Canlyniadau chwilio

781 - 792 of 877 for "Owen"

781 - 792 of 877 for "Owen"

  • TWISTLETON, GEORGE (1618 - 1667), swyddog ym myddin y Senedd Siarl frenin, a bu yn yr ysgarmes ar y Dalar Hir, Llandegai, 5 Mehefin 1648, pan orchfygwyd ac y daliwyd Syr John Owen, Clenennau. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Uchel Lys a nodwyd i brofi'r brenin Siarl, yn ogystal ag o amryw gomisiynau a drefnwyd ynglŷn ag atafaelu, etc., yn nyddiau'r Weriniaeth. Codwyd ef yn aelod seneddol tros Fôn yn 1659. Ar ôl yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar, ac nid ymddengys
  • teulu VAUGHAN Corsygedol, adnabyddus yn Llundain oblegid ei fod mor eithriadol o dew. Priododd Richard Vaughan Anne, ferch (Syr) John Owen, Clenennau. Priododd WILLIAM VAUGHAN (bu farw 1669), ei fab yntau, Anne, ferch teulu Nannau, uniad rhwng dau deulu yr oedd eisoes gryn gyfathrach rhyngddynt. Bu farw eu mab hynaf hwy, GRIFFITH VAUGHAN, yn 1697 heb etifedd; eithr cadwyd y llinach ymlaen ym mherson ei frawd RICHARD VAUGHAN (bu
  • teulu VAUGHAN Llwydiarth, blwydd teyrnasiad Harri V y rhoddwyd y pardwn. Nid ydyw Lewis Glyn Cothi yn cyfeirio at y teulu ac y mae'n debyg nad oedd iddo bwysigrwydd cyn cyfnod y Tuduriaid. Ymddengys fod aelodau teulu'r Fychaniaid yn wastad yn cweryla â theulu'r Herbertiaid ac mai hyn oedd y rheswm paham na chafwyd o'u plith aelodau seneddol dros sir Drefaldwyn a dim ond un siryf - JOHN ab OWEN VAUGHAN, yn 1583. Priododd ef â
  • VAUGHAN, ARTHUR OWEN (Owen Rhoscomyl; 1863? - 1919), anturwr ac awdur Enw mabwysiedig oedd hwn - ei enw bedydd oedd Robert Scourfield, mab Robert Mills a Jane Ann, merch Joseph Scourfield. Ganwyd yn Southport, 6 Medi 1863. Claddwyd ei dad o fewn mis wedyn. Symudodd y fam i Fanceinion a phriodi eilwaith. Bu'r ail ŵr, Luke Etchells farw yn 1869. Magwyd y bachgen gan ei nain a oedd yn wreiddiol o Dre-meirchion. Owen oedd ei henw hi arno. Ef ei hun a fabwysiadodd yr
  • VAUGHAN, EDWARD (bu farw 1661), 'Master of the Bench of the Inner Temple' Ceir manylion pur lawn am ei yrfa yn yr erthygl gan Rees L. Lloyd a enwir isod; braslun byr sydd yma, felly, o'r hyn a geir yn honno. Pedwerydd mab ydoedd i Owen Vaughan, Llwydiarth, Sir Drefaldwyn, a'i wraig Catherine, unig aeres Maurice ap Robert, Llangedwyn - gweler yr erthygl ar deulu Vaughan, Llwydiarth. Fel ei dri brawd hŷn - John Vaughan, Syr Robert Vaughan, a Roger Vaughan - aeth i'r
  • VAUGHAN, JOHN (bu farw 1824), arlunydd a ffidler Dywed W. Davies Leathart yr arferai ganu'r ffidil yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Gwyneddigion, Llundain, tua'r flwyddyn 1776. Paentiodd ddarlun o Owen Jones ('Owain Myvyr'). Bu farw 1824 mewn oedran mawr. Brawd iddo oedd WILLIAM VAUGHAN, brodor o Gonwy, un o aelodau cynharaf y Gwyneddigion. Dywed Leathart yr edrychid arno fel 'a dandy of the first order, a distinction he was not a little proud of
