Canlyniadau chwilio

61 - 72 of 110 for "Madog"

61 - 72 of 110 for "Madog"

  • MAB Y CLOCHYDDYN (fl. c. 1380), bardd Dywedir mai brodor o Lanafan Fawr yn sir Frycheiniog ydoedd. Cadwyd dwy enghraifft o'i waith yn 'Llyfr Coch Hergest' a rhai llawysgrifau eraill, sef marwnad i Wenhwyfar ferch Madog, gwraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Fôn, a dau englyn.
  • MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1236), arglwydd Powys (gweler dan Gwenwynwyn).Ar y cyntaf yr oedd Madog yn gyfeillgar â Llywelyn I, eithr troes ei gefn ar ei gefnder pan oedd ffawd hwnnw yn bur isel yn 1211. Parhaodd i gadw draw wedi i Lywelyn ailffurfio'r gynghreiriaeth Gymreig yn 1212 ac ystyrid ef fel un o gynghreiriaid cydnabyddedig y brenin John, yn derbyn tâl ganddo. Erbyn 1215, fodd bynnag, fe'i ceir yn gadarn o blaid Llywelyn a pharhaodd felly hyd
  • MADOG ap GWALLTER, bardd crefyddol cynnar yng ngwaith Madog ap Gwallter, ac y mae'n dra thebyg ei fod yn perthyn i Urdd Sant Ffransis. Dengys ei englynion i Fihangel ei fod yn enedigol o ryw Lanfihangel. Ceir gwaith Madog ap Gwallter yn y The Myvyrian Archaiology of Wales, 273-5; a'i ganu i Dduw, ac i'r Geni, yn Llyfr Coch Hergest, 1151-4. Nid oes dim o'i waith yn NLW MS 6680: Llawysgrif Hendregadredd. Yn llawysgrif Caerdydd 2.611, sydd
  • MADOG ap LLYWELYN, gwrthryfelwr 1294 Dangoswyd yn bendant mai mab ydoedd i Lywelyn ap Maredudd, arglwydd-ddeiliad olaf Meirionnydd, y gŵr y cymerwyd ei dreftadaeth oddi arno am iddo wrthwynebu Llywelyn II yn 1256 (gweler Llywelyn Fawr a Llywelyn Fychan, arglwyddi Meirionnydd). Trigai Llywelyn yn Lloegr - yn un o bensiynwyr y brenin; wedi ei farw yn 1263 parhaodd ei fab, Madog, mewn ffafr yn llys y brenin. Yn ystod 1277 gwnaethpwyd
  • MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1160), brenin Powys castell Tomen-y-Rhodwydd ym mhen deheuol Dyffryn Clwyd, heriodd Madog, mewn cynghrair â Ranulf, iarll Caer, nesâd Owain tuag ato, eithr ni lwyddodd yr her, a chollodd Madog, am beth amser, lywodraeth ar ei diroedd yn Iâl.Daeth tro ar fyd yn hyn o beth, fodd bynnag, yn 1157 pan wnaeth Harri II, gyda chymorth Madog, ddatganiad pendant o'i awdurdod fel brenin yng Ngogledd Cymru. Hyd ei farwolaeth dair
  • MADOG BENFRAS (fl. c. 1320-60), bardd o Farchwiail yn sir Ddinbych. Rhoddir ei achau yn Powys Fadog : ' Madog Benfras ap Gruffudd ap Iorwerth, arglwydd Sonlli, ab Einion Goch ab Ieuaf ap Llywarch ab Ieuaf ap Niniaw ap Cynfrig ap Rhiwallawn.' Yr oedd ei ddau frawd, Llywelyn Llogell (person plwyf March'wiail) ac Ednyfed, yn feirdd hefyd, a dywedir gan ' Iolo Morganwg ' mai Llywelyn ap Gwilym o Emlyn oedd eu hathro barddonol hwy ill tri
  • MADOG DWYGRAIG (fl. c. 1370), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest a rhai llawysgrifau eraill. Yn ei phlith ceir awdlau crefyddol a dychan, a hefyd awdlau i Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, Gruffudd ap Madog o Lechwedd Ystrad, a Morgan Dafydd ap Llywarch o Ystrad Tywi. Casglwyd rhai ohonynt yn y Myvyrian Archaiology of Wales.
  • MADOG FYCHAN ap MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1269) ŵyr Gruffydd Maelor I a brawd Gruffydd Maelor II. Pan fu ei dad farw yn 1236 ymunodd Madog Fychan yn y rhannu a ddilynodd ar Powys Fadog. Yr oedd ei osgo ef ar broblemau gwleidyddol mawr y cyfnod yn gyffelyb i eiddo Gruffydd Maelor I. Yn 1245 ceir ef ymhlith cynghreiriaid Dafydd II; yn 1258 yr oedd ar ochr Llywelyn II. Nid oedd y ffaith i'w ymrwymiad ar ran Tudur ab Ednyfed gael ei dderbyn gan
  • MAELGWN ap RHYS (c. 1170 - 1230), arglwydd Ceredigion mab yr arglwydd Rhys a Gwenllian, ferch Madog ap Maredudd. Ymddengys am y tro cyntaf yng ngwarchae Dinbych-y-pysgod yn 1187; cymerth arno arwydd y groes pan fu Gerallt Gymro yn teithio trwy Gymru yn 1188. Un byr o gorffolaeth ydoedd, terfysglyd ac ymladdgar, a pharodd ei ymarweddiad gryn ofid i'w dad yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd yn garcharor o 1189 hyd 1194 ac yn alltud pan fu Rhys farw yn
  • MAELGWN ap RHYS (fl. 1294), gwrthryfelwr mab Rhys Fychan, arglwydd olaf Genau'r Glyn yng ngogledd sir Aberteifi, a disgynnydd Maelgwn ap Rhys ap Gruffydd. Yn 1294, pan dorrodd gwrthryfel (o dan arweiniad Madog ap Llywelyn yng Ngogledd Cymru a Morgan ap Rhys ym Morgannwg) yn erbyn llywodraeth estron, fe'i gwnaeth Maelgwn ei hun yn arweinydd y gwrthryfelwyr yn Sir Aberteifi. Yn ystod yr ymgyrch yng ngorllewin Cymru bu gwarchae caled
  • MEREDUDD ap RHYS (fl. 1450-85), uchelwr, offeiriad, a bardd Ei enw ef yn sicr yw hwnnw a geir yn llyfrau achau Robert Vaughan o'r Hengwrt ac Edward ap Roger o Riwabon - Meredudd ap Rhys a briododd Angharad ferch Madog ap Robert o Gristionydd ym mhlwyf Rhiwabon. Olrheinir ei ach i Rys Sais a Thudur Trefor. Mewn llawysgrifau eraill cysylltir ei hendaid Madog Llwyd â'r Plas yn Nanheudwy ', cyndadau llawer o deuluoedd bonheddig yn y Maelorau a'r Mars
  • MORGAN, arweinydd gwrthryfelwyr Morgannwg yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294-5. Mynnai ef mai yn erbyn arglwyddi Morgannwg yn unig y rhyfelai, oherwydd achwyniadau personol o'i eiddo yn erbyn teulu Clare. Efallai, felly, mai Morgan ap Maredudd ydoedd, disgynnydd uniongyrchol o Rydderch ab Iestyn; cymerasid tiroedd ei dad, Maredudd, arglwydd Cymreig olaf Caerlleon-ar-Wysg, gan Gilbert de Clare 20 mlynedd yn gynharach. Mewn un