Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 310 for "Dewi"

37 - 48 of 310 for "Dewi"

  • DAVIES, JOHN (1860 - 1939), llyfryddwr ac achyddwr Cymreig Ganwyd 7 Awst 1860 yn Llundain-fach, Llandysul, Sir Aberteifi, mab John William a Mary Davies. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol Capel Dewi ac yn ysgol Eilir, Llandysul. Bu'n gweithio ar fferm yn yr ardal ac yna fel glowr yn y Maerdy, Rhondda. Wedi dioddef effeithiau nwy yn nhanchwa 1889 ymsefydlodd fel masnachwr esgidiau a chlocsiau yn Llanbedr-Pont-Steffan. Oherwydd ei ddiddordeb dwfn mewn
  • DAVIES, JOHN PHILIP (1786 - 1832), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, esboniwr, diwinydd dyletswydd pob gwrandawr oedd ei derbyn. Credai yntau yn Neilltuolrwydd y Prynedigaeth, eithr lleolai'r neilltuolrwydd yng nghyfaddasiad effeithiau'r Iawn at yr etholedigion yn unig, ac nid yn rhinwedd yr Iawn ei hun. Cymerth ran flaenllaw yn y ddadl Ffwleraidd yn Seren Gomer, 1822-3, o dan y ffugenw ' Mab Dewi Ddu.' Cyhoeddodd amryw ysgrifau a phregethau yn Seren Gomer (1822-3, 1818, 1824, 1825), ynghyd â
  • DAVIES, OWEN (1840 - 1929), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn amaethdy Cae Plan ger Pwllheli, 8 Hydref 1840. Yr oedd ei dad, Owen Davies, yn gefnder i David Owen ('Dewi Wyn o Eifion'). Addysgwyd ef yn ysgolion Llanystumdwy ac Yokehouse, Pwllheli; prentisiwyd ef yn ddilledydd ym Mhwllheli, ac aeth i siop yn Llanelwy yn 18 oed. Yn Llanelwy y dechreuodd bregethu. Yn 1862 aeth i Goleg y Bedyddwyr, Llangollen, yn un o'r chwe efrydydd cyntaf. Bu'n
  • DAVIES, ROBERT (Bardd Nantglyn; 1769 - 1835), bardd a gramadegwr Gwlad,' yng Nghaerwys yn 1798. Yr oedd yn cydfeirniadu ag 'Iolo Morganwg' yng Nghaerfyrddin yn 1819. Enillodd yn Wrecsam yn 1820 am awdl ar farwolaeth Siôr III. Enillodd wobrau hefyd ym Miwmares yn 1832. Ond yr hyn a barodd fwyaf o sôn amdano ynglŷn â'r eisteddfod oedd iddo ef a William Owen Pughe a 'Dewi Silin' wobrwyo awdl Edward Hughes, Bodffari, yn lle un 'Dewi Wyn' ar y testun 'Elusengarwch' yn
  • DAVIES, ROBERT HUMPHREY (Gomerian; 1856 - 1947), gohebydd papurau Cymraeg a Saesneg yn U.D.A. Dewi ac yn llywydd iddi ddwywaith. Bu a wnelai ef hefyd lawer â threfnu eisteddfodau a daeth i Gymru i ofyn i David Lloyd George ymweled ag eisteddfod gyd-genedlaethol y Cymry yn America; ar awgrym Lloyd George cychwynnodd Orsedd Americanaidd a dewiswyd ef ei hun yn gofnodydd yr Orsedd honno; efe, e.e., oedd cofnodydd yr Orsedd a gynhaliwyd yn San Francisco yn 1915. Efe hefyd a fu'n gyfrifol am
  • DAVIES, THOMAS ESSILE (Dewi Wyn o Essyllt; 1820 - 1891) Ganwyd 20 Mehefin 1820 yn Ninas Powys, Sir Forgannwg, yn fab i William (ac nid ' Edward,' yr enw a roir yn nodiad coffaol 'Watcyn Wyn' yn rhifyn Gŵyl Dewi Y Geninen 1891) ac Elizabeth David. Melinydd oedd William David ac yn 'Y Felin' yr oedd yn byw; 'miller and farmer' meddai'r newyddiaduron adeg marw'r mab enwog; ond gelwir ef yn 'labourer' yng nghofnod bedyddio ei blentyn yng nghofrestr plwyf
