Canlyniadau chwilio

505 - 516 of 1877 for "Mai"

505 - 516 of 1877 for "Mai"

  • GRIFFITH, JOHN (1752 - 1818), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd gerllaw Pencader 10 Mai 1752. Bu yn academi Caerfyrddin o 1774 (efallai o 1771) hyd 1778. Urddwyd ef (5 Gorffennaf 1780) yn weinidog Llanfyllin, lle y cafodd gryn erlid. Yn 1782 symudodd i Bendref, Caernarfon, ond ymadawodd yn 1784 i'r Fenni. Gofalaeth anghysurus oedd honno; bu rhwyg (tua 1786), a daliodd yr wrthblaid ei gafael yn y capel, fel y bu'n rhaid i Griffith a'i ddilynwyr addoli
  • GRIFFITH, JOHN THOMAS (1845 - 1917), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn Penyparc, Bro Morgannwg, 1 Ionawr 1845. Bedyddiwyd ef 20 Mai 1859 ym Mhisgah, Pîl, gan John Roberts ('Fawr'). Ceir ef yn Aberpennar yn 1862. Dechreuodd bregethu, a phriododd yn Ionawr 1865. Ymfudodd i Scranton, America, a gweithiai mewn glofa. Fe'i hordeiniwyd gyda'r Cymry yn Newburg, Cleveland. Bu mewn 20 o eglwysi. Claddodd ei wraig yn 1905, a phriododd ferch o Risca yn 1907
  • GRIFFITH, OWEN (Ywain Meirion, Owen Gospiol; 1803 - 1868), baledwr a chantwr pen ffair Pe gellid credu'n ffyddiog mai ef oedd yr 'Owen Meirion' a sgrifennodd yr ysgrif 'Hanes Tre'r Bala' yn Y Brython, 1860, 264-5, yna gellid barnu mai brodor o'r Bala ydoedd. Canai yn y ffeiriau ar hyd ac ar led Cymru - clywir amdano e.e. ym Machynlleth, Holywell, Llanfyllin, Llanrwst, a ffeiriau Sir Gaernarfon; ac yr oedd hefyd yn adnabyddus iawn yn y Deheudir. Gwisgai 'het silc' bob amser. Myn
  • GRIFFITH, OWEN (Giraldus; 1832 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur Saesneg hefyd, yn ddiweddarach, o dan yr enw The Daylight. Cyhoeddodd dri llyfr: Above and Around, containing Religious Discourses … with Observations on Men and Things in Wales and America … (Utica, 1872, gydag 2il arg. yn 1877), Naw Mis yn Nghymru … (Utica, 1884), a Y Ddwy Ordinhad Gristionogol yn eu Gwraidd a'u Dadblygiad … (Utica, 1891). Bu farw 14 Mai 1896, yn ei 63 flwyddyn.
  • GRIFFITH, RICHARD (Carneddog; 1861 - 1947), bardd, llenor, a newyddiadurwr , a bu iddynt 2 fab. Bu farw 25 Mai 1947 yn Hinckley a chladdwyd ef ym mynwent Beddgelert.
  • GRIFFITH, ROBERT DAVID (1877 - 1958), cerddor a hanesydd canu cynulleidfaol Cymru Ganwyd 19 Mai 1877 yng Nghwm-y-glo, Sir Gaernarfon, o gyff cerddorol, yn fab i Richard Griffith, chwarelwr llechi, a Jane (ganwyd Williams) ei wraig. Yr oedd ei fam yn gyfnither i David Roberts ('Alawydd') ac i John Williams ('Gorfyniawc o Arfon'). Ar ôl symud i fyw i Fynydd Llandygái yn 1885, dychwelodd y teulu i Fethesda yn 1890, lle y bu yntau'n gweithio yn chwarel y Penrhyn. Yn ddiweddarach
