Canlyniadau chwilio

889 - 900 of 1816 for "david lloyd george"

889 - 900 of 1816 for "david lloyd george"

  • JONES, WILLIAM (bu farw 1679), gweinidog Piwritanaidd ), lle y bu farw yn Chwefror 1679. ' A conforming minister of Abergeley ' a bregethodd yn ei angladd, a hwnnw hefyd oedd awdur yr ysgrif Ladin a gerfiwyd ar ei garreg fedd (enw'r offeiriad oedd Dr. David Maurice, gŵr genedigol o Abergele, ond a weithredai fel ficer Llanasa ym mlynyddoedd olaf William Jones). Yr oedd y 'conforming minister' a William Jones wedi priodi dwy chwaer.
  • JONES, WILLIAM (1675? - 1749), mathemategwr Ganwyd yn 1674 neu 1675 yn y Merddyn, Llanfihangel Tre'r Beirdd (y tyddyn nesaf at y Fferem, lle y ganwyd y Morysiaid, yr un flwyddyn â Morris ap Rhisiart Morris. Symudodd ei rieni i'r Tyddyn Bach, Llanbabo, a phan fu farw ei dad aeth ei fam i fyw i'r Clymwr yn yr un plwyf - am hynny y cyfeiria'r Morysiaid ato fel ' Pabo.' Enw ei dad oedd John George; ei fam oedd Elizabeth Rowland o deulu
  • JONES, WILLIAM (1726 - 1795), hynafiaethydd a bardd Mab William John David a Catherine ei wraig. Swyddog ar y goits fawr o Amwythig i Fachynlleth oedd ei dad, ond amaethai hefyd Ddôl Hywel, Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu William Jones fyw ar hyd ei oes. Bedyddiwyd ef yn eglwys blwyf Llangadfan, 18 Mehefin 1726. Yr unig addysg a gafodd oedd ychydig amser yn un o ysgolion Griffith Jones yn yr ardal, eithr ymrodd ati i'w ddiwyllio ei hun
  • JONES, WILLIAM (1814? - 1895), gweinidog gyda'r mudiadau 'diwygiadol' ymhlith y Wesleaid, ac wedyn gyda'r Annibynwyr i'r ' Wesle Bach,' ni chafodd ei thraed dani yng Ngogledd Cymru (priodolir hyn i ddylanwad mawr Thomas Aubrey), ond llwyddodd i raddau yn y Deheudir, a chafodd gefnogaeth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, ond nid y Methodistiaid Calfinaidd, ar wahân i unigolion fel David Charles III. Gofalai William Jones am bedair o'u heglwysi: Elim (Tredegar), Merthyr Tydfil, a dwy yn Aberdâr - bu un o'r ddwy wedyn dan
  • JONES, WILLIAM GARMON (1884 - 1937), athro hanes, a llyfrgellydd Prifysgol Lerpwl ); ' Bosworth Field, an episode of Welsh history ' (Trans. Liverpool Welsh National Society), 1912; ' York and Lancaster ' (Bell's Source Books of English History); ' Welsh Nationalism and Henry Tudor ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1917-8). Yn 1923 priododd Eluned, unig ferch Syr John Edward Lloyd, Bangor. Bu farw 28 Mai 1937, a chladdwyd ef ym meddrod ei deulu ym mynwent Flaybrick
  • JONES, Syr WILLIAM (1566 - 1640), barnwr Humphrey Humphreys yn argraffiad Bliss o Athenae Oxonienses), fod William Jones wedi derbyn ei addysg yn ysgol ramadeg Biwmares yn amlwg yn anghywir, oherwydd bu'n cynorthwyo a chynghori David Hughes (bu farw 1609), ynglŷn â sefydlu'r ysgol honno pan oedd yn fargyfreithiwr addawol, a bu'n ymddiriedolwr i'r ysgol a'r elusendai. Ymaelododd yn S. Edmund Hall, Rhydychen (1580?), ac aeth oddi yno heb radd i
