Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 132 for "Emlyn"

37 - 48 of 132 for "Emlyn"

  • EVANS, DAVID EMLYN (1843 - 1913), cerddor Ganwyd 21 Medi 1843 yn Castellnewydd Emlyn, mab Evan Evans (1817 - 1902) a'i wraig Mary (1816 - 1884) a gladdwyd ill dau yn hen fynwent Tre-wen, Cwm-cou, Ceredigion. Yr oedd mam Evan Evans (ganwyd Peregryn) o linach Huguenot ac yn disgyn o deulu Francis, Dinas Ceri a Chwmsylltyn ac yn berthynas i Enoch Francis (1688/9 - 1740) a bu ei dad yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797, a
  • EVANS, DAVID JOHN (1884 - 1965), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd 1 Gorffennaf 1884 ym Mronfelen, Capel Seion, Ceredigion, mab John ac Ellen Evans. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Capel Seion, ysgol fwrdd Pen-llwyn, ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth). Ordeiniwyd ef yn 1916, a bu'n weinidog ei fam-eglwys yng Nghapel Seion
  • EVANS, EVAN HERBER (1836 - 1896), gweinidog Annibynnol a phrifathro coleg diwinyddol Ganwyd yn Pant-yr-onnen, ger Castellnewydd Emlyn, 5 Gorffennaf 1836. Cafodd addysg fore oes yng Nghastellnewydd Emlyn, Pont Sely, a Llechryd. Bu'n gweini mewn siopau dillad yn Rhydlewis, Pontypridd, Merthyr Tydfil, a Lerpwl. Yn Lerpwl, daeth i gyfathrach agos â Dr. John Thomas. Ar ei gymhelliad ef ac eglwys y Tabernacl, dechreuodd bregethu yn 1857; bu am dymor yn y Coleg Normal, Abertawe, ac yng
  • EVANS, EVAN KERI (1860 - 1941), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 2 Mai 1860 ym Mhontceri ger Castell Newydd Emlyn. Wedi ei brentisio'n saer coed, ac ymgydnabyddu'n gynnar â'r awen, dechreuodd bregethu yn eglwys Annibynnol Trewen. Ar ôl tymor yn ysgol ramadeg Castell Newydd Emlyn derbyniwyd ef, yn 1881, i goleg presbyteraidd Caerfyrddin lle'r amlygodd allu eithriadol fel myfyriwr. Wedi ennill ysgoloriaeth Dr. Williams aeth i Brifysgol Glasgow yn 1884
  • EVANS, GRUFFYDD (1866 - 1930), clerigwr a hynafiaethydd Castellnewydd Emlyn, ac yno y bu farw yn ddisyfyd, brynhawn Sul, 30 Mawrth 1930. Priododd Mary Roberts (1873-1962) yn 1899, a ganwyd iddynt chwech o blant: John Gruffydd, Heilin Telitor, Edward Meldred, Elined, Merlys a Herber Prestyl. Cymerai ddiddordeb mawr mewn llên-gwerin, a sgrifennodd lawer ar y pwnc hwn ac eraill i'r cyfnodolion. Ond cofir ef yn well am ei gyfraniadau hynafiaethol sylweddol i
  • EVANS, RICHARD THOMAS (1892 - 1962), gweinidog a gweinyddwr (B) chymwynas bennaf hi oedd arwain Mudiad Chwiorydd y Bedyddwyr i sefydlu cartref henoed yr enwad yn Nglyn Nest, Castellnewydd Emlyn, ac yr oedd yn briodol mai hi a wahoddwyd i'w agor yn swyddogol 26 Medi 1970, ac mai yno y treuliodd y deunaw mis olaf o'i hoes, o Fedi 1978 hyd ei marw yn ysbyty Glangwili ddydd Llun 4 Chwefror 1980. Amlosgwyd ei gweddillion ym Mharc-gwyn, Arberth, 11 Chwefror canlynol. Ganed
