Canlyniadau chwilio

397 - 408 of 960 for "Ebrill"

397 - 408 of 960 for "Ebrill"

  • JONES, EVAN (Gurnos; 1840 - 1903), gweinidog gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, bardd, beirniad, darlithydd, ac arweinydd eisteddfodol Ganwyd 14 Ebrill 1840 yn Hendrelywarch (Penrhipyn, medd eraill), Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John a Mary Jones. Tua 1848 symudodd y teulu i Ystalyfera. Ymhen dwy flynedd bu farw ei fam, a'i dad ymhen pum mlynedd arall. Cafodd ei addysg fore yn ysgol y Parch. Daniel Evans yn y Plough and Harrow, Gwernogle, ac yn ysgol y gwaith, Ystalyfera. Ymddiddorodd ei frawd hyn (David, ' Dewi Ogle,' a
  • JONES, Syr EVAN DAVIES (1859 - 1949), barwnig, Pentower, Aber-gwaun, sir Benfro, peiriannydd sifil, arglwydd raglaw sir Benfro, etc. Ganwyd 18 Ebrill 1859, mab Thomas Jones, capten llong, Aber-gwaun, a'i wraig Martha Philipps. Cafodd ei addysgu yn ysgol genedlaethol Aber-gwaun, yn breifat, ac yng ngholeg prifathrofaol Bryste (Prifysgol Bryste erbyn hyn). Penderfynodd fyned yn beiriannydd sifil a bu'n gweithio ar dwnel Hafren ac ar gamlas llongau Manceinion. Yn ddiweddarach daeth yn aelod o ffyrm Topham, Jones, a Railton, ac
  • JONES, GARETH RICHARD VAUGHAN (1905 - 1935), newyddiadurwr Sofietaidd, er i rai newyddiadurwyr a weithiai ym Mosgo fel Walter Duranty o'r New York Times geisio tanseilio ei adroddiad. O Ebrill 1933 i haf 1934 gweithiodd Jones fel newyddiadurwr ar y Western Mail yng Nghaerdydd. Yn Hydref 1934 cychwynnodd ar 'Daith o amgylch y Byd' a fyddai'n arwain at gyfres o erthyglau ar UDA o dan Roosevelt, Siapan, Ynysoedd y Philipinau, Singapôr, Cambodia a Tsieina. Tra'n
  • JONES, GRIFFITH (1683 - 1761), diwygiwr crefyddol ac addysgol Catherine II, ymerodres y wlad honno. Bu Margaret, gwraig Griffith Jones, farw ar 5 Ionawr 1755 - dywedwyd amdani ei bod yn wraig dduwiol ac elusengar; bu yntau farw 8 Ebrill 1761, yn 77 oed, yn nhŷ Madam Bevan yn Llacharn, lle y bu'n byw ar ôl marw ei wraig. Claddwyd Griffith Jones a'i wraig yn eglwys Llanddowror.
  • JONES, GRIFFITH (1808 - 1886) Tregarth, Bangor, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Mab John Humphreys, Ty'n-y-clawdd, Tregarth. Cafodd gwrs byr o ysgol yn y Carneddi, ac wedyn yn Llanfairfechan. Gyda'i dad dysgodd grefft crydd. Dechreuodd bregethu yn 1832. Wedi iddo fod yn y Bala am oddeutu blwyddyn a chael ei dderbyn i'r gymdeithasfa yn 1834 ordeiniwyd ef yn 1845. Gwrthododd gymryd ei symud o'i fro gynefin ac yno y bu farw 18 Ebrill 1886. Galwyd ef i fugeilio'r eglwys yn
  • JONES, GRIFFITH ARTHUR (1827 - 1906), clerigwr Ganwyd yn Rhiwabon, a'i fedyddio 16 Gorffennaf 1827, unig fab a phumed plentyn John Jones (curad Rhiwabon 1819-30, a rheithor Llangwm 1830-72) a Charlotte Harriett ei wraig. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, Ebrill 1847, a graddio'n B.A. yn 1851 ac yn M.A. yn 1853. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Bethell o Fangor, 21 Rhagfyr 1851, a'i drwyddedu i guradiaeth Heneglwys a