  • VAUGHAN, JOHN (1871 - 1956), cadfridog Ganwyd 31 Gorffennaf 1871 yn ail fab i John Vaughan, Nannau, Dolgellau, Meirionnydd (bu farw 1900) ac Elinor Anne, merch Edward Owen, Garthyngharad, Dolgellau. Medrai'r teulu olrhain ei dras o dywysogion Cymreig yr oesoedd canol. Addysgwyd ef yn Eton ac yn y Coleg Milwrol Brenhinol yn Sandhurst. Ymunodd â'r 7th Hussars yn 1891, a gwelodd wasanaeth milwrol yn yr ymgyrch i ryddhau'r Matabele yn
  • VAUGHAN, ROBERT (1592? - 1667), hynafiaethydd a pherchen llyfrgell enwog Hengwrt Unig fab cyfreithlon Hywel Fychan (a fu farw 1639), y Wengraig yn nhreddegwm Garthgynfor a phlwyf Dolgellau ar lethrau dwyreiniol Cader Idris, a olrheiniai ei dras o Gadwgan, arglwydd Nannau, mab Bleddyn ap Cynfyn, tywysog Powys. Ei fam oedd Margaret, ferch Edward Owen, Hengwrt, plwyf Llanelltyd, ac ŵyres Lewis Owen, barwn Siecr Gogledd Cymru, a laddwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy yn 1555
  • VAUGHAN, ROWLAND (c. 1590 - 1667) Caer Gai,, bardd, cyfieithydd, a Brenhinwr cyrnol John Owen, y cyflwynodd Vaughan y gwaith iddo. Rhan yn unig o'r cyfieithiad sydd ar gael ynghyd â'r llythyr cyflwyno; ar hyn gweler Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i, 141-4. Bu farw Rowland Vaughan 18 Medi 1667. Ei fab hynaf, John, a etifeddodd y stad, a gorwyres iddo ef, Mary Elizabeth (ganwyd 1709), priod y Parchedig Henry Mainwaring, rheithor Etwall, a werthodd Gaer Gai a Thref Brysg
  • VILE, THOMAS HENRY (1882 - 1958), chwaraewr rygbi gyda'r tîm Prydeinig i Awstralia a Seland Newydd. Oherwydd presenoldeb Richard M. (' Dickie ') Owen yn nhîm Cymru, bu rhaid iddo aros tan 1908 cyn ennill ei gap cyntaf. Gwnaed yn gapten clwb Casnewydd yn 1909, a datblygodd y bartneriaeth rhyngddo ef a Walter Martin yn un o'r disgleiriaf erioed. Yr oedd ganddo feddwl tactegol miniog. Llywiodd Gasnewydd i'w buddugoliaeth hanesyddol (9-3) dros Dde Affrica
  • teulu VINCENT yntau (o Goleg Iesu) yn 1739, bu'n athro Ysgol Friars ym Mangor ac yn ficer Bangor, yn rheithor Llandwrog (Arfon), ac wedyn (1763) yn rheithor Llanfachraeth. O'i amryw ferched, daeth un, JANE (1751 - 1812), yn wraig i'w chefnder JOHN JONES, swyddog yn y fyddin a mab i Owen Jones (o Benychen yn Abererch), canon Bangor, o'i briod Catherine a oedd yn ferch i'r Thomas Vincent uchod. Mab i John a Jane
  • WARRINGTON, WILLIAM (1735 - 1824), hanesydd a dramodydd argraffiad yn cynnwys dau fap gan William Owen (Pughe), y naill yn dangos rhaniadau canoloesol Cymru a'r llall o Gymru fodern. Ymddengys fod Warrington wedi cael ei gyflwyno i Owen gan Iolo Morganwg, y gwyddys iddo ohebu ag ef (er na oroesodd unrhyw lythyrau rhyngddynt). Amlygir cydymdeimlad Warrington â'i bwnc yn y rhagair i'w History, sy'n gorffen: '[T]he author thinks it necessary to declare that he is