Canlyniadau chwilio

901 - 912 of 1037 for "Ellis Owen"

901 - 912 of 1037 for "Ellis Owen"

  • THOMAS, JOHN (1821 - 1892), gweinidog gyda'r Annibynwyr, gwleidyddwr, a hanesydd Ganwyd 3 Chwefror 1821 yng Nghaergybi, brawd hyn iddo oedd y Dr. Owen Thomas. Hanoedd ei dad o Landdeiniolen, Arfon, a'i fam o Fôn. Oherwydd prinder gwaith i'w dad fel lliniwr symudodd y teulu i Fangor yn 1827. Ar ôl ysbeidiau dan addysg gwahanol bersonau aeth i ysgol un Hugh Williams. Yn 1831 collodd ei dad a gorfu iddo fyned i weithio, ac aeth i siop groser. Wedi naw mis yno aeth yn brentis o
  • THOMAS, JOHN (1646? - 1695), clerigwr mab i Thomas Thomas, person Pennant-Melangell. Aeth i Neuadd S. Alban yn Rhydychen yn 1668, 'yn 22 oed,' a graddiodd yn 1672; bu'n ficer Llanbrynmair (1681-9) ac yn rheithor Penegoes (1689-1695); o 1691 hyd 1695 daliai hefyd brebend yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Sgrifennodd atebiad i ymresymiadau James Owen ym mhlaid urddau Presbyteraidd - wedi ei farw y cyhoeddwyd hwn, 1711, gan yr esgob George
  • THOMAS, JOHN (1736 - 1769), clerigwr a hynafiaethydd; Ganwyd 22 Hydref 1736 yn Tyddyn Ysguboriau, Ynyscynhaearn, Eifionydd, yn fab i Thomas Rowland; brawd iddo oedd Richard Thomas (1750 - 1780), a nai fab chwaer oedd Ellis Owen o Gefnymeusydd. Addysgwyd ef yn Llanystumdwy, Llanegryn, Botwnnog, a'r Friars ym Mangor. Ymaelododd yn Rhydychen 20 Mawrth 1755 o Goleg Iesu, lle'r oedd John Lloyd 'o Gaerwys' yn gyfaill iddo; urddwyd ef yn Rhydychen yn 1760
  • THOMAS, JOSEPH (1814 - 1889), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Goleg y Bala ac i ddechrau pregethu - aeth yntau i'r coleg yn 1841. O Hydref 1843 hyd ddiwedd 1846 bu'n cynorthwyo Edward Price yn Birmingham a Bilston; bwriodd 1847 yn arolygu achosion y Methodistiaid Calfinaidd yng nghylch Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Fis Chwefror 1848, priododd â Margaret Owen (bu hi farw 1852) o Garno, ac yno y bu weddill ei oes; ordeiniwyd