  • JONES-DAVIES, THOMAS ELLIS (1906 - 1960), meddyg a chwaraewr rygbi rhyng-genedlaethol Ganwyd 4 Mawrth 1906, mab hynaf Henry a Winifred Anna Jones-Davies, Glyneiddan, Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ysgol St. George, Harpenden, coleg Gonville a Caius, Caergrawnt, ac ysbyty St. George, Llundain. Graddiodd yn M.A. a M.D. (Cantab), F.R.C.P. (Llundain) a D.P.H. (Llundain). Bu'n swyddog meddygol cynorthwyol i gyngor sir Llundain am rai
  • JOSHUA, SETH (1858 - 1925), gweinidog (MC) Ganwyd 10 Ebrill 1858 yn Nhy Capel (B Cymraeg), Trosnant Uchaf, Pont-y-pwl, Mynwy, yn fab i George Joshua a Mary (ganwyd Walden) ei wraig. Priododd â Mary Rees, Llantrisant yng Nghastell-nedd, Morgannwg, 23 Medi 1883, a bu iddynt wyth o blant (bu un mab, Peter, yn weinidog ac efengylydd poblogaidd yn yr Amerig a mab arall, Lyn, yn gyfrifol gyda Mai Jones am y gân ' We'll keep a welcome
  • KELSALL, JOHN (fl. 1683-1743), Crynwr a dyddiadurwr Ganwyd yn Llundain yn 1683. Daeth i Gymru yn 1702, a chadwai ysgol (yr oedd wedi cael addysg dda) yn Nolobran, Maldwyn, gan weithredu hefyd fel clerc yn y gwaith haearn yno dan y Lloydiaid - gweler yr ysgrif ar deulu Lloyd, Dolobran. Bu yng ngwasanaeth y teulu hyd tua 1743, ac anfonid ef hwnt ac yma ynglŷn â'u busnes haearn, e.e. bu'n arolygu eu gwaith yng nghyffiniau Dolgellau yn 1714-20, a
  • KELSEY, ALFRED JOHN (1929 - 1992), chwaraewr pêl droed lyfrau Arsenal yn y cyfnod cyn y rhyfel. Trefnodd Morris i Kelsey dderbyn treialon gyda'i gyn glwb, a oedd yn ddigon edmygus o'i berfformiad i gynnig cytundeb iddo ar unwaith, ac arwyddodd i gewri Highbury ym 1949. Ar y cychwyn bu'n ddirprwy i'r gôl-geidwad dibynadwy George Swindin (1914-2005), ond ymhen amser y Cymro oedd dewis cyntaf y clwb. Ymddangosodd i'r tîm cyntaf yn ystod tymor 1950-51, ond
  • teulu KEMEYS Cefn Mabli, Dywedir bod cangen Cefn Mabli o deulu Kemeys yn ddisgynyddion Stephen de Kemeys, perchen tir yn sir Fynwy c. 1234. Cysylltir hwy gyntaf â Chefn Mabli pan briododd DAVID KEMEYS, mab Ievan Kemeys o Began, â Cecil, merch Llewelyn ap Evan ap Llewelyn ap Cynfrig o Gefn Mabli, c. 1450. Dilynwyd hwy gan eu mab LEWIS. Yr etifeddion nesaf oedd JOHN KEMEYS a'i fab DAVID (bu farw 1564?). Bu mab hynaf David
  • teulu KENRICK Wynn Hall, Bron Clydwr, Gapel yn Llanuwchllyn hefyd. Bu William yn gyd-ddiffynnydd yn y cyngaws yn y sesiwn fawr yn Wrecsam (18 Mawrth 1788) pan oedd y 'New Meeting' yn dadlau ei hawl (yn erbyn yr 'Old Meeting') i ddefnyddio'r gladdfa a adawyd yn ei ewyllys gan Daniel Lloyd (bu farw 1655) i gynulleidfa Morgan Llwyd. Brawd arall oedd SAMUEL KENRICK, Undodwr, ieithydd da, gŵr a drafaeliodd lawer fel athro mewn teulu ac a