Canlyniadau chwilio

565 - 572 of 572 for "Morgan"

565 - 572 of 572 for "Morgan"

  • WILLIAMS, WILLIAM (Crwys; 1875 - 1968), bardd, pregethwr ac archdderwydd flynyddoedd. Enillodd y goron yn 1910 ar y testun ' Ednyfed Fychan ' ac yn 1919 ar y testun ' Morgan Llwyd o Wynedd '. Ond y bryddest ' Gwerin Cymru ', a enillodd iddo goron 1911, yw'r fwyaf adnabyddus o'i waith. Etholwyd ef yn Archdderwydd yn 1938 a bu yn y swydd hyd 1947. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ac anrhydeddwyd ef gan Gyngor Bwrdeistref Abertawe yn 1968 trwy roi penddelw
  • WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur Ganwyd 10 Mawrth 1867 yn Brownhill, Llansadwrn, dyffryn Tywi (ar 15 Medi 1938 dadorchuddiwyd cofgolofn iddo o flaen y tŷ), yn ail fab i Morgan Williams a'i wraig Sarah (Davies). Yr oedd ei deulu'n dda eu byd, ac yn Annibynwyr o hil gerdd; ei daid, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac cyn symud o'r Ffrwd-wen (Llandeilo) i Brownhill, a dau o frodyr ei dad yn weinidogion, sef JOHN WILLIAMS
  • WILLIAMS, WILLIAM NANTLAIS (1874 - 1959), gweinidog (MC), golygydd, bardd ac emynydd ag Eluned Morgan o Batagonia, ac ar ei thaer ymbil hi aeth Nantlais ar daith bregethu am dri mis i'r Wladfa yn 1938 (gweler yr ohebiaeth rhyngddo ac E. M. yn Dafydd Ifans, gol., Tyred drosodd, 1977). Er i Nantlais ymwadu â chystadlu mewn eisteddfodau ar ôl y Diwygiad daliodd ati i lenydda, gan gysegru'i ddoniau a'i awen bellach i genhadaeth yr Efengyl. Bu'n un o olygyddion Y Lladmerydd (1922-26
  • WINTER, CHARLES (1700 - 1773), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Arminaidd Abel Francis hefyd yn bresennol), cydsyniodd Winter (ond nid David a Jacob) i gymrodeddu, ac yn wir urddwyd ef wedyn yn gynorthwywr i Morgan Griffith (bu farw 1738), gweinidog yr eglwys. Ar farw Griffith, dymunai rhai godi Winter yn weinidog, ond gwell fu gan y mwyafrif Griffith Jones o Ben-y-fai, a chydweithiodd Winter ag ef yn gyfeillgar. Ond pan ymfudodd Jones (1749) i America, atgyfodwyd y dadlau
  • teulu WYNN Bodewryd, i fywoliaeth Llaneugrad a Llanallgo, 17 Chwefror 1668/9, a'i symud i Lantrisant 7 Hydref 1670. Priododd â Margaret merch hynaf Dr. Robert Morgan, esgob Bangor (a chwaer i wraig Humphrey Humphreys a fu wedyn yn esgob ym Mangor a Henffordd), 3 Ionawr, 1671/2. Nid rhyfedd felly iddo gael rheithoraeth Llanddyfnan (a fuasai yn llaw ei dad-yng-nghyfraith), 4 Tachwedd 1672, ynghyd â thrwydded i gadw
  • teulu WYNN Cesail Gyfarch, Penmorfa . Priododd yr esgob Humphreys ag Elizabeth, ferch Robert Morgan, esgob Bangor, a chael ohoni ddwy ferch - (a) Ann (bu farw 1699/1700 (Calan Ionawr)) a (b) MARGARET (bu farw 1759). Priododd Margaret â John Lloyd, bargyfreithiwr, mab William Lloyd, esgob Norwich. Etifeddes Margaret a John Lloyd oedd ANNA LLOYD; bu hi farw'n ddibriod yn 1784, gan adael yr eiddo i frawd ei thad, sef y llyngesydd Lloyd
  • teulu WYNN Wynnstay, Morgan, ac er iddo geisio drachefn yn 1886 ac yn 1892 ni bu'n llwyddiannus, a chollodd teulu Wynnstay 'r gynrychiolaeth a fuasai'n fath o dreftadaeth iddynt. Gan hynny, ymroes ef i'w weithgareddau lleol a gwasanaethu ei bobl ei hun yn ffyddlon am yn agos i 60 mlynedd. Etholwyd ef dros ranbarth Rhiwabon ar gyngor sir Dinbych yn 1888 a chadwodd ei le weddill ei oes. Bu'n gadeirydd llys y sesiwn chwarter
  • WYNNE, DAVID (1900 - 1983), cyfansoddwr astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o dan David Evans a John Morgan Lloyd, a graddio'n B. Mus. yn 1928. Er iddo gael Evans a Lloyd yn geidwadol iawn eu hagwedd gerddorol, gwerthfawrogai'r ffaith fod sgoriau o weithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes yn cael eu pwrcasu i lyfrgell y Coleg yn rheolaidd. O 1929 hyd 1960 bu'n athro cerdd yn Ysgol Lewis, Pengam (yr athro cerdd amser llawn