  • GRIFFITH, ROGER (bu farw 1708), gweinidog Presbyteraidd, ac archddiacon wedyn naturiol am enciliad Griffith, ac yn chwanegu iddo farw'n ddyledog a dibarch; ac y mae Yardley 'n terfynu ei nodyn sychlyd iawn arno â'r geiriau: 'Bu farw ym mis Hydref 1708, a chladdwyd ef yn eglwys Fair yn y Fenni, ond nid oes unrhyw faen coffa iddo - yn ôl rhestr blwyfol Maesyfed bu farw 'yn fuan ar ôl 10 Hydref.' Rhydd Yardley iddo'r radd o ' B.D. - efallai mai hon yw'r B.D. er anrhydedd a roes
  • GRIFFITH, SIDNEY (bu farw 1752) ar y teithiau hyn - dylid nodi, fodd bynnag, mai gyda Rowland yr ochrai hi ar y pryd yn y materion yr anghytunai Rowland a Harris arnynt, megis gwrthwynebiad Rowland i Griffith Jones, Llanddowror, ac i James Beaumont. Pan ddychwelodd Harris o Lundain i Drefeca (23 Medi), wele ' Madam Griffith ' yno'n ei aros, gyda'r newydd fod ei phriod yn fethdalwr, a'i fod wedi ei churo a'i throi allan o'r ty am
  • GRIFFITH, WALTER (1727 - 1779), capten yn y llynges Ganwyd 15 Mai 1727, a gafodd yrfa ddisglair a adroddir yn y D.N.B. ac (yn llawnach) yn Montgomeryshire worthies. Aeth i'r môr yn 16, bu'n rhyfela hyd 1748, ac wedyn (hyd 1750) ar swydd yn India'r Gorllewin. O 1756 ymlaen, bu ganddo ran yn y Rhyfel Saith Mlynedd; codwyd ef yn gapten yn 1759, a hynododd ei hunan yn y symudiadau a arweiniodd i frwydr Quiberon Bay; o 1760 hyd yr heddwch yn 1763 yr
  • GRIFFITH, WILLIAM (1704 - 1747), Morafiad Cymreig cynnar (un o aelodau gwreiddiol eu Cynulleidfa yn Llundain) Ganwyd ym Mhenmorfa, Eifionydd, Chwefror 1704 (gall mai 1703). Yn grydd yn Llundain, ymunodd â'r Methodistiaid, ond erbyn 1742 yr oedd wedi troi at y Morafiaid. Yn 1743, anfonwyd ef ar daith i Gymru - y mae'n debyg mai ef oedd y cenhadwr Morafaidd cyntaf yn Sir Benfro. Wedi dal amryw swyddau yn Eglwys y Brodyr yn Llundain, bu farw pan ar ymweliad â'r Almaen, ar derfyn 1747.
  • GRIFFITH, WILLIAM (1719 - 1782), ffermwr Drws-y-coed Uchaf ar flaen dyffryn Nantlle o 1744 hyd ei farwolaeth; gŵr hysbys i Oronwy Owen, Margaret Davies o'r Coedcae-du, a 'Dafydd Ddu Eryri' (David Thomas) fel carwr llenyddiaeth, ond sydd hefyd yn haeddu sylw am mai ei dŷ ef oedd aelwyd y genhadaeth Forafaidd yng Ngwynedd o 1768 hyd 1776 - gweler dan yr enwau David Williams (1702 - 1779), David Mathias, a John Morgan (1743 - 1801). Nid
  • GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes , ei morwyn; trysorodd hithau hwynt yn ei chof, ac ar ôl ei phriodas â John Hughes fe'u hysgrifennwyd hwynt ganddo mewn dau ysgriflyfr. Ef, mae'n ddiau, a'u rhoes yn llaw Thomas Charles o'r Bala, a chredir mai Robert Jones, Rhos-lan, a'u paratôdd i'w cyhoeddi. Cyhoeddwyd hwynt yn arg. 1805 o Grawn-Syppiau Canaan, ac wedyn (1806) yn Casgliad o Hymnau gan mwyaf heb erioed eu hargraffu o'r blaen (Bala