gerddoriaeth Cymru oedd dwyn allan, yn 1846, Y Salmydd Cenhedlaethol, yn cynnwys salm-donau, tonau, a darnau corawl cysegredig wedi eu dethol o weithiau Handel, Haydn
  • WILLIAMS, THOMAS (Gwilym Morganwg; 1778 - 1835), bardd Ganwyd ym Melin Gallau, plwyf Llanddety, sir Frycheiniog, 20 Tachwedd 1778, mab William Thomas. Symudodd y teulu tua 1781 i fyw ym Melin Pontycapel, Cefncoedycymer. Dywed llythyr Taliesin ab Iolo iddo ddechrau gweithio tua saith oed mewn lefel lo a oedd gan ei dad. Ni ddywedir fawr am yr addysg fore a gafodd ond iddo ddechrau llenydda pan oedd yn llanc ifanc. Pan oedd tua 27 aeth i Lundain, ond
  • WILLIAMS, THOMAS (Tom Nefyn; 1895 - 1958), gweinidog (MC) ac efengylydd a Chanaan, gan ddioddef caledi mawr a'i glwyfo. Cyfarfu â David Williams (Bywg. 2, 173-4), a oedd yn un o gaplaniaid y fyddin, yn ystod ei wasanaeth yn y Dwyrain Canol. Byddai'n prydyddu yn y dyddiau hynny a chyhoeddodd ei gyfaill, William Williams o Gaernarfon, gasgliad bychan o'i ganeuon dan y teitl Barddoniaeth o waith Twm Nefyn (d.d.). Dychwelodd o'r rhyfel yn basiffist angerddol. Ymhen rhai
  • WILLIAMS, THOMAS (1755 - 1839), llyfrwerthwr - gweler WILLIAMS, EVAN
  • WILLIAMS, THOMAS CHARLES (1868 - 1927), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 28 Awst 1868 yn Bryntirion, Gwalchmai, sir Fôn, mab i'r Parch. Hugh Williams, a'i fam yn ferch i'r Parch. John Charles (1784 - 1858) ac yn chwaer i'r Parchn. Hugh (1806 - 1839), John (1809 - 1865), William (1817 - 1849), a David (1823 - 1860) Charles - y ddau olaf yn bregethwyr poblogaidd iawn. Cafodd ei addysg yng Nghroesoswallt, y Bala, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y
  • WILLIAMS, Syr THOMAS HERBERT PARRY- - gweler PARRY-WILLIAMS, Syr THOMAS HERBERT
  • WILLIAMS, THOMAS HUDSON - gweler HUDSON-WILLIAMS, THOMAS
  • WILLIAMS, THOMAS LLOYD (1830 - 1910), llenor Ganwyd yn Brongaled, Dyffryn Ardudwy, Sir Feirionnydd, 25 Tachwedd 1830. Yr oedd dylanwad y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan yn fawr arno. Bu'n siopwr am gyfnod cyn ymfudo i Racine, Wisconsin, U.D.A., 1850; yno agorodd fasnachdy a gweithio hefyd mewn ffatri wlân. Ysgrifennai i'r Drych a newyddiaduron eraill. Cyhoeddodd A brief history of the early Welsh settlers of Racine and of the
  • WILLIAMS, Syr THOMAS MARCHANT (1845 - 1914), bargyfreithiwr a llenor ymunodd â'r gylchdaith ddeheuol. Penodwyd ef yn ynad cyflog ym Merthyr Tydfil yn 1900 a daliodd y swydd honno hyd y diwedd. Yr oedd ei ddiddordeb yn yr eisteddfod a materion addysg yng Nghymru yn ddwfn. Ysgrifennodd lawer, gan gynnwys The Welsh Members of Parliament, 1894, disgrifiadau beirniadol a miniog, gyda darluniau gan Will Morgan; The Land of my Fathers; ac Odlau Serch a Bywyd, 1907, cyfrol
  • WILLIAMS, THOMAS OSWALD (ap Gwarnant; 1888 - 1965), gweinidog (U), llenor, bardd, gŵr cyhoeddus Ganwyd 10 Mai 1888, yn un o bedwar o blant Rachel a Gwarnant Williams, ffermwr, bardd a gŵr cyhoeddus, fferm Gwarnant, plwyf Llanwenog, Ceredigion. Cafodd ei addysg yn ysgol Cwrtnewydd ac ysgol Dafydd Evans, Cribyn (1901-02); a chael ei brentisio'n ddisgybl athro; am gyfnod o ddeng mlynedd bu'n is-athro yn ysgol Blaenau, Gors-goch, ac ysgol Cwrtnewydd. Yn 1911, ' heb awr o ysgol eilradd ' aeth i