Canlyniadau chwilio

829 - 840 of 960 for "Ebrill"

829 - 840 of 960 for "Ebrill"

  • THOMAS, JEFFREY (1933 - 1989), bargyfreithiwr a gwleidydd Llafur\/y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol wraig. Ei gartref oedd 60 Lamont Road, Llundain, ac roedd yn cynnal ei fusnes cyfreithiol o 3 Temple Gardens, Temple, Llundain. Priododd (1) yn Ebrill 1960 Margaret Jenkins B.Sc., a diddymwyd y briodas ym 1982, a (2) Valerie Ellerington ym 1987. Ni fu plant o'r naill briodas na'r llall. Roedd Thomas yn byw gyda'i ail wraig yn Whitebrook, ger Mynwy yng nghwm hyfryd Gwy. Bu farw o gancr ar 17 Mai 1989.
  • THOMAS, JOHN (1730 - 1804?), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac emynydd; Ganwyd yn 1730 (bedyddiwyd 25 Ebrill) yn y Col ym mhlwyf Myddfai (Caerfyrddin). Hanoedd o deulu didoriad, a thaflwyd ef ar drugaredd ei geraint yn blentyn. Cafodd ysbeidiau byr o ysgol a darllenai Gymraeg a Saesneg. Bu'n was bach mewn ffermydd yn yr ardal, a bwriai ei oriau hamdden yn darllen y Beibl, Cannwyll y Cymry, a Taith y Pererin. Yr oedd o dymheredd grefyddol er yn ifanc, a phan glywodd
  • THOMAS, JOHN (1763 - 1834), emynydd Trigai yng Nghwmsidan Fawr, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin. Ymunodd â'r Methodistiaid yn Esgair-nant, Talyllychau, yn 1785, a bu'n flaenor yno ac yn ysgrifennydd yr eglwys. Yr oedd ef a'i gyfaill Thomas Lewis o Dalyllychau yn flaenllaw gyda mudiad yr ysgol Sul yn y gymdogaeth. Bu farw 30 Ebrill 1834, a chladdwyd ef gyda Catherine, ei briod, ym mynwent Talyllychau. Cyfansoddodd amryw o emynau, ond yr
  • THOMAS, JOHN (1886 - 1933), cemegwr Ganwyd 2 Ebrill 1886 yn Whitford, Sir y Fflint, mab Richard Thomas, gof, ac Elizabeth (Morris) ei wraig. Symudodd y teulu i Harlech a bu'r mab yn Ysgol y Bwrdd, Harlech, ac yn ysgol ganolraddol Abermaw cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1904, gydag ysgoloriaeth Syr Alfred Jones. Graddiodd yn 1907 gydag anrhydedd (y dosbarth cyntaf) mewn cemeg. Gwnaeth waith ymchwil o dan yr athro J. J
  • THOMAS, JOHN (1838 - 1905), ffotograffydd Ganwyd yng Nglan rhyd, Cellan, Sir Aberteifi, 14 Ebrill 1838, yn fab i David a Jane Thomas. Bu'n ddisgybl ac yn ddiweddarach yn ddisgybl-athro yn ysgol Cellan, ac yna yn brentis i ddilledydd yn Llanbedr Pont Steffan. O 1853 i 1863 bu'n gweithio mewn siop ddillad yn Lerpwl, ond gorfodwyd ef gan afiechyd i geisio gwaith yn yr awyr agored fel cynrychiolydd cwmni a werthai bapur ysgrifennu a
  • THOMAS, JOHN LUTHER (1881 - 1970), gweinidog (A) Ganwyd 23 Ebrill 1881 yn Bigyn Road, Llanelli, Caerfyrddin, yn fab i Thomas ac Ann Thomas. Symudodd y teulu i Bontarddulais lle y mynychodd yr ysgol leol cyn dechrau gweithio yn y gwaith alcam. Yn 1894 derbyniwyd ef yn aelod o Eglwys Hope, a chymhellwyd ef gan yr eglwys i fynd i'r weinidogaeth. Mynychodd ysgol Watcyn Wyn, Rhydaman (WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH) a Choleg Bala-Bangor (1900-1903) cyn
  • THOMAS, JOHN ROWLAND (1881 - 1965), arweinydd crefyddol a masnachwr amlwg ' yn Dollis Hill, i lu o Gymry ac yn arbennig i weinidogion yr efengyl. Bu iddynt dair merch; Morfudd, a briododd J. Idris Jenkins, gweinidog cyntaf yr eglwys Annibynnol Gymraeg yn Harrow; Gwyneth; ac Eluned Marian a ymfudodd i Toronto, Canada, ac a fu'n llywydd Cymdeithas Cymanfa Ganu Genedlaethol Cymry Gogledd yr Amerig o 1976 hyd 1978. Bu ef farw 16 Ebrill 1965.
  • THOMAS, LEWIS JOHN (1883 - 1970), cenhadwr yn yr India dan Gymdeithas Genhadol Llundain Mai 1964 a bu yntau farw 17 Ebrill 1970 yn Bangalore lle claddwyd hwynt.
  • THOMAS, LOUIE MYFANWY (Jane Ann Jones; 1908 - 1968), nofelydd Y Bryniau Pell sy'n hunangofiannol a cheir ganddi sawl cyfeiriad dilornus at bregethu a'r weinidogaeth ac at ei sefyllfa hi ei hun pan oedd yn blentyn amddifad a phobl yn siarad amdani. Priododd â Richard Thomas, Prif Glerc Adran Addysg Cyngor Sir Dinbych, mewn swyddfa gofrestru yn Bolton ar 5 Ebrill 1952, pan oedd yn 44 oed. (Trigai chwaer Richard Thomas a'i gŵr yno). Ail wraig ydoedd i Richard
  • THOMAS, NATHANIEL (1818 - 1888), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 13 Ebrill 1818 yn Clydach gerllaw Abertawe. Mynychai'r ysgol ddydd a chyrddau'r Sul yn Salem, Llangyfelach. Yn 7 oed aeth i weithio, am ychydig o amser mewn glofa, ac wedi hynny gyda badwyr ar gamlas. Symudodd gyda'r teulu i Nantyglo yn 1830, bedyddiwyd ef yn Hermon, a dechreuodd bregethu yn 1837. Aeth i athrofa Pontypŵl yn Ionawr 1842. Bu'n bugeilio Cilfowyr (1846-50), a Penuel
  • THOMAS, NATHANIEL (1730), golygydd mab John Thomas, o Sir Forgannwg. Ymgorfforodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 11 Ebrill 1747, yn 16 mlwydd oed, o dan yr enw Nathan Thomas. Ni ddywed Foster (Alumni Oxonienses), iddo gymryd unrhyw radd ond geilw bywgraffwyr Cymraeg ef yn B.A. Daeth yn olygydd a pherchen y St. James's Chronicle, Llundain. Golygodd dalfyriad o eiriadur Lladin Ainsworth, 1758, a chywiro argraffiad arall o'r un gwaith
  • THOMAS, OLIVER (1598 - 1653?), clerigwr Piwritanaidd ac awdur o'r cymeradwywyr tan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, Chwefror 1649/50, a rhywbryd cyn 14 Mai 1650 cafodd fywoliaeth Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Bu yno hyd 1653. Dywed Dr. Richards iddo farw, yn ôl pob tebyg, yn y flwyddyn honno, ond yn bendant rywbryd cyn Ebrill 1657. Dywed Anthony Wood mai yn Felton, swydd Salop, y bu farw Ef oedd awdur Catechism (gydag Evan Roberts, 1640, a Drych i dri math o