Canlyniadau chwilio

841 - 852 of 990 for "Mawrth"

841 - 852 of 990 for "Mawrth"

  • THOMAS, EDWARD (Cochfarf; 1853 - 1912) Ganwyd 9 Mawrth 1853 yn ffermdy Nantywith, Betws, gerllaw Maesteg, Sir Forgannwg, mab Llewellyn Thomas a'i wraig (a oedd yn aelod o deulu Bryncethin-fawr). Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Betws. Collodd ei dad pan oedd tua 10 oed, ac aeth gyda'i fam i Felin Ifan Ddu. Yn 1876 symudodd i Hengoed i weithio fel saer coed, a myned oddi yno i Gaerdydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Bu'n gweithio fel
  • THOMAS, EVAN CAMBRIA (1867 - 1930), meddyg ac arloeswr iechyd cyhoeddus Ganwyd Evan Cambria Thomas ar 28 Mawrth 1867 yn Nhŷ Coch, Llanarth, Ceredigion, yr olaf o chwech o blant Capten Evan Thomas (1825-1900), morwr yn y gwasanaeth masnachol, a'i wraig Emma Jones (1824-1871), tafarnwraig y Llew Coch, Llanarth. Mynychodd Ysgol Llanarth o 1872 o dan hyfforddiant John Edward Rees (1854-1912), Athro Ysgol Ardystiedig. Derbyniwyd ef yn 1883 i astudio meddygaeth yn Ysgol
  • THOMAS, EZEKIEL (1818 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur; ), a dilynwyd hwnnw gan Human Harmony (Cwmafan, 1877) - traethawd ar berthynas dyn â Duw, y genedl a'r Eglwys. Cyhoeddodd Sylwadau ar yr Epistol at yr Hebreaid (Hirwaun) yn 1881; Cyfiawnhad trwy Ffydd (Abertawe) yn 1882; ac Adolygiad ar Farn y Tri Doctor (Treforus) yn 1890 - yr olaf yn draethawd dadleuol ynghylch awduraeth yr epistol at yr Hebreaid. Bu farw 12 Mawrth 1893, a'i gladdu ym mynwent capel
  • THOMAS, FRANCIS (Crythwr Dall o Geredigion; 1726 - 1796) chyhoeddwyd dwy o'i gerddi, ' Cynghor i Fab Ieuanc ' a ' Hanes Cyflwr Dyn yn mhob rhan o'i oes,' gan John Howell ('Ioan Howell') yn Blodau Dyfed, 1824. Bu farw 4 Mawrth 1796 yn Llanwennog.
  • THOMAS, FREDERICK HALL (Freddie Welsh; 1886 - 1927), paffiwr Ganwyd 5 Mawrth 1886, ym Mhontypridd, mab i John Thomas o Bontypridd, a Elizabeth Thomas (ganwyd Hall). Cafodd ei addysg yn Long Ashton, Bryste, a dangosai duedd gref anghyffredin at chwaraeon er pan yn ieuanc iawn. Pan yn yr ysgol cipiodd nifer o wobrwyon am baffio, ymaflyd codwm, rhedeg, a neidio. Cafodd ei lwyddiant cyntaf o bwys pan yn 20 oed, pryd y curodd Hock Heyes am gampwriaeth
  • THOMAS, JOHN (1736 - 1769), clerigwr a hynafiaethydd; Ganwyd 22 Hydref 1736 yn Tyddyn Ysguboriau, Ynyscynhaearn, Eifionydd, yn fab i Thomas Rowland; brawd iddo oedd Richard Thomas (1750 - 1780), a nai fab chwaer oedd Ellis Owen o Gefnymeusydd. Addysgwyd ef yn Llanystumdwy, Llanegryn, Botwnnog, a'r Friars ym Mangor. Ymaelododd yn Rhydychen 20 Mawrth 1755 o Goleg Iesu, lle'r oedd John Lloyd 'o Gaerwys' yn gyfaill iddo; urddwyd ef yn Rhydychen yn 1760
  • THOMAS, JOHN (Pencerdd Gwalia; 1826 - 1913) Ganwyd 1 Mawrth 1826 ym Mhenybont-ar-Ogwr, Morgannwg, mab John a Catherine Thomas. Cymerai y tad ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a dysgodd y mab i ganu'r piccolo a'r delyn. Gwnaeth gynnydd cyflym fel telynor. Yn 12 oed enillodd y delyn deir-res yn eisteddfod Abergafenni, 1838. Yn 1840, trwy garedigrwydd yr iarlles Lovelace, unig ferch yr arglwydd Byron, anfonwyd ef am gwrs o addysg i'r Royal
  • THOMAS, JOHN ROWLAND (1881 - 1965), arweinydd crefyddol a masnachwr amlwg Ganwyd 2 Mawrth 1881 ym Mhenrhyndeudraeth, yn fab i Griffith ac Ann Thomas. Yn 1883 symudodd Griffith Thomas a'r teulu yn ôl i Ddwygyfylchi, Penmaen-mawr, i'w hen gynefin. O ysgol Pencae, Penmaen-mawr, enillodd John Rowland ysgoloriaeth i Ysgol Friars, Bangor, ond ar ôl dwy flynedd fe'i trosglwyddodd i ysgol newydd John Bright, Llandudno. O'r ysgol aeth i weithio am gyfnod byr gyda chwmni'r
  • THOMAS, JOHN STRADLING (1925 - 1991), gwleidydd Ceidwadol Trysorlys, Hydref 1973-Mawrth 1974, chwip yr wrthblaid, 1974-79, a Thrysorydd y Frenhines a dirprwy brif chwip y llywodraeth, 1979-83. Dyma'r cyfnod mwyaf dedwydd a'r mwyaf llwyddiannus yn ei yrfa wleidyddol. Roedd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Fasnach a Diwydiant, 1979-83, ac o Bwyllgor Gwasanaethau'r Tŷ Cyffredin, 1979-83. Bu hefyd yn weinidog gwladol dros Gymru, 1983-85, wedi cytuno braidd yn
  • THOMAS, JOHN WILLIAM (Arfonwyson; 1805 - 1840), mathemategwr yng ngafael y dyciau, a bu farw 12 Mawrth 1840; claddwyd yn Greenwich. Anaml y gwelwyd rhagorach enghraifft o oruchafiaeth ar anawsterau dybryd nag a welir yng ngyrfa 'Arfonwyson.'
  • THOMAS, JOSEPH WILLIAM (1846 - 1914), cemegydd Ganwyd 9 Mawrth 1846 yn Llwyn-y-grant (Pen-y-lan), Caerdydd, yn fab i Daniel Thomas, codwr tai. Bu'n astudio cemeg am rai blynyddoedd yn y Royal College of Science, gan arbenigo mewn dadansoddi'r nwyon a gyfyd mewn glofeydd - ei Coal-mine Gases and Ventilation, 1878, fu'r llyfr safonol ar hynny am gryn amser. Dychwelodd i Gymru, a bu'n ddadansoddwr yng ngwasanaeth Sir Forgannwg a threfi Caerdydd
  • THOMAS, LEWIS (bu farw Mawrth 1704), un o brif arweinwyr y Bedyddwyr Neilltuol