Canlyniadau chwilio

829 - 840 of 1867 for "Mai"

829 - 840 of 1867 for "Mai"

  • JONES, JOHN (Shoni Sguborfawr; c.1810 - 1867), un o derfysgwyr 'Beca' daldra cymedrol, a chanddo farf; gallai ddarllen a sgrifennu rhyw gymaint; ac yr oedd yn Fedyddiwr. Ni wyddys fawr am ei ddyddiau bore. Dywed yr heddlu mai 'sinciwr' pyllau glo ydoedd, ond tystia sgrifennwr pur ddibynnol mai 'brass-fitter.' Ymddengys iddo symud o Ferthyr i Aberhonddu oblegid cawn i'r cyrnol Thomas Wood (gweler dan 'Williams, Gwernyfed'), yr aelod seneddol dros Frycheiniog, ei restru'n
  • JONES, JOHN (Mathetes; 1821 - 1878), gweinidog Bedyddwyr a llenor Ganwyd ym Mancyfelin, Cilrhedyn, 16 Gorffennaf 1821, plentyn hynaf Roger a Mary Jones, a'i fagu yn Nhanyrhelyg, Cenarth. Aeth i'r gwaith glo yn Nowlais yn 1837 ac ymaelodi yno yn eglwys y Bedyddwyr yng Nghaersalem yn 1839. Traddododd ei bregeth gyntaf yn Hirwaun yn 1841, ac aeth i Goleg Hwlffordd yn Awst 1843, wedi cwrs byr o addysg yn ysgol ramadeg Aberteifi. Ordeiniwyd ef ym Mhorthyrhyd 27 Mai
  • JONES, JOHN (Eos Bradwen; 1831 - 1899) o Lanelwy, ac yn ddiweddarach i Gaernarfon. Bu farw 29 Mai 1899 a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig.
  • JONES, JOHN (1777 - 1842) Ystrad, gwleidydd Halen ' oherwydd ei ymdrechion i ddileu'r dreth ar halen. Disgrifiwyd ef fel ' Tori mewn gwleidyddiaeth, ond Rhyddfrydwr yn ei fywyd personol'. Ceir cofeb iddo yn eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Nid oes sail i'r gred mai ar ei ôl ef yr enwyd Johnstown, maestref Caerfyrddin.
  • JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr Bedyddiwyd 7 Mai 1786, yn fab i Ismael Davies a'i wraig Jane (yr oedd Ismael yn fab i Dafydd Jones, Trefriw (1708? - 1785). Wedi marwolaeth Dafydd Jones yn 1785, parhaodd Ismael Davies gyda gwaith argraffu ei dad ym Mryn Pyll, Trefriw. Yn ôl traddodiad y teulu, prentisiwyd John Jones yn of, ond dysgodd grefft argraffydd hefyd, ac o 1810 ymlaen y mae gwelliant amlwg yn safon cynnyrch gwasg Trefriw
  • JONES, JOHN (1820 - 1907), gweinidog (B) a hanesydd Ganwyd yn ffermdy Lower Trelowgoed, Cefn-llys, Maesyfed, 10 Mai 1820, yn fab hynaf o ail briodas James Jones, gweinidog (1829-1860) capel y Rock ger Crossgates a deiliad y fferm. Digon prin, mewn ysgol leol, fu addysg ffurfiol John a bu'n ffermio gyda'i dad, ac, wedi derbyn bedydd argyhoeddiad yn 1840, yn ei gynorthwyo gyda'i waith eglwysig a phregethu. Ymhen pedair blynedd, ar gymeradwyaeth
  • JONES, JOHN CHARLES (1904 - 1956), Esgob Bangor Ganwyd 3 Mai 1904, yn nawfed plentyn i Benjamin a Rachel Jones, Llan-saint, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac wedi graddio gyda dosbarth cyntaf mewn Hebraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, 1926, aeth ymlaen i Rydychen gydag ysgoloriaeth Hody i Goleg Wadham, lle'r enillodd y Junior LXX Prize ac ysgoloriaeth Pusey ac Ellerton 1927. Graddiodd yn B.A. 1928 gyda
  • JONES, JOHN DANIEL (1865 - 1942), gweinidog gyda'r Annibynwyr Lloegr yn ei ddydd a meddai ddawn hudolus a dynnai dyrfaoedd i'w wrando. Cyfrifid ei eglwys yn Richmond Hill gyda'r enwocaf o'r cynulleidfaoedd ymneilltuol yn yr holl wlad. Dichon er hynny, mai fel arweinydd â chyfluniwr enwadol y gwnaeth ei waith mwyaf a dwg Annibyniaeth Lloegr ei ddelw am yn hir. Ef yn anad neb a wnaeth fwyaf ynglŷn a chynhaliaeth y weinidogaeth serch i'w gynlluniau'n aml, yn nhŷb
  • JONES, JOHN DAVID RHEINALLT (1884 - 1953), dyngarwr, sefydlydd a chyfarwyddwr South African Institute of Race Relations . Williams, Bangor (20 Mai 1905) o gyfansoddiad cryf ac yn llawn egni. Ymdaflodd i waith dyngarol a bu'n flaenllaw yn yr ymdrech i sefydlu y South African Institute of Race Relations. Ef oedd y cyfarwyddwr o 1930 hyd 1947. Y flwyddyn honno penodwyd ef yn gynghorwr ar faterion brodorol yr Anglo-American Corporation. Eithr cyn hynny buasai'n olygydd (1915) The South African Quarterly gan barhau yn y swydd
  • JONES, JOHN EDWARD (Iorwerth Twrog; 1886 - 1934), ysgolfeistr, bardd, a datgeiniad gyda'r tannau Ganwyd yn hen Dŷ'r Ysgol, Maentwrog, Sir Feirionnydd, 12 Mai 1886. Mab i John Ellis a Kate Jones. Yr oedd ei dad yn gerddor da, ac am hanner canrif yn organydd Eglwys Maentwrog. Cafodd ' J.E. ' fel yr adwaenid ef trwy Gymru, ei addysg yn ysgol Maentwrog, a bu yn ddisgybl-athro yno. Yn 1905 symudodd i Gorris, ac oddi yno i Aber-carn, Sir Fynwy. Aeth am gwrs o addysg i goleg hyfforddi athrawon ym
  • JONES, JOHN EDWARD (1905 - 1970), ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru ysgrifenyddiaeth y Blaid, gan gymryd swydd ysgafnach fel cynghorwr iddi, ac ar ei ffordd adref o'r swyddfa, yn ystod yr etholiad cyffredinol, yr oedd pan fu farw yn sydyn, 30 Mai 1970. Claddwyd ef ym mynwent Melin-y-Wig. Meddylir amdano bob amser fel prif bensaer Plaid Cymru.
  • JONES, JOHN EIDDON (1841 - 1903), gweinidog Methodistiaid Calfinaidd, eisteddfodwr, a dirwestwr Ganwyd 8 Mai 1841 yn Rhydymain, Sir Feirionnydd. Cafodd addysg ar gyfer' gwaith athro ysgol yng Ngholeg Llangollen, ac ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, a'i gychwyn mewn cerddoriaeth gan 'Owen Aran.' Yr oedd yn aelod o Goleg y Tonic Solffa ac yn arholwr iddo. Ysgrifennodd hanes y tonic solffa yng Nghymru (Traethodydd, xxiv, 51-60). Cyhoeddodd hanes ' Ieuan Gwyllt ' yn llyfr, Ieuan