Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 745 for "Dic Siôn Dafydd"

37 - 48 of 745 for "Dic Siôn Dafydd"

  • CHRISTINA i'w meibion Dafydd a Rhodri yn eu hymosodiad ar eu hanner-brawd Hywel yn 1170; ceir bardd anhysbys, gan chwarae ar ei henw, yn sôn mewn modd chwerw am ei hymddygiad anghristnogol. Cristin ydyw ffurf Gymreig ei henw; ffansi ' Iolo Morganwg ' sy'n gyfrifol am y ffurf ' Crisiant ' a geir yn ' Brut Gwent ' (The Myvyrian Archaiology of Wales, ii, 572).
  • CLIDRO, ROBIN (fl. 1580), clerwr gyhydedd hir, gyda chynghanedd ysgafn rhwng y trydydd cymal a'r pedwerydd. Canodd Siôn Tudur farwnad iddo ar gynghanedd anafus fel a ddefnyddiai Clidro 'i hun, ac yn ei theitl dywedir iddo gael ei ladd gan ladron yn y Deheudir. Ond dylid cadw mewn cof y geill mai marwnad gellweirus i ddyn byw ydyw.
  • CLOUGH, Syr RICHARD (bu farw 1570), marsiandwr a chynrychiolydd Syr Thomas Gresham (am gyfnod) yn Ewrop . Tybir mai tua 40 oed ydoedd pan fu farw. Canwyd marwnadau iddo gan Siôn Tudur, Simwnt Fychan, a Wiliam Cynwal; heblaw'r farwnad canodd Cynwal gywyddau iddo ef (a'i wraig Catherin) gyda'r teitlau hyn - ' Kowydd i yrru y gwalch i annerch mr Ric. Klwch a meistres Catrin penn oeddynt yn Anwarp ' a ' Kowydd i yrru y llong i nol mr Ric Klwch a meistres Katrin adref o ddengmark.' Mewn un cywydd marwnad geilw
  • CNEPPYN GWERTHRYNION (fl. 13eg ganrif), pencerdd a gramadegydd Werthryniawn (yn ' sir Faesyfed'), a bod ei gerdd yn ' Ladin gyfiawn,' sef yn ôl safonau rhetoreg Lladin ei gyfnod. Mewn rhai llawysgrifau ceir yr enw Cneppyn Gwerthryniawn fel un o nifer o lysenwau ar Sypyn Cyfeiliog neu Ddafydd Bach ap Madog Wladaidd, ond gan fod y Dafydd hwn yn canu yn ddiweddar yn y 14eg ganrif, ni ddichon mai ef oedd y Cneppyn gwreiddiol (gweler I.G.E., arg. 1925, clxvii et seq.). Yn
  • teulu CONWY Botryddan, Conwy a fu farw 21 Medi 1431, wraig o Gymraes yn Marsli (neu Mallt) ferch Maredudd ap Hywel ap Dafydd, Cefn-y-fan, cyndad Wynniaid Gwydir ac erbyn dyfod Elisabeth I i'r orsedd yr oedd y teulu wedi bwrw ei wreiddiau'n ddwfn yn naear Sir y Fflint. Mab Siancyn a Marsli oedd SIÔN AER HEN (?1435 - Medi 1486). Bu Siôn yn briod ddwywaith. Mab o'r wraig gyntaf, Alis Minshull o swydd Gaer, oedd Syr HUW CONWY
  • CRADOC, WALTER (1610? - 1659), diwinydd a Phiwritan ferch, Eunice a Lois - yr olaf yn wraig i Richard Creed. Fel pregethwr yr adnabyddid Cradoc, a phregethau yw'r rhan helaethaf o'i waith cyhoeddedig. Dyma ei weithiau: (i) The Saints fulnesse of joy in their Fellowship with God… London, 1646; (ii) Gospel-Libertie in the Extensions/Limitations of it… Whereunto is added good Newes from Heaven… London, 1648; (iii) Mount Sion or the Privilege and Practice
  • CYFFIN, ROGER (fl. c. 1587-1609), bardd gywyddau yn unig a gyfeiria at fywyd y bardd - (NLW MS 3050D (612)). Yn hwnnw ffarweliai â'i gartref yng Ngartheryr, Llanrhaeadr ym Mochnant, a'r ardal honno o sir Ddinbych. Daethai rhyw aflwyddiant arno, gwerthasai ei dir, ac yr oedd yn barod i fynd i'r De i fyw dan nawdd Syr Siôn Fychan o'r Gelli Aur yn Sir Gaerfyrddin. Cadwyd dwy gân rydd a nifer o'i gywyddau ac englynion yn y llawysgrifau. Cynnwys ei
  • CYNAN ab OWAIN (bu farw 1174), tywysog flaenllaw pan oeddid yn gwrthwynebu Harri II yn 1157 - gyda'i frawd Dafydd bu iddo gyfran yn yr ymosodiad sydyn yng nghoedydd Penarlag a fu bron yn achos i ymgyrch y brenin fethu'n gyfan gwbl. Daeth yr hyn a wnaeth yn 1159, pan geisiodd pum iarll ddal Rhys ap Gruffydd, â llai o glod iddo. Pan fu farw ei dad yn 1170, y mae'n debyg fod Cynan yn teyrnasu ar Eifionydd, Ardudwy, a Meirionnydd, a fu'n
  • CYNAN ap HYWEL (bu farw 1242?), tywysog Ystlwyf oddi arno. Ni wyddys ddim o'i hanes wedi hynny; y mae'n weddol glir oddi wrth farwnad Dafydd Benfras i Lywelyn ei fod wedi marw yn 1244. Y mae gan y Prydydd Bychan farwnad iddo wedi ei hysgrifennu yn y dull traddodiadol - yr oedd yn elyn i Loegr, gwnaethai i'r wlad honno ildio, ac ymosododd ar Ros am gan noson.
  • CYNFRIG ap DAFYDD GOCH (fl. c. 1420), bardd
  • CYNWAL, RICHARD (bu farw 1634), bardd o Faes y Garnedd(?), Capel Garmon, sir Ddinbych. Ac yntau'n fardd y mesurau caeth canodd y rhan fwyaf o'i gerddi i wahanol foneddigion Gogledd Cymru. Ymfalchïai yn arbennig yn ei swydd fel bardd teulu Plas Rhiwedog (ger y Bala), a chanwyd ymryson rhyngddo a Rhisiart Phylip am hyn. Canodd fawl Tomas Prys o Blas Iolyn a marwnad Sion Phylip o Ardudwy. Cyfansoddodd Rhisiart Phylip a Rowland Fychan
  • DAFYDD ab EDMWND (fl. 1450-1490), uchelwr a phencerdd Ganwyd ym mhlwyf Hanmer ym Maelor Saesneg. Hanai o'r un llinach â theulu'r Hanmeriaid, a disgynnai o John Upton, cwnstabl castell Caernarfon, 1306-7, fab Syr John Macklesfield. Ef oedd perchen Yr Owredd a llawer o diroedd eraill yn Hanmer, ond treuliodd ran o'i oes, fodd bynnag, ym mro ei fam, sef yn Nhre Wepra yn Nhegeingl. Claddwyd ef yn eglwys Hanmer. Dafydd ab Edmwnd a enillodd y gadair arian