Canlyniadau chwilio

505 - 516 of 960 for "Ebrill"

505 - 516 of 960 for "Ebrill"

  • LLOYD, DAVID GEORGE (1912 - 1969), datganwr Ganwyd yn Nhrelogan, Fflint, 6 Ebrill 1912, yn fab i Pryce (glöwr) ac Elizabeth Lloyd. Gadawodd ysgol Trelogan yn 14 oed a'i brentisio'n saer coed yn Niserth. Ymddiddorai mewn canu yn bur ieuanc, a byddai'n arferiad ganddo gystadlu mewn eisteddfodau bychain yn Sir y Fflint ac yn nyffryn Clwyd. Mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn Licswm, 18 Gorffennaf 1931, pan enillodd gystadleuaeth ganu i rai heb
  • LLOYD, DAVID MYRDDIN (1909 - 1981), llyfrgellydd ac ysgolhaig Cymraeg Ganwyd D. Myrddin Lloyd ar 15 Ebrill 1909 yn 399 Heol Ganol, Fforest-fach (y Gendros), Abertawe, yr hynaf o ddau fab William Henry Lloyd, saer coed o Gaerfyrddin, a'i wraig Eleanor a oedd yn ferch i'r Parchg. David Davies, sef Dafi Dafis Rhydcymerau (1814-1891), y pregethwr adnabyddus hynod a ffraeth yr etifeddodd ei ŵyr lawer o nodweddion ei gymeriad. Derbyniodd Myrddin Lloyd ei addysg yn ysgol
  • LLOYD, EVAN (1734 - 1776), clerigwr ac awdur Ganwyd 15 Ebrill 1734, ail fab John Lloyd a Bridget Bevan, Fron Dderw, Bala. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 22 Mawrth, 1750/1, B.A. 1754, M.A. 1757). Bu'n gurad S. Mary, Redriff, hyd 1763, pryd y daeth yn ficer segur Llanfair Dyffryn Clwyd. Bu farw'n ddibriod 26 Ionawr 1776; claddwyd ym meddrod ei deulu yn Llanycil. Cyhoeddodd amryw ddychangerddi ffraeth
  • LLOYD, HOWEL WILLIAM (1816 - 1893), hynafiaethydd Pentrefoelas, ond ymddiswyddodd yn 1844. Ar 6 Ebrill 1846, yn Oscott, ger Birmingham, derbyniwyd ef i Eglwys Rufain. Bwriadai fynd yn offeiriad Pabyddol, ond ni chaniatâi ei iechyd. Ymwadai gymaint oherwydd ei ddaliadau crefyddol nes yr edrychai'r Pabyddion arno bron fel un o ferthyron y ffydd. Gweithiodd yn galed i gael gwell cyfleusterau addysg i Babyddion. Yn ystod Rhyfel y Crimea bu'n uwchrif yn y
  • LLOYD, JOHN (1638 - 1687), pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen, ac esgob Tyddewi , 1682-5. Gwnaed ef yn rheithor Llandawke, Sir Gaerfyrddin, yn 1668, Llangwm, Sir Benfro, 1671, a Burton, 1672. Penodwyd ef yn gantor eglwys gadeiriol Llandaf, 9 Ebrill 1672, ac yn drysorydd 10 Mai 1679. Cysegrwyd ef yn esgob Tyddewi yn Lambeth 17 Hydref 1686 gyda'r hawl i gadw Llandawke a Burton 'in commendam.' Yr oedd ar y pryd yn wael ei iechyd, ac o'i anfodd y derbyniodd ei ddyrchafiad. Bu farw yng
  • LLOYD, JOHN (bu farw 1679), Offeiriad seciwlar a merthyr Aeth i seminari Valladolid yn 1649. Ordeiniwyd ef yn offeiriad ar 7 Mehefin 1653, a danfonwyd ef i Loegr ar 17 Ebrill 1654. Ni wyddys ddim yn bendant am ei fywyd am bron chwarter canrif wedi hyn, ond gellir casglu o'r dystiolaeth a ddygwyd yn ei erbyn iddo ymweled â chartrefi Walter James, Tre-ivor, Mynwy, a Howel Carne, Tregolwyn, Morgannwg, yn ogystal ag ardal Llandyfodwg, Morgannwg. Yn ystod
