Canlyniadau chwilio

601 - 612 of 984 for "Mawrth"

601 - 612 of 984 for "Mawrth"

  • OWEN, DAVID SAMUEL (1887 - 1959), gweinidog (MC) Ganwyd 12 Mawrth 1887 yn Rhuthun, Dinbych, mab Samuel a Harriet Owen. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Rhuthun ac Abergele; ysgol sir Abergele; Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau); a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Dechreuodd bregethu yn 1905 ym Methlehem, Bae Colwyn. Ordeiniwyd ef yn 1913, a bu'n weinidog yn Siloh, Llanelli (1913-15) cyn ei alw i eglwys Jewin, Llundain, a
  • OWEN, EDWARD (1728/9 - 1807), clerigwr ac ysgolfeistr Mab David Owen, Llangurig, Sir Drefaldwyn (gweler dan deulu Owen o Gefn-hafodau). Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 22 Mawrth 1745/6, yn 17 mlwydd oed. Graddiodd B.A. 1749 ac M.A. 1752. Yn 1752 penodwyd ef yn athro ysgol ramadeg Warrington. Yn 1763 gwnaed ef yn beriglor Capel Sankey, Warrington, ac yn 1767 yn rheithor Warrington. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac enwogodd ei hunan fel clerigwr ac
  • OWEN, EDWARD (1853 - 1943), bargyfreithiwr, swyddog yn y gwasanaeth sifil, hynafiaethydd, a hanesydd Ganwyd ym Mhorthaethwy, Sir Fôn, 9 Mawrth 1853, unig fab Edward a Sarah Owen a fu am gyfnod yn ddirprwy prif gwnstabl sir Fôn. Symudodd y teulu i Gaergybi yn 1863. Addysgwyd ef yn ysgol John Evans ym Mhorthaethwy, ac mewn ysgol breifat yn Nulyn. Efe oedd y Cymro cyntaf i gael ei dderbyn i'r gwasanaeth sifil ar bwys arholiad; dechreuodd weithio yn yr India Office c. 1873 a bu yno hyd nes
  • OWEN, EDWARD PRYCE (1788 - 1863), clerigwr ac arlunydd Ganwyd ym mis Mawrth 1788, unig fab yr archddiacon Hugh Owen (1761 - 1827). Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1810, M.A. 1816). Bu'n gwasnaethu am gyfnod yng nghapel Park Street, Grosvenor Square, Llundain, cyn cael rhoddi iddo (27 Chwefror 1823) ficeriaeth Wellington a rheithoraeth Eyton-upon-the-Wildmoors, Swydd Amwythig; ymddeolodd o'r ddwy fywoliaeth hyn yn 1840
  • OWEN, ELLIS (1789 - 1868), amaethwr, hynafiaethydd, a bardd Ganwyd yn Cefn-y-meysydd Isaf, plwyf Ynyscynhaearn, Eifionydd, Sir Gaernarfon, 31 Mawrth 1789. Yr oedd yn ddibriod, a threuliodd ei oes yng Nghefn-y-meysydd gyda'i fam a'i chwiorydd. Bu farw 27 Ionawr 1868 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ynyscynhaearn, ger Pentrefelin, 31 Ionawr. Addysgwyd ef gyntaf mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Penmorfa; yr oedd David Owen ('Dewi Wyn') yn gyd-ysgolor ag ef
  • OWEN, GORONWY (1723 - 1769), clerigwr a bardd Edward Bennet, a'i gynorthwywr Humphrey Jones, tyfodd yn ysgolhaig clasurol. Ar 20 Medi 1741 apeliodd at Owen Meyrick Bodorgan, un o ymddiriedolwyr 'Elusen Lewis,' am ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ac ar 3 Mehefin 1742 derbyniwyd ef yno fel 'servitor,' a chael ymaelodi fel aelod o'r brifysgol ar yr un dyddiad. Arhosodd ei enw ar y llyfrau (gyda bylchau) tan fis Mawrth 1748, ond ni thrigiannodd
  • OWEN, HENRY (1844 - 1919), hynafiaethydd Ganwyd 12 Mawrth 1844, mab ieuengaf William Owen (1796-1879), U.H., D.L., ymgymerwr a saer dodrefn, Hwlffordd, a Withybush, a'i wraig Martha Hall Owen (1806-1885). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen a Choleg Corpus Christi, Rhydychen (1862-6), gan raddio'n B.A. yn 1866, B.C.L. yn 1869, a D.C.L. yn 1900. Cyfreithiwr ydoedd ac ymunodd â chwmni Jenkinson Owen, cyfreithwyr yn ninas Llundain
  • OWEN, HUGH (1575? - 1642) Gwenynog,, cyfieithydd etifeddodd Herbert iarllaeth Worcester. Parhaodd yng ngwasanaeth yr iarll hyd tua chanol 1640, pryd yr ymddengys iddo ymneilltuo i fyw yn ardal abaty Tintern, ac yno, ym mhlwyf Chapel Hill, y bu farw, rhywdro rhwng Mawrth a Gorffennaf 1642. Hyd y gwyddys, ni ddychwelodd i Fôn ond ar un achlysur yn unig, a hynny am ysbaid byr tua chanol haf 1624. Priododd ag Elisabeth, ferch Thomas Bulkeley o'r Groesfechan
  • OWEN, Syr HUGH (1804 - 1881), cymwynaswr addysg Cymru Ganwyd 14 Ionawr 1804 yn y Foel, Llangeinwen, sir Fôn, mab hynaf Owen Owen a Mary ei wraig (merch Owen Jones). Bu dan addysg yn ysgol Evan Richardson, ac ar ôl treulio ychydig amser gartref aeth i Lundain, Mawrth 1825, a bu'n gweithio fel clerc cyfreithwyr nes iddo dderbyn swydd, 22 Chwefror 1836, fel clerc yng Nghomisiwn Deddf y Tlodion. Daeth yn brif glerc yno yn 1853, a pharhau yn y swydd pan
  • OWEN, HUGH (1639 - 1700), pregethwr Piwritanaidd ac 'apostol Meirion.' , gydag ysbeidiau byrion rhyngddynt. Cofiodd pobl y 'funds' yn Llundain amdano drwy ganiatáu iddo am rai blynyddoedd £8 y flwyddyn o rodd at ei waith. Bu farw 15 Mawrth 1699/1700, esiampl berffaith ymron o Gristion cywir, pregethwr diwyd, a gwr tringar, tymherus. Ymhlith ei blant yr oedd JOHN OWEN, ei fab, pregethwr fel ei dad, gwr ieuanc addawol iawn a fu farw yn 1700, ei ferch Susannah, a briododd
  • OWEN, HUGH (1761 - 1827), clerigwr a hanesydd lleol Cymru. Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1783, M.A. 1807). Daeth yn ficer S. Julian, Amwythig, 1791, yn brebend yr eglwys gadeiriol, Salisbury, 1803; cafodd hefyd 'gyfran' o ficeriaeth Bampton, swydd Rhydychen, 1819, daeth yn archddiacon Salop 27 Rhagfyr 1821, cafodd brebendiaeth yn eglwys gadeiriol Lichfield, 30 Mawrth 1822 a dilynodd Blakeway yn S. Mary's, Amwythig, yn 1826. Bu
  • OWEN, HUGH (1880 - 1953), hanesydd 18 Mawrth 1953 yn Rhosyr, Llanfair Pwllgwyngyll.