Canlyniadau chwilio

445 - 456 of 960 for "Ebrill"

445 - 456 of 960 for "Ebrill"

  • JONES, THOMAS TUDNO (Tudno; 1844 - 1895), clerigwr a bardd Ganwyd 28 Ebrill 1844 yn Llandudno, i Thomas Jones a Mary ei wraig, merch Griffith Griffiths, Bryncelyn Fawr, Llanengan. Cafodd ei addysg mewn ysgolion yn ymyl ei gartref. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio mewn siop gyda'i frawd. Yn 1867 penodwyd ef yn olygydd y Llandudno Directory. Bu wedyn am ychydig yng Nghaernarfon ar staff y Carnarvon and Denbigh Herald. O 1874 hyd 1880 bu'n golygu Llais y
  • JONES, TOM ELLIS (1900 - 1975), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg Benuel, Bangor, yn Ebrill 1928 a ganwyd un ferch, Luned, iddynt. Symudodd i fod yn weinidog eglwys y Bedyddwyr yn Soar, Llwynhendy, yn 1929, ac yn fuan ar ôl ymsefydlu yno dyfarnodd Prifysgol Cymru radd M.A. iddo am draethawd yn olrhain gogwyddiadau crefyddol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar Ffwleriaeth. Anerchodd Gymdeithas Hanes y Bedyddwyr ar y pwnc yn 1936 a chyhoeddwyd sylwedd ei draethawd yn
  • JONES, WALTER (bu farw 1819) Cefn Rug,, comisiynwr o dan ddeddfau i gau tiroedd Ddinbych; enwyd ef mewn dwy weithred seneddol arall eithr gwrthododd weithredu. Bu farw 7 Ebrill 1819.
  • JONES, WATKIN (Watcyn o Feirion; 1882 - 1967), post-feistr, siopwr, bardd gwlad, gosodwr a hyfforddwr cerdd dant Cymdeithas Cerdd Dant Cymru gan mai ef oedd un o'r tri a alwodd ynghyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn y Bala ar 10 Tachwedd 1934 a arweiniodd at sefydlu'r Gymdeithas. Ef fu ei thrysorydd o'i chychwyn hyd 1950. Priododd ag Annie Thomas 13 Ebrill 1906 a bu iddynt saith o blant. Un o’u plant oedd Elizabeth May Watkin Jones. Bu farw ym Mod Athro, Dinas Mawddwy, 14 Chwefror 1967.
  • JONES, WILLIAM (1675? - 1749), mathemategwr Rhydychen, fu ei gartref am flynyddoedd meithion. Collodd arian pan dorrodd ei fanc, ond trwy ei gyfeillgarwch â'r mawrion' cafodd amryw segurswyddi. Bu'n briod ddwywaith. Priododd (1) â gweddw'r marsiandïwr a'i cyflogodd ar ôl iddo fynd i Lundain. Gall hyn egluro sut y cafodd yr arian a gollodd yn nes ymlaen; a (2) â Mary Nix ar 17 Ebrill 1731 pan oedd ef yn 56 a hithau yn 25, a chafodd ddau fab a merch
  • JONES, WILLIAM (1790 - 1855), gweinidog a hanesydd y Bedyddwyr Ganwyd ym Mhenycaemain, Llangadog, Sir Gaerfyrddin, 1 Awst 1790. Aeth i ffwrdd yn ifanc iawn gyda'i frawd i weithiau haearn Dowlais, Penydarren, a'r 'Plymouth,' gan ymaelodi gyda'r Bedyddwyr yng nghapel Seion, Merthyr Tydfil. Cymhellwyd ef yno i ddechrau pregethu, ac yn Ebrill 1810 fe'i derbyniwyd i athrofa'r Fenni. Bu'n weinidog ym Mhenuel, ger Caerlleon-ar-Wysg (ac at hynny yn genhadwr cartref
  • JONES, WILLIAM (Gwilym Myrddin; 1863 - 1946), bardd Ganwyd ar fferm Llwyndinawed ym mhlwyf Cil-y-cwm ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1863, yn fab i Evan Jones. Prin a fu ei ddyddiau ysgol oherwydd gofynion y fferm. Yn 1886 priododd Elizabeth Jones, Pumpsaint, Sir Gaerfyrddin, a thua diwedd 1898 gadawodd ei fro enedigol, a symud i'r Betws, Rhydaman. Bu am ysbaid yn feili ar fferm ger Rhydaman ac yn ddiweddarach cafodd swydd fel gofalwr
  • JONES, WILLIAM ARTHUR (1892 - 1970), cerddor Ganwyd yng Nghaernarfon, 5 Ebrill 1892, yn fab i J. R. Gwyndaf Jones, darllenydd proflenni i'r Genedl, ac Elizabeth Jones ei wraig. Ar ochr ei dad yr oedd o linach Richard Jones, ' Gwyndaf Eryri ', a'i fam yn ferch i John Jones, ' Eos Bradwen '. Oherwydd cysylltiadau teuluol y fam fe'i hadweinid fel ' William Bradwen ' pan oedd yn blentyn ysgol, a mynnodd yntau lynu wrth yr enw hwnnw hyd derfyn
  • JONES, WILLIAM OWEN (1861 - 1937), gweinidog 'Eglwys Rydd y Cymry,' Lerpwl Ganwyd 7 Ebrill 1861, ym Mhenbryn, Chwilog, yn fab i Richard Jones, amaethwr, ac Ellen Hughes. Addysgwyd ef yn ysgolion Llanystumdwy, Holt, a Chlynnog. Yn Holt dechreuodd bregethu, ac aeth i Goleg y Bala, oddi yno i Goleg Bangor, ac i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, a graddio (1890) gydag anrhydedd mewn athroniaeth. Yn 1890 derbyniodd alwad eglwys Methodistiaid Calfinaidd Waunfawr, Arfon. Ymhen pum
  • JOSHUA, SETH (1858 - 1925), gweinidog (MC) Ganwyd 10 Ebrill 1858 yn Nhy Capel (B Cymraeg), Trosnant Uchaf, Pont-y-pwl, Mynwy, yn fab i George Joshua a Mary (ganwyd Walden) ei wraig. Priododd â Mary Rees, Llantrisant yng Nghastell-nedd, Morgannwg, 23 Medi 1883, a bu iddynt wyth o blant (bu un mab, Peter, yn weinidog ac efengylydd poblogaidd yn yr Amerig a mab arall, Lyn, yn gyfrifol gyda Mai Jones am y gân ' We'll keep a welcome
  • JOYCE, GILBERT CUNNINGHAM (1866 - 1942), esgob Ganwyd 7 Ebrill 1866, trydydd mab Francis Hayward Joyce, ficer Harrow-on-the-Hill. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow, ac enillodd ysgoloriaeth yng ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y ddau arholiad yn y clasuron (1886 a 1888); cymerodd ei B.A. 1888, M.A. 1892, B.D. 1904, a D.D. 1909. Bu'n astudio yn yr Almaen, ac ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1892 gan yr esgob
  • KEMBLE, CHARLES (1775 - 1854), chwaraewr drama yn ŵr adnabyddus ym myd y theatr. Fel ei frawd John Philip cafodd Charles ei addysgu yn yr English College yn Douai. Dechreuodd actio yn Sheffield yn 1792, gan ymddangos mewn theatr yn Llundain am y tro cyntaf ar 21 Ebrill 1794 - Malcolm yn Macbeth. Bu'n gwasnaethu Colman hyd 1802, ac o hynny ymlaen yng ngwasanaeth John Philip Kemble yn Covent Garden. Priododd, 2 Gorffennaf 1806, Marie-Therese de