Canlyniadau chwilio

649 - 660 of 1877 for "Mai"

649 - 660 of 1877 for "Mai"

  • HUGHES, JOHN (1873 - 1932), cyfansoddwr yr emyn-dôn 'Cwm Rhondda ' David, a bu iddynt fab a merch. Fel ei dad, daeth yn ddiacon ac arweinydd y gân yng nghapel Salem. Cyfansoddodd ei emyn-dôn enwog ar gyfer cyfarfodydd dathlu yn 1907 yng nghapel Rhondda, Pontypridd. Fodd bynnag, nid oedd ' Cwm Rhondda ' ond un o lawer o emyn-donau, anthemau a chaneuon a gyfansoddodd. Bu farw yn Nhon-teg, Llanilltud Faerdref, 14 Mai 1932.
  • HUGHES, JOHN GRUFFYDD MOELWYN (1866 - 1944), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 30 Mai 1866, yn fab i Griffith ac Elizabeth Hughes, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Wedi gadael yr ysgol fwrdd bu'n llythyrgludydd am ysbaid, ac yna'n glerc mewn swyddfa cyfreithiwr ym Mlaenau Ffestiniog. Oddi yno aeth i Borthmadog, i swyddfa'r Meistri William a David Lloyd George. Trigai ar y pryd ym Mhentrefelin, ac yno yng nghapel Cedron y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yng
  • HUGHES, JOHN WILLIAMS (1888 - 1979), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg mai fel llythyrau i'w darllen a'u deall ar un eisteddiad y bwriadwyd y ddau epistol, ac nid rhywbeth i'w darllen a'u dadansoddi linell wrth linell gan graffu ar bob gair a brawddeg. Rhaid darllen y llythyr drwyddo i ganfod beth y mae Paul yn ceisio'i ddweud, meddai. Aralleiriad o'r ddau lythyr, felly, a gyhoeddwyd ganddo gan gynnwys o fewn i'r aralleiriad unrhyw eglurhad y teimla sy'n angenrheidiol
  • HUGHES, JONATHAN (1721 - 1805), bardd yn Llangollen yn Ionawr 1789, ac yn eisteddfod Corwen ym Mai y flwyddyn honno ef oedd un o'r tri (' Twm o'r Nant' a 'Gwallter Mechain' oedd y lleill) y methwyd penderfynu rhyngddynt, a gorfod gyrru eu gwaith i Lundain i'w feirniadu gan y Gwyneddigion. Yr oedd hefyd yn eisteddfod y Bala ym Medi 1789. Ond ni bu llawer o lwyddiant ar ei gynigion fel bardd eisteddfod; canu carolaidd y 18fed ganrif oedd
  • HUGHES, JOSEPH TUDOR (Blegwryd; 1827 - 1841), bachgen â'i hynododd ei hun yn ei blentyndod fel telynor, etc. ), gan gynnal cyngherddau yn y White House (Washington), New York, Baltimore, Philadelphia, etc. Yr oedd 'Blegwryd' eisoes, cyn iddo adael Prydain, wedi peri syndod mawr i luoedd o bobl - rhai aelodau o'r teulu brenhinol yn eu plith - a'i gwelodd ac a'i clywodd yn perfformio. Collodd ei fywyd trwy foddi yn afon Hudson ar 12 Mai 1841. Brawd iddo oedd David E. Hughes, dyfeisydd.
  • HUGHES, LOT (1787 - 1873), gweinidog Wesleaidd a hanesydd Ganwyd 20 Mai 1787 yn Abergele. Wedi blwyddyn a hanner o addysg elfennol yn Abergele, prentisiwyd ef yn ddilledydd, a dilynodd y gorchwyl hwnnw mewn amryw fannau. Un o aelodau cyntaf seiat Wesleaidd Abergele (1802), yr oedd yn flaenor yn 16 oed, a dechreuodd bregethu yn 1806. Wedi cynhadledd 1808, galwyd ef i'r weinidogaeth deithiol a threuliodd weddill y flwyddyn gyfundebol honno ar gylchdaith
