Canlyniadau chwilio

565 - 576 of 877 for "Owen"

565 - 576 of 877 for "Owen"

  • OWEN, MORFYDD LLWYN (1891 - 1918), cyfansoddwr, pianydd, a chantores Ganwyd 1 Hydref 1891 yn Nhrefforest, Sir Forgannwg, yn ferch i William a Sarah Jane Owen. Roedd ei rhieni'n gerddorol - ei mam yn gantores a phianydd o allu uwch na'r cyffredin. Cafodd ei haddysg yn ysgol ganolradd Pontypridd a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle yr oedd yn dal ysgoloriaeth gerddorol 'Caradog,' 1909-12, ac y graddiodd yn Mus. Bac. yn 1912; cafodd yrfa ddisglair yn y Royal Academy
  • OWEN, MORGAN (1585? - 1645), esgob Llandaf Ganwyd c. 1585, trydydd mab y Parch. Owen Rees, y Lasallt, Myddfai, Sir Gaerfyrddin. Disgrifir ef fel un o ddisgynyddion ' Meddygon Myddfai.' Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin a Choleg Iesu, Rhydychen, a daeth yn ddiweddarach yn gaplan New College, gan raddio'n B.A. yn 1613. Daeth yn gaplan i William Laud pan oedd hwnnw'n esgob Tyddewi, a daliodd nifer o swyddi a bywiolaethau yn yr
  • OWEN, MORRIS BRYNLLWYN (1875 - 1949), athro coleg, hanesydd eglwysig, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr
  • OWEN, NICHOLAS (1752 - 1811), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd 2 Ionawr 1752 yn Llandyfrydog, Môn, yn ail fab i Nicholas Owen (a fu farw 17 Awst 1785), gŵr gradd (1740) o Goleg Iesu, Rhydychen, rheithor Llansadwrn 1747-50), a rheithor Llandyfrydog a Llanfihangel-tre'r-beirdd 1750-85. O Bencraig, Llangefni, yr oedd y teulu; rhydd J. E. Griffith (Pedigrees, 51) daflen ohonynt, y gellir ei chyfannu o lawysgrifau Bangor 4602-7 yng Ngholeg y Gogledd. Yr
  • OWEN, OWEN (1806 - 1874), diwinydd a meddyg a 1854; A Glass of Wholesome Water, The Shepherd's Voice, The Taper for lighting the Sabbath School Lamps, tua 1854; The Public Pearl, 1854; a The Sources of Science, 1854. Cymerai ddiddordeb hefyd mewn seryddiaeth, a darlithiai ar y pwnc hwnnw. Ei wraig oedd Mary Anne Owen, awdures. Dywedir iddo wario y rhan fwyaf o'i ffortiwn hi yn ogystal â'i eiddo ei hun ar gynlluniau clodwiw ond anymarferol
  • OWEN, OWEN (1850 - 1920), prif arolygwr Bwrdd Canol Cymru Ganwyd ym mhlwyf Llaniestyn, Llŷn, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Botwnnog gyda'i gefnder John Owen (esgob Tyddewi yn ddiweddarach). Ymrestrodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddiodd gydag anrhydedd yn y clasuron yn 1877. Yn ei ieuenctid cymerai ddiddordeb eiddgar mewn cerddoriaeth. Oddeutu 1878 aeth yn brifathro ar ysgol breifat yng Nghroesoswallt. Llwyddodd yr ysgol yn fawr a
  • OWEN, OWEN GRIFFITH (Alafon; 1847 - 1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd hiwmor hwnnw arni. Golygodd ddetholiad o weithiau llenyddol W. R. Jones ('Goleufryn') yn 1904. O 1913 hyd ei farw bu'n golygu 'r Drysorfa. Dau lyfr a gyhoeddodd, Cathlau Bore a Nawn, cyfrol o farddoniaeth, yn 1912, a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, yn 1915. Ni bu yn briod. Bu farw 8 Chwefror 1916, a chladdwyd ym mynwent Bryn'rodyn, Arfon. Brawd iddo oedd WILLIAM GRIFFITH OWEN ('Llifon '; 1857 - 25 Medi
  • OWEN, OWEN JOHN (1867 - 1960) y Fenni, argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol ysgrifennydd. Yn y Fenni ymaelododd yng nghapel yr Annibynwyr Castle St., a daeth yn ddiacon ac yn arweinydd y gân. Yn 1897 prynodd ef a'i frawd, Edwin Vaughan Owen (bu farw 22 Hydref 1950), y Minerva Press, a daeth eu swyddfa yn Neville St. yn fan cyfarfod i Gymry lleol. Ymhlith y llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Brodyr Owen y mae cofiant eu tad (1907) a gweithiau Eluned Morgan : Dringo'r Andes (1904
  • OWEN, PEGGY - gweler OWEN, MARGARET
  • OWEN, RICHARD (y diwygiwr; 1839 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn 1839, mab John a Mary Owen, Ystum Werddon, Llangristiolus, Môn. Oherwydd marw ei dad pan oedd Richard yn 11 oed a cholli'r brawd hynaf ymhen tua blwyddyn, bylchog fu cwrs ysgol y bachgen. Pan amlygodd awydd i fyned i'r weinidogaeth teimlai'r arweinwyr fod cryn lawer o waith paratoi arno. Fel y tyfai i fyny gofynnai eglwys fach Cana ar gwr yr ardal am ei gymorth, a daeth yntau i deimlo
  • OWEN, RICHARD (fl. 1552) Cymro a wnaeth gyfieithiad Cymraeg o De Institutione Feminae Christianae, sef un o weithiau mwyaf adnabyddus Juan Luis Vives (ganwyd 1492 yn Valencia, Sbaen), un o feddylwyr ac ysgrifenwyr pennaf ei oes ar gwestiwn addysg. Ni wyddys pwy oedd Richard Owen eithr fe'i cynhwysir yma fel enghraifft o lawer o Gymry yng nghyfnod y Tuduriaid a gymerai ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth Sbaen. Ni
  • OWEN, RICHARD - gweler OWEN, RICHARD JONES