  • EVANS, THEOPHILUS (1693 - 1767), hanesydd a llenor Bedyddiwyd yn eglwys plwyf Llandugwydd, 21 Chwefror 1693, mab Charles Evans, Penywenallt, ger Castellnewydd Emlyn, o'i ail wraig, ac ŵyr i Evan Griffith Evans, ' Capten Tory ' o fyddin Siarl I. Ni wyddys ymhle'r addysgwyd ef. Nid oes gofnod iddo fod yn ysgol ramadeg Amwythig na sicrwydd iddo fynychu ysgol ramadeg Caerfyrddin. Tybir na bu mewn prifysgol, canys yn 1714-6 yr oedd gartref ac yn
  • EVANS, WILLIAM EILIR (Eilir; 1852 - 1910), clerigwr a bardd athro ac yn gaplan yn ysgol ramadeg Stratford-on-Avon. Yn 1889, golygai'r Carmarthen Journal; aeth yn 1891 i Abertawe, ac yn 1894 i Gaerdydd, lle y bu am 13 mlynedd ar staff y Western Mail, ac ar brydiau'n gwasanaethu yn Eglwys Dewi Sant. O 1907 ymlaen bu'n gurad yn Llancarfan. Yr oedd yng Nghastellnewydd Emlyn yn y cyfnod hwnnw gylch o feirdd fel ' Emlynydd,' ' Myfyr Emlyn,', ' Rhys Dyfed,' ac eraill
  • FITZGERALD, MAURICE (bu farw 1176), un o goncwerwyr Iwerddon mab Gerallt o Windsor, prif ganlynwr Arnulf Montgomery a cheidwad castell Penfro (1093-wedi 1116), o'i wraig Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Bu dau o feibion Gerallt a Nest, Maurice a William, y naill yn arglwydd Llansteffan a'r llall yn arglwydd Emlyn, yn amlwg fel arweinwyr Saeson a Normaniaid Gorllewin Cymru yn erbyn gwrthryfel mawr tywysogion Cymru yn 1136. Yn 1146 yr oeddynt yn flaenllaw yn yr
  • FRANCIS, BENJAMIN (1734 - 1799), emynydd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd ym Mhen-y-gelli ger Castellnewydd Emlyn, plentyn ieuengaf Enoch Francis. Gan i'w rieni farw pan nad oedd ef ond 6 oed, magwyd ef yn Abertawe, ac yno (1749) y bedyddiwyd ef. Aeth yn 1753 i academi'r Bedyddwyr ym Mryste, ac ar ddiwedd 1755 gwahoddwyd ef i fod yn weinidog (cynorthwyol) yn Broadmead. Symudodd yn 1756 i Chipping Sodbury, ac oddi yno (1759) i Horsley, lle y bu farw 14 Rhagfyr
  • FRANCIS, ENOCH (1688-9 - 1740), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Castellnewydd Emlyn, ac yn 1734 efe oedd prif weinidog eglwys Glannau Teifi, a phedwar neu bump o gynorthwywyr iddo, gan fod i'r eglwys nifer mawr o ganghennau a dyfodd wedyn yn eglwysi ar wahân, megis Aberduar, Pant Teg, etc. Cenhadai Enoch Francis yn ddyfal yn y cylch mawr hwn (a'r tu allan iddo hefyd), ac esgynnodd i fri dirfawr fel pregethwr - gellid meddwl oddi wrth eiriau Joshua Thomas ac eraill mai
  • FRANCIS, JONATHAN (1722/3 - 1801), gweinidog y Bedyddwyr Penyfai, Morgannwg; ail fab Enoch Francis, Castellnewydd Emlyn. Yn fuan wedi claddu ei dad (Chwefror 1740) aeth i Bontypŵl. Wedi iddo ddechrau pregethu anogwyd ef i fyned i goleg Trosnant. Daeth tua 1743 i gymdogaeth Penyfai a bwriadodd fyned i athrofa Bryste, ond nid aeth. Priododd yn 1744 â merch y Fagwyr, plwyf Llangyfelach, a myned yno i fyw. Er bod Penyfai a'r Fagwyr am ei urddo'n fugail