  • DAVIES, WILLIAM (Gwilym Teilo; 1831 - 1892), llenor, bardd a hanesydd gyfeillgarwch Islwyn a Dewi Wyn o Esyllt. Cystadleuodd lawer mewn llên a barddas ac enillodd wobrwyon pwysig. Ei waith mwyaf yw'r traethawd ar ' Llenyddiaeth y Cymry ' a enillodd iddo'r wobr o £60 yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, 1862; bwriedid i'r gwaith fod yn barhad i lyfr Thomas Stephens, The Literature of the Kymry, ond nis cyhoeddwyd (y mae'r MS. yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol). Ysgrifennodd
  • DAVIES, WILLIAM ANTHONY (1886 - 1962), newyddiadurwr Ganwyd ar Ddygwyl Dewi 1886 mewn bwthyn to gwellt a elwid Cwarter Coch ar ffordd y mynydd yng Nghwmgrennig, Glanaman, Sir Gaerfyrddin. Ef oedd y trydydd o wyth plentyn Daniel Davies, glöwr, o fferm Ysguborwen, Betws, a'i wraig a hanai o'r Bryn, Llanelli. Aeth William yn 13 oed i weithio gyda'i dad a'i frodyr yn nrifft Gelliceidrim. Dryswr yn dilyn haliers ydoedd am ryw bedwar mis, ond teimlai ei
  • DAVIES, WILLIAM LEWIS (1896 - 1941), gwyddonydd ac arbenigwr ar astudio llaeth y graddiodd yn Ph.D. Yn 1925 cafodd swydd ym Mhrifysgol Reading; dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd swydd biogemegydd yn y ' National Institute for research in Dairying ', ac yn 1939 etholwyd ef yn ' Director of Dairy Research ' i Lywodraeth yr India. Yn gynnar wedi iddo gyrraedd yr India llwyddodd i gael sefydlu ' The Imperial Dairy Research Institute ' a agorwyd ar Ddydd Gwyl Dewi 1941, eithr bu
  • DAVIES, Syr WILLIAM LLEWELYN (1887 - 1952), ysgolfeistr a llyfrgellydd yn gyd-olygydd y Bywgraffiadur Cymreig, 1953. Cyhoeddodd lawer o erthyglau llyfryddol a hanesyddol i gyfnodolion, ac yr oedd yn aelod o lawer o gyrff academaidd a diwylliannol. Urddwyd ef yn farchog yn 1944, a rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1951. Yn 1952 ef oedd uchel siryf Meirionnydd. Priododd yn 1914 â Gwen, merch Dewi Llewelyn, groser a phobydd ym Mhontypridd, ac
  • DAVIS, DAVID (Dafis Castellhywel; 1745 - 1827), gweinidog Ariaidd, bardd, ac ysgolfeistr athro drwy Gymru gyfan; ordeinid offeiriaid o'i ysgol am flynyddoedd. Ceir enwau rhyw 111 o'i hen ddisgyblion fel tanysgrifwyr i Telyn Dewi. Cyfathrachai â'r Dr. Richard Price, Edward Williams ('Iolo Morganwg'), Thomas Roberts, Llwyn'rhudol, 'Glanygors,' Thomas Evans ('Thomas Glyn Cothi'); a throes lu o wŷr ei ardal yn bleidwyr y Chwyldro Ffrengig. Yn 1801-2 bu anghydfod a rhwyg yn ei eglwysi, a
  • DEINIOL (bu farw 584), sant, sylfaenydd Bangor ac esgob cyntaf Gwynedd . Os felly, dichon mai cywir ydyw traddodiad ' Llyfr Llandaf ' yn priodoli hyn i Ddyfrig : rhy ieuanc ydoedd Dewi ar y pryd. Nid oes dim i rwystro'r gred ddarfod i Ddeiniol fyned i synod Brefi. Bu farw yn 584 yn ô yr ' Annales Cambriae,' er y dichon fod hwn, fel dyddiad marw Dewi a Chyndeyrn, yn 12 mlwydd yn rhy hwyr; os felly 572 ydyw'r flwyddyn.