Canlyniadau chwilio

73 - 84 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

73 - 84 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • BARTRUM, PETER CLEMENT (1907 - 2008), ysgolhaig achau Cymru anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1988. Ar wahân i achau a chwedloniaeth, ymddiddorai mewn posau mathemategol, ac yn ogystal ag erthyglau ar bynciau meteorolegol cyhoeddodd bapurau ar berthynoldeb ac ar faes electromagnetaidd Null, gan gynnwys papur dan y teitl 'Rotation in General Relativity with Applications to the Case of a Rotating Particle', a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol. Roedd yn
  • BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd i'w goffadwriaeth gan John Williams, S. Athan, a William Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd David Jones, Langan, lyfryn ar achlysur ei farwolaeth, Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin at Ioan ab Gwilim y Prydydd … (Trefecca, 1784), yn rhoi hanes ei fywyd.
  • BASSETT, HULDAH CHARLES (1901 - 1982), athrawes, cerddor a darlledydd Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg o dan yr Athro W. J. Gruffydd, ac roedd ymhlith y pump o'i fyfyrwyr y cyflwynodd Gruffydd ei Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 iddynt yn 1922. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg y flwyddyn honno. Penodwyd hi yn athrawes yn y Bont-faen, a symudodd oddi yno i Ysgol Sir y Merched, Y Barri, lle y bu'n cydweithio â'r athrawes gerdd, Rhyda A. Jones: cyhoeddwyd eu
  • BASSETT, RICHARD (1777 - 1852), offeiriad Methodistaidd Ganwyd yn Nhresigin, Llanilltud Fawr, Morgannwg, 7 Tachwedd 1777. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bontfaen, a bu yng Ngholeg Iesu Rhydychen, am ysbaid. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1801, ac yn offeiriad yn 1802. Bu'n gurad yn Sain Tathan a Llan-dw; cafodd reithoriaeth Eglwys Brewys yn 1832, a ficeriaeth Tregolwyn yn 1843, a bu farw 31 Awst 1852. Ei gyfaill pennaf oedd William Howels; ef a'i
  • BATCHELOR, JOHN (1820 - 1883), dyn busnes a gwleidydd Cyngor ddeiseb i gael gwared â'r cerflun, gan honni na ddylai cofeb i ffigwr gwleidyddol mor ddadleuol gael ei arddangos mewn lle cyhoeddus. Gwrthodwyd y ddeiseb gan y Cyngor ac wedyn cafodd y cerflun ei fandaleiddio â phaent melyn a thar gan y Ceidwadwr William Thorn. Achos cwyn arall gan yr wrthblaid Geidwadol oedd epithet Batchelor ar blinth y cerflun, 'Friend of Freedom'. Mewn llythyr a gyhoeddwyd
  • BATTRICK, GERALD (1947 - 1998), chwaraewr tenis Ramadeg Pen-y-bont lle dangosodd gryn addewid fel chwaraewr tenis ifanc, ac yn 1962, yn 15 oed, dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i fynychu Ysgol Millfield yng Ngwlad yr Haf. Ymysg ei gyd-ddisgyblion roedd J. P. R. Williams (ganwyd 1949), hefyd yn fachgen o Ben-y-bont ac yn bencampwr tenis bechgyn, a ystyrai Battrick fel model rôl. Ym 1965 cafodd Battrick lwyddiannau cynnar gan ennill Junior Wimbledon, yn
  • BAUGH, ROBERT (1748? - 1832), gwneuthurwr mapiau, ysgythrwr, a cherddor Disgrifir ef 'o Landysilio,' eithr treuliodd flynyddoedd lawer yn Llanymynech, lle yr oedd yn glerc y plwyf. Cysylltir ei enw a map gweddol adnabyddus o Ogledd Cymru, sef un John Evans, Llwynygroes, Llanymynech, a gyhoeddwyd yn 1795, wedi ei ysgythru gan Baugh. Gwnaeth Baugh ei hunan fap o Sir Amwythig, 1809, a dyfarnwyd iddo fathodyn arian a 15 gini gan y Royal Society of Arts, Llundain, o'i
  • BAXTER, GEORGE ROBERT WYTHEN (1815 - 1854), awdur O'r Bryn Uchaf, Llanllwchhaiarn, Sir Drefaldwyn. Ganwyd yn Nhrefynwy, a'i fedyddio ar 14 Mehefin 1814, yn unig fab George Trotham Baxter (1762 - 1841) o Henffordd, ac yn aelod o hen deulu a fu ers amser yn ardal y Drenewydd. Un o'i gyndeidiau oedd Richard Baxter, y diwinydd enwog. Ymaelododd mewn coleg yn Rhydychen ond ni raddiodd yno. Rhestrir pedwar o'i weithiau yng nghatalog llyfrau printiedig
  • BAXTER, WILLIAM (1650 - 1723), hynafiaethydd Ganed yn Llanllugan, Sir Drefaldwyn, mab i frawd Richard Baxter y diwinydd. Addysgwyd ef yn Harrow. Dywed ei fod yn Gymro uniaith pan aeth i'r ysgol, ond daeth yn hyddysg mewn ieithoedd eraill - Gwyddeleg, Groeg, a Lladin, yr ieithoedd Almaenaidd, a rhai o'r ieithoedd dwyreiniol. Bu'n cadw ysgol yn Tottenham High Cross, Middlesex, ac wedyn yn bennaeth Ysgol y Sidanwyr (Mercers' School). Yn 1679
  • BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur codi gwg John Williams, un o brif wyr y llys ar ei ffordd i fod yn Arglwydd Ganghellor, ac yn achos i Dr. Griffith Williams, person Llanllechid, i ysgrifennu adroddiadau cyfrinachol am ffaeleddau Bangor i'r awdurdodau goruchel. Trodd yr esgob yn y tresi drwy ddod yn un o brif gyfeillion Syr John, a brwd gefnogi ymgais ei fab i ddod yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn erbyn bwriad plaid John
  • BEADLES, ELISHA (1670 - 1734), Crynwr ac awdur Mab John Beadles, Kempston, swydd Bedford, ac Elizabeth, aeres Walter Jenkins, Pant, Crynwr. Priododd Anne Handley yn 1699. Cyfieithodd yn Gymraeg draethawd a ysgrifenasid gan ei daid, Walter Jenkins, yng ngharchar Trefynwy, ac a enwid 'The law given forth out of Zion …', a chyhoeddwyd y cyfieithiad yn Amwythig, c. 1715, o dan y teitl Y gyfraith a roddwyd allan o Sion. Ysgrifennodd hefyd ragair i
  • BEALE, ANNE (1816 - 1900), awdures Bu Anne Beale yn byw am flynyddoedd yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Ysgrifennodd nifer o nofelau ac ystorïau i ferched, ac yn 1842 cyhoeddodd gyfrol o'i barddoniaeth a'r rhagair wedi'i arwyddo 'Llwynhelig, Llandilo.' Y mae amryw o'r nofelau yn ymwneud â bywyd ac arferion y Cymry ac ychydig o'r awduron Seisnig sydd wedi dangos mwy o gydymdeimlad â Chymru. Hi yw awdur The Vale of the Towey, or