Canlyniadau chwilio

613 - 624 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

613 - 624 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DWNN, OWAIN (c. 1400 - c. 1460) )) iddo wasanaethu yn Iwerddon o dan Richard, dug Efrog, tad Edward IV, ac iddo ef, efallai, y canodd Hywel Dafydd gywydd sy'n llawn cyfeiriadau at y gwasanaeth hwnnw. Gwraig Owain oedd Catherine, merch John Wogan o Bictwn, Sir Benfro, a mab iddynt oedd yr Harri Dwnn a laddwyd, gyda'i gefnder o'r un enw, ym mrwydr Hedgecote Field, Gorffennaf 1469. Enwir Owain Dwnn fel bardd yn bennaf ar sail yr
  • DYER, JOHN (1699 - 1757), bardd Ail fab Robert Dyer, cyfreithiwr a oedd yn byw yn Abersanen, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, ar y pryd. (Yn 1710 prynodd Aberglasney, ym mhlwyf cyfagos Llangathen). Bedyddiwyd John yn eglwys Llanfynydd 13 Awst 1699 a thebyg mai yn Abersanen y'i ganwyd ychydig cyn hynny. Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Westminster, aeth John i swyddfa ei dad, a phan fu hwnnw farw aeth yn ddisgybl i Jonathan Richardson
  • DYFRIG (fl. 475?), sant Cymreig cynnar Cysylltir gan amlaf â de-ddwyrain Cymru, ac yn arbennig â gorllewin a de sir fodern Henffordd. Yn ôl y 'Vita Samsonis,' cyfansoddiad o'r 7fed ganrif a'r ffynhonnell gynharaf am fywyd Dyfrig, yr oedd gryn dipyn yn hŷn na S. Samson ac yn gyfoed neu ychydig yn hŷn na S. Illtud. Yma hefyd cysylltir ef ag ynys Caldey (Ynys Bŷr) ar gyfer Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro. Anfoddhaol, fodd bynnag, hyd yma
  • DYKINS, WILLIAM (Dirwynydd; 1831 - 1872), llenor a bardd gwlad
  • EAMES, GWLADYS MARION (1921 - 2007), nofelydd hanes Ganwyd Marion Eames ym Mhenbedw ar 5 Chwefror 1921, yr ail o dair merch William Griffith Eames (1885–1959) a'i wraig Gwladys Mary (gynt Jones) (1891–1979). Yr oedd ei nain a'i thaid ar ochr ei mam wedi symud i lannau Merswy o sir Fôn a Sir Gaernarfon, fel y gwnaeth ei thad, ac yntau'n wr ifanc iawn. Magwyd hi mewn teulu Cymraeg eu hiaith, aelodau yng nghapel Woodchurch Road, a geisiodd, heb lwyr
  • EAMES, WILLIAM (1874 - 1958), newyddiadurwr Ganwyd ym Mhrestatyn, Fflint, 1874, yn fab i Griffith Eames a'i wraig Margaret (ganwyd Dowell) o Brestatyn. Saer oedd y tad a fwriodd ei brentisiaeth yn Lerpwl wedi cyfnod ar y tir yn ei fro enedigol yn sir Fôn. Ymsefydlodd yn Barrow-in-Furness ac yno fel cydgantorion yng nghôr Peter Edwards, 'Pedr Alaw') y cyfarfu'r ddau. Mynnodd y fam ddychwelyd i Brestatyn er mwyn geni'r plentyn yng Nghymru
  • EDDOWES, JOSHUA (1724 - 1811), argraffydd a gwerthwr llyfrau bedyddiwyd 26 Ebrill 1724, mab Ralph Eddowes, groser, Whitchurch, Swydd Amwythig. Yr oedd Joshua Eddowes yn bartner gyda JOHN COTTON yn 1749 os nad cyn hynny; cawsai John Cotton ryddfreiniad y 'Combrethren of Saddlers' ar 6 Mehefin 1740, eithr ar 25 Mai 1749 y derbyniwyd Eddowes. Parhaodd y bartneriaeth hyd 1765; dug Eddowes y busnes ymlaen hyd 1788, pan gymerth ei fab William Eddowes (ganwyd
  • EDDOWES, WILLIAM (1754), argraffydd - gweler EDDOWES, JOSHUA
  • EDERN DAFOD AUR, lunio dosbarth bychan ar lythrennau'r Gymraeg ac ar ffurfiau geiriau ddefnyddiodd John Williams ('ab Ithel') wrth gyhoeddi'r gramadeg hwnnw, rhoes iddo'r teitl, Dosparth Edeyrn Davod Aur, 1856. Ceisiodd Syr John Morris-Jones brofi mai gwaith 'ffug-hynafol o'r unfed ganrif ar bymtheg' yw'r dosbarth a dadogir arno yn y llawysgrifau, ac i'r ffugiwr (pwy bynnag ydoedd) ei alw'n ' Edern ' oherwydd bod yr enw'n debyg i ' Herodian,' hen ramadegwr o'r ail ganrif Ac nid yw ' Dafod Aur
  • EDGEWORTH, ROGER (? - 1560), diwinydd Catholig Ganwyd yng nghastell yr Holt, sir Ddinbych. Aeth i Rydychen tua 1503, graddiodd yn B.A. yn 1507, ac yn 1508 fe'i etholwyd yn gymrawd o Goleg Oriel. Daeth yn bregethwr adnabyddus yn y brifysgol a'r tu allan, a chafodd nifer o swyddi gan ei benodi'n ganghellor eglwys gadeiriol Wells yn 1554. Yn ystod teyrnasiad Harri VIII ac Edward VI bu'n gymedrol iawn, ond o dan y frenhines Mari fe ddangosodd ei
  • teulu EDISBURY Bedwal, Marchwiel, Pentreclawdd, Erthig, Teulu o swydd Gaer ydoedd hwn, yn disgyn o Wilkin de Edisbury. Fe'u ceir yn gyntaf yn sir Ddinbych c. 1544, pan ddaliai RICHARD WILKINSON, neu EDISBURY, diroedd yn Bedwal. Ychwanegodd ei fab iau ef, ROBERT WILKINSON EDISBURY, at ei ystad trwy briodi Jane, merch Kenrick ap Howel o Stryt yr Hwch, Marchwiel. Aeth eu mab hwy, KENRICK EDISBURY (bu farw 1638), i wasnaethu y ' Navy Board,' efallai trwy
  • EDMONDES, CHARLES GRESFORD (1838 - 1893), archddiacon a phrifathro Ganwyd 8 Rhagfyr 1838 yn fab hynaf THOMAS EDMONDES (1806 - 1892), ficer y Bontfaen; yr oedd ei fam (Harriet Anne) yn chwaer i Charles Williams, pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen wedyn; a bu brawd iddo, FREDERICK WILLIAM EDMONDES (1841 - 1918), yn archddiacon Llandaf. O ysgolion y Bontfaen a Sherborne, aeth Charles Edmondes i Goleg y Drindod yn Rhydychen yn 1856, a graddio yn 1861 (yn y dosbarth