  • JONES, GRIFFITH HARTWELL (1859 - 1944), offeiriad a hanesydd Ganwyd 16 Ebrill 1859, yn Llanrhaeadr Mochnant, lle'r oedd ei dad, Edward Jones (1826 - 1892), yn ficer. Hannai o deulu David Jones ('Dewi Fardd'), Trefriw, ac felly yr oedd yn ŵyr i John Jones (1786 - 1865) yr argraffydd enwog - Gwasg 'Gwyndod Wryf' o Lanrwst. Yn 16 oed aeth i ysgol Anwythig ac oddiyno i Goleg Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn D.D. ac yn D.Litt. Rhydychen. O 1888 hyd 1893 bu'n athro
  • JONES, GWILYM RICHARD (Gwilym Aman; 1874 - 1953), cerddor, arweinydd corau a chymanfaoedd, emynydd Ganwyd yn Siop y Bont, Brynaman, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1874, yn fab i Richard Jones ac Elizabeth (ganwyd Mathew) ei wraig. Brodor o Dŷ-croes oedd y tad, baritôn llwyddiannus a ymsefydlodd ym Mrynaman wedi priodi, ac yng nghanol diwylliant bywiog yr ardal honno yn nyddiau bri Watcyn Wyn a Gwydderig y tyfodd y bachgen. Cafodd wersi cerddoriaeth gan Joseph Parry pan oedd hwnnw yn gôr-feistr ac
  • JONES, HARRY LONGUEVILLE (1806 - 1870), archaeolegydd ac addysgwr Ganwyd Harry Longueville Jones yn Piccadilly, Llundain, ar 16 Ebrill 1806, yr hynaf o dri phlentyn (ac unig fab) Edward Jones (1774-1815), llieinwerthwr a'i wraig Charlotte Elizabeth (ganwyd Stephens, 1784-ar ôl 1832). Roedd gan Jones gysylltiadau â Chymru drwy dad ei dad, Capten Thomas Jones o Wrecsam, a laddwyd mewn gornest yn 1799, a oedd wedi ychwanegu'r enw Longueville ar ôl etifeddu rhai o
  • JONES, HUGH (1749 - 1825), cyfieithydd ac emynydd 1817 bu'n cadw ysgol mewn gwahanol ardaloedd ym Meirionnydd a Sir Drefaldwyn. O 1817 hyd ei farwolaeth, 16 Ebrill 1825, bu'n gweithio i wahanol gyhoeddwyr yn cyfieithu llyfrau i'r wasg - yn Nolgellau gyda R. Jones, yng Nghaernarfon gyda L. E. Jones, ac yn Ninbych gyda Thomas Gee. Cyhoeddodd dros 20 o lyfrau, y rhan fwyaf ohonynt yn gyfieithiadau o'r Saesneg ac yn llyfrau crefyddol. Ei lyfr cyntaf
  • JONES, HUGH WILLIAM (1802 - 1873), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a golygydd Ganwyd 9 Ebrill 1802 yn y Cwrt, Penrhyn-coch, Ceredigion, yn fab i John ac Elizabeth Jones. Eglwyswyr selog oedd ei rieni, a bwriedid iddo yntau fod yn glerigwr; eithr (nid heb gryn wewyr meddwl) troes at y Bedyddwyr, a bedyddiwyd ef (gyda'i fam) 25 Mawrth 1821. Gan nad oedd le iddo yn athrofa'r Fenni, aeth i goleg Bradford, a bu yno bedair blynedd. Ar 10 Ebrill 1828 urddwyd ef yn weinidog
  • JONES, JOHN Maesygarnedd,, 'y brenin-leiddiad' perthyn o bell i'w fam gan eu bod yn disgyn, fel hithau, o Syr John Done; erbyn 1639 yr oedd John yng ngwasanaeth Syr William, mab Syr Hugh Myddelton. Cafodd addysg dda, yr oedd yn gwybod Lladin yn bur dda, a chafodd beth addysg yn y gyfraith er bod y modd y bu iddo wrthod ymgymryd â mater o gyfraith ar gais Syr Owen Wynn, Gwydir, 2 Ebrill 1642, yn awgrymu nad oedd wedi gorffen ei gwrs yn y gyfraith