  • HUGHES, MICHAEL (1752 - 1825), diwydiannwr a dyn busnes Sherdley House (neu Hall), Sutton, plwyf Prescot, sir Lancaster; ganwyd 13 Mai 1752, yr ieuengaf o dri mab Hugh Hughes (1706 - 1774), Lleiniog, gerllaw Biwmares, sir Fôn, a'i wraig Mary, merch Rowland Jones, Carreg-y-fanian, sir Fôn - yr oedd Michael Hughes felly yn frawd i Edward Hughes, clerigwr, a ddaeth yn gyfoethog oherwydd iddo, drwy ei wraig, ddyfod i feddu rhan o Mynydd Parys, y rhan
  • HUGHES, RICHARD (c. 1565 - 1619) Cefn Llanfair,, bardd mae'r rhan fwyaf ohonynt ar ffurf ymddiddan. Y mae blas gwlad ar ei ganu. Bu farw rhwng dechrau Chwefror a dechrau Mai 1619; claddwyd ef yn eglwys Llanbedrog, ac ysgrifennodd Gruffydd Phylip farwnad arno (Y Cymmrodor, xlii, 199).
  • HUGHES, ROBERT (1811 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd capel (Babell) a gododd yn 1857. Bu farw 3 Mai 1892. Yr oedd yn ddyn eithriadol iawn, ac y mae ei hunangofiant (a gyhoeddwyd, gyda detholiad o'i bregethau, yn 1893) yn ddiddorol dros ben. Greddf yr artist oedd ynddo: naddu llwy bren, saernïo englyn, tynnu darlun mewn pregeth, ac yn ddiwethaf oll, ac yntau'n 60 oed, mynd ati i dynnu darluniau mewn olew.
  • HUGHES, ROBERT ARTHUR (1910 - 1996), meddyg cenhadol yn Shillong, Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India ac arweinydd dylanwadol yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru India yn 1969. Cynhaliwyd gwasanaeth ffarwelio ag ef a'i wraig Nancy 16 Mai 1969 pan dyrrodd pobl Bryiau Khasia i dalu teyrnged i un a adeinid yn 'Schweitzer Assam'. Dychwelodd Arthur Hughes i Shillong yn 1984 i geisio datrys anhawsterau a oedd wedi codi yno, ac eto yn 1991 adeg dathlu 150 penblwydd yr eglwys pan gafodd gyfle i annerch torf a amcangyfrifwyd yn 150,000. Ymgartrefodd Arthur Hughes yn
  • HUGHES, THOMAS (Glan Pherath; 1803 - 1898), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 8 Mai 1803 yn Nhrawsfynydd. Bu'n cadw ysgol yn Ffestiniog, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn 1823 rhoddodd yr ysgol heibio ac aeth i fyw i Lanelltyd, ger Dolgellau; yn 1824 symudodd drachefn, i Fachynlleth y tro hwn, ac fel ' Thomas Hughes, Machynlleth,' y daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel pregethwr poblogaidd iawn. Teithiodd lawer ar hyd a lled y wlad ar gefn ei geffyl. ' Yr oedd ei lais
  • HUGHES, THOMAS (1758 - 1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a haedda sylw am mai ef oedd y cynghorwr Methodistaidd Calfinaidd cyntaf yn Lerpwl i gael ei ordeinio; ganwyd yn y Bala, yn fab i saer coed; ymunodd â'r seiat yno yn 1782. Aeth i Lerpwl yn 1787 i weithio fel saer; dechreuodd bregethu yn 1789 a (chyda Thomas Edwards) daeth yn arweinydd Methodistiaeth Gymraeg Lerpwl; cafodd ei ordeinio yn 1816. Yr oedd eisoes wedi tyfu o fod yn saer i fod yn