Canlyniadau chwilio

697 - 708 of 894 for "Medi"

697 - 708 of 894 for "Medi"

  • ROBERTS, GORONWY OWEN (Barwn Goronwy-Roberts), (1913 - 1981), gwleidydd Llafur Ganwyd ef ym Methesda ar 20 Medi 1913, yn fab i Edward E. ac Amelia Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ogwen, Bethesda a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Saesneg, a gradd MA gyda marc rhagoriaeth), a bu wedyn yn Gymrawd Prifysgol Cymru ym 1938. Tra oedd yn fyfyriwr ym Mangor roedd Roberts (gyda Harri Gwynn ac eraill) yn un o gyd-sylfaenwyr Mudiad Gwerin
  • ROBERTS, GRIFFITH (1735 - 1808), meddyg, a chasglwr llawysgrifau Ganwyd yn 1735 (bedyddiwyd 6 Medi) yn Isallt, Penmorfa, Eifionydd, yn fab i Robert Roberts (1707 - 1769); gweler yr ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 359; y mae'r teulu (cainc o deulu Cesail Gyfarch) yn hynod am y nifer eithriadol (30, medd rhai) o feddygon a hanoedd ohono. Meddyg (a breswyliai yn y Plas Isa, Dolgellau) oedd Griffith Roberts yntau, ond fe'i cofir yn hytrach fel casglwr hen
  • ROBERTS, GWILYM OWEN (1909 - 1987), awdur, darlithydd, gweinidog a seicolegydd (gweler ei erthygl 'Yr Athro Phillips fel Meddyg Meddwl' yn Y Traethodydd 1952). Ordeiniwyd ef yn sasiwn Bethesda ym Medi 1938. Bu'n weinidog eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Stoke-on-Trent ac ym Manceinion yn y 1940au. Cynyddodd ei ddiddordeb mewn seicoleg yn y blynyddoedd hyn, a phenderfynodd astudio'r pwnc yn fwy manwl. Hyfforddodd fel seicolegydd clingiol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Leeds trwy
  • ROBERTS, JOHN (J.R.; 1804 - 1884), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur am eglwys Gymraeg Aldersgate Street ac arhosodd yno hyd 1860, pryd y daeth i Gonwy, lle y bu farw, 7 Medi 1884; claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus Conwy. Er iddo yn nechrau ei yrfa ddyfod i amlygrwydd fel pregethwr, eto fel dadleuwr a golygydd yr enillodd iddo'i hun enw gan mwyaf. Wedi i'w frawd 'S.R.' ymadael â Chymru yn 1857 ef a olygai Y Cronicl, a pharhaodd wrth y gwaith hyd ei farwolaeth
  • ROBERTS, JOHN (Sion Robert Lewis; 1731 - 1806), awdur, almanaciwr, ac emynydd i'w cyhoeddi am 44 blynedd. Ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd hwy hyd 1837 gan ei fab Robert Roberts. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, sir Fôn, a ganed iddynt chwech o blant. Bu farw 19 Medi 1806.
  • ROBERTS, JOHN (1842 - 1908), un o genhadon y Methodistiaid Calfinaidd ar Fryniau Khassia, India, am 37 mlynedd ), merch i Thomas Jones ('Glan Alun'). Hwyliodd y ddau ar 27 Medi 1871 am yr India gan ymsefydlu yn Shella. Ymhen pum mlynedd symudasant i Cherrapoongee, lle y arosasant. Fel arloeswr âi John Roberts ar deithiau hir a pheryglus i bregethu'r efengyl; arferai weinyddu fel meddyg ar filoedd, cychwynnodd ysgolion a'u cadw, sefydlodd goleg diwinyddol yn Cherra a phenodwyd ef yn brifathro arno. Meistrolodd yr
  • ROBERTS, MORRIS (1799 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i ddechrau, ac yna gweinidog gyda'r Annibynwyr drafferth oherwydd ei olygiadau ' ar rai pethau yn athrawiaeth yr Efengyl.' Cyhuddid ef o ogwyddo at y 'system newydd' mewn athrawiaeth, a dilyn John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill o weinidogion yr Annibynwyr. Bu ei achos gerbron cymdeithasfa y Bala ym Mehefin 1828, ac ataliwyd ef rhag pregethu y tu allan i'w sir ei hun hyd gymdeithasfa Caernarfon y mis Medi dilynol, pryd yr adferwyd ef. Ym Mehefin 1831
  • ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 12 Medi 1762, mab Robert Thomas a Catherine Jones, y Ffridd, Baladeulyn. Aeth yn fachgen i weithio i chwarel y Cilgwyn. Er bod cadw ysgol Sul ac ymgynnull i addoli yn ei gartref, yr oedd bryd Robert ar oferedd. Pan oedd tuag 16 oed ducpwyd ef gan ei frawd John (1753 - 1834) i oedfa gan David Jones o Lan-gan yng nghapel Brynrodyn, a newidiodd ei gwmni a'i ffordd o fyw. Gadawodd y chwarel
  • ROBERTS, ROBERT (Bob Tai'r Felin'; 1870 - 1951), canwr cerddi gwerin Ganwyd 1 Medi 1870 yn Nhai'r Felin, Cwmtirmynach, Bala, Meirionnydd, yn fab o briodas Cadwaladr Roberts, Tai'r Felin, â Betsi Rowlands, Cae Gwernog, Capel Celyn. Dilynodd grefft ei dad gartref fel melinydd a ffermwr. Ymbriododd ag Elizabeth Jane Roberts, o fferm y Fron-goch gerllaw, a magasant dri o blant. Yng nghapel Presbyteraidd Cwmtirmynach bu'n codi canu am gryn hanner can mlynedd, yn athro
  • ROBERTS, SAMUEL (S.R.; 1800 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd cynllun i'r llwfr ydoedd. Cymylwyd ei flynyddoedd olaf gan ymrysonau cecrus, a'r ddadl enwadol â Michael D. Jones. Ond yn 1883 derbyniodd arwydd bellach o barch y cyhoedd drwy dysteb o £400, yn cynnwys £50 yn rhodd gan y Llywodraeth, am ei ymdrechion maith dros y llythyr ceiniog. Bu farw 24 Medi 1885, a chladdwyd ef yng Nghonwy. Yr oedd yn ddi-briod.
  • ROBERTS, THOMAS FRANCIS (1860 - 1919), prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth Ganwyd yn Aberdyfi 25 Medi 1860, mab hynaf Thomas Roberts, sersiant yn yr heddlu ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysg yn Nhywyn ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1879 enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf (1881) a'r ail (1883) yn y clasuron, a graddio yn 1883. Ar derfyn ei dymor yn Rhydychen penodwyd ef yn
  • ROBERTS, WILLIAM (1809 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd, ac awdur Ganwyd yn Llannerch-y-medd, 25 Medi 1809. Addysgwyd gan John Richards, offeiriad ei blwyf, a bu yn ysgol William Griffith, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Caergybi. Dechreuodd bregethu yng nghapel Hyfrydle, Caergybi, yn 1829. Aeth i Ddulyn am ychwaneg o addysg, crynhodd rai o Gymry Dulyn at ei gilydd, a thrwy hynny cychwynnwyd eglwys Gymraeg yn y ddinas honno. Fe'i cyfrifid yn un o'r pregethwyr