Canlyniadau chwilio

649 - 660 of 1076 for "henry morgan"

649 - 660 of 1076 for "henry morgan"

  • MORGAN, THOMAS REES (1834 - 1897), peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd . Ymfudodd i U.D.A. yn 1865 a sefydlu yn Pittston, Pa., gan weithio yn siopau-gwaith cwmnïau rheilffyrdd. Bu wedyn yn y Cambria Iron Works (Johnstown) ac yn yr Atlas Works, Pittsburgh. Yn 1868 dechreuodd ei fusnes ei hun gan wneuthur morthwylion a weithir gan ager; o'r cychwyn syml hwn y datblygodd gwaith mawr y Morgan Engineering Company a chwmnïau eraill. Daeth ei ffyrm yn ymgymerwr mawr, gan wneuthur
  • MORGAN, TREFOR RICHARD (1914 - 1970), rheolwr cwmni Ganwyd 28 Ionawr 1914 ar Donyrefail, Morgannwg, yn bumed plentyn i Samuel ac Edith (ganwyd Richards) Morgan. Hanai teulu'r tad o ardal Llanbedr-y-fro? a theulu'r fam o Lanilltud Faerdref. Saer maen oedd y tad a fu farw yn 1918 o'r afiechyd a ysgubodd dros y wlad yn sgîl Rhyfel Byd I. Bu raid i'r fam ymdrechu i fagu saith o blant mewn tlodi mawr. Bedyddwyr ymroddedig oedd y teulu o'r ddau du
  • MORGAN, WALTER (fl. 1695), awdur nawddogaeth pan gyflwynodd deon a chabidwl Caerloyw ŵr o'r enw James Harries i'r fywoliaeth, a sefydlwyd y diwethaf, 7 Mehefin 1695 (Llandaff Subscription Books, iv), ac arhosodd ef yno hyd 1728. Ni wyddys yn sicr ai'r Walter Morgan hwn yw'r un a enwir gan Foster, mab Thomas Morgan o Landeilo, a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 30 Mai 1682, yn 21 oed, neu ddyn o'r un enw a fu'n rheithor Eglwysilan
  • MORGAN, Syr WALTER VAUGHAN (1831 - 1916), arglwydd faer Llundain Ganwyd 3 Mai 1831, yn chweched mab i Thomas Morgan o Pipton, y Clas-ar-Ŵy (Glasbury), Brycheiniog, a'i wraig Elizabeth (Vaughan) - yr wythfed mab oedd OCTAVIUS VAUGHAN MORGAN, F.S.A. (1837 - 1896), aelod seneddol Rhyddfrydol dros Battersea, 1885-92; ar y teulu, gweler Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iii, 90. Yn wyneb colledion y teulu, aeth amryw o'r meibion i
  • MORGAN, WILLIAM (1623 - 1689), Jesiwit Ganwyd 1623 yng Nghilcain, Sir y Fflint, yn fab i Henry Morgan a Winefrid Gwynne. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a dywed Foley iddo fyned oddi yno yn 1640 i Goleg y Drindod, Caergrawnt, er nad oes dim o'i hanes yng nghofnodion na'r coleg hwnnw na cholegau eraill y brifysgol. Trowyd ef allan ymhen dwy flynedd fel un o bleidwyr y brenin Siarl. Cymerwyd ef yn garcharor ym mrwydr Naseby, ac ymhen
  • MORGAN, Syr WILLIAM (bu farw 1584), milwr mab Syr Thomas Morgan, Pencoed a Langstone, Morgannwg, a Cecilia, merch Syr George Herbert, Abertawe. Aeth i Ffrainc yn 1569 i ymladd fel gwirfoddolwr ym myddin y Protestaniaid. Bu mewn amryw ysgarmesoedd yn y wlad honno ac yn yr Iseldiroedd, a dychwelodd i Loegr mewn pryd i ymuno â iarll Essex yn ei anturiaethau yn Iwerddon. Ar gais yr iarll gwnaed ef yn farchog gan Elisabeth yn 1574, ond
  • MORGAN, WILLIAM (1819 - 1878), bardd 'gymanfa ganu' (1859), sefydliad a ledodd trwy Gymru yn fuan wedi hynny. Priododd Mary, chwaer Noah Morgan Jones ('Cymro Gwyllt'). Daeth Ann, ei chwaer, yn wraig David Williams ('Alaw Goch'). Bu farw 7 Medi 1878 a chladdwyd yng nghladdfa Aberdâr.
  • MORGAN, WILLIAM (1818 - 1884), gweinidog Annibynnol ac athro
  • MORGAN, WILLIAM (1750 - 1833), ystadegydd Ganwyd ef ar 26 Mai 1750 ym Mhenybont-ar-Ogwr, yn fab hynaf i William Morgan (meddyg) a'i wraig Sarah Price, chwaer yr athronydd Richard Price - mab arall oedd George Cadogan Morgan. Bu'n brentis gyda dau apothecari yn Llundain a hefyd yn fyfyriwr yn Ysbyty St Thomas. Yn 1772, dychwelodd i Ben-y-bont i gymryd practis ei dad ar ôl iddo farw. Yn 1773 aeth i Lundain ac mae'n bosibl ei fod wedi cadw
  • MORGAN, WILLIAM (JOHN) (Penfro; 1846 - 1918), clerigwr, eisteddfodwr, ac emynydd Ganwyd 14 Rhagfyr 1846 yn Nyfer, Sir Benfro. Symudodd ei dad, David Morgan, yn fuan i Lanfihangel-penbedw, ac oddi yno i Foncath, a bu'n glerc y plwyf ac arweinydd y gân yn y ddau le. Addysgwyd y mab, a oedd yn gerddorol fel ei dad, yn ysgol ramadeg Aberteifi, ac yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan (B.A., 1871). Ordeiniwyd ef yn 1871, a thrwyddedwyd ef yn gurad Llanrwst, lle y daeth i gysylltiad
  • MORGAN, WILLIAM (c.1545 - 1604), esgob a chyfieithydd Ganwyd yn y Ty Mawr, Wybrnant, ym mhlwyf Penmachno, tua 1545 (Venn, Alumni Cantabrigienses), yn fab John ap Morgan ap Llywelyn, tenant ar stad Gwydir, a'i wraig Lowri, merch William ap John ap Madog. Dywedir iddo dderbyn ei addysg fore gan hen fynach, ac aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, fel 'sub-sizar' (gwas ac efrydydd) yn 1565. Graddiodd yn B.A. yn 1568 ac yn M.A. yn 1571, a daeth yn
  • MORGAN, WILLIAM (Gwilym Gellideg; 1808 - 1878), bardd