  • LLOYD, Syr JOHN CONWAY (1878 - 1954), gŵr cyhoeddus Ganwyd 19 Ebrill 1878, ym mhlas Dinas, Brycheiniog, unig fab Thomas Conway Lloyd a'i wraig Katherine Eliza (ganwyd Campbell-Davys, Neuadd-fawr, ger Llanymddyfri). Bu farw ei fam ac yntau ond pedair oed, a chollodd ei dad yn 1893. Addysgwyd ef yn Ysgol Broadstairs, Ysgol Eton, a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Yn 1899 aeth i'r cyfandir, a chyfarfod yn Fflorens â Marion Clive Jenkins. Priododd hi
  • LLOYD, JOHN MEIRION (1913 - 1998), cenhadwr ac awdur a'i ordeinio yn Abertawe yn Nhachwedd 1941. Oherwydd anhawster i gael llong, bodlonodd ar gyflawni swydd Ysgrifennydd i Fudiad Cristnogol y Myfyrwyr (SCM) yn ne Cymru, ac o Ebrill 1942 bu'n Weinidog ar Gapel Saesneg yr enwad yn Catharine Street, Lerpwl. Yno cyfarfu â'r ferch a ddaeth yn gymar bywyd iddo, Joan Maclese (1923-2017), a phriodwyd y ddau ar 28 Hydref 1944. Ychydig ddyddiau wedi'r briodas
  • LLOYD, LEWIS WILLIAM (1939 - 1997), hanesydd ac awdur gymdeithasau a dosbarthiadau nos, yn arbennig yn Ardudwy. Rhannai ei wybodaeth a'i frwdfrydedd heintus ag eraill trwy ei lythyron, ei ddarlithoedd a'i gyhoeddiadau niferus ar hyd y blynyddoedd. Yn 1998 sylfaenwyd Cymdeithas Hanes Harlech i'w goffáu. Roedd Lewis Lloyd yn berson hoffus, dirodres a hynod boblogaidd. Bu farw yn ddisymwth ar 11 Ebrill 1997 yn 57 oed yn Cadair Owain, ei gartref yn Llanfair, a
  • LLOYD, Syr RICHARD (1606 - 1676), Brenhinwr a barnwr Cymru; yn y swydd honno bu'n ddiwyd iawn, o Awst 1641 hyd Ebrill 1642, yn gwrthweithio'r cynnwrf a wneid gan rai a geisiai ddifodi cyngor y goror yn Llwydlo - ei ddull ef o wrthweithio oedd mabwysiadu mesurau gohirio neu wneud cynigiadau gwrthgyferbyniol; yn gynnar ym mis Mehefin aeth i Gaerefrog at y brenin gan ddwyn iddo ddatganiadau o deyrngarwch chwe sir Gogledd Cymru. Bu'n croesawu a lletya'r
  • LLOYD, RICHARD (1595 - 1659), diwinydd (yn perthyn i blaid y brenin Siarl I) ac ysgol-feistr Ngholeg Oriel, Rhydychen, 3 Ebrill 1612, ac fe'i cyflwynwyd i reithoraeth Sonning a ficeriaeth Tilehurst (Berkshire); cymerodd ei B.D. yn 1628 (7 Mai). Pan oedd y Senedd Faith yn enwi aelodau o'r ' Assembly of Divines ' a fwriedid, enwyd Lloyd dros sir Ddinbych (25 Ebrill 1642), eithr ni chynhwyswyd ei enw yn y rhestr derfynol. Collodd ei fywiolaethau pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, bu yng
  • LLOYD, RICHARD (1834 - 1917), bugail eglwys Disgyblion Crist (y 'Bedyddwyr Campbelaidd'), Cricieth Ganwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, 12 Gorffennaf 1834, unig fab Dafydd a Rebecca Llwyd. Yr oedd ei dad yn grydd ac yn fugail ar eglwys Disgyblion Crist ym Mhen-y-maes, Cricieth. Wedi bod am ychydig mewn ysgol yn Llanystumdwy prentisiwyd Richard Lloyd yn grydd gyda'i dad, a dilynodd ei dad yn y busnes ac hefyd yn y fugeiliaeth. Ordeiniwyd ef a William Williams ym mis Ebrill 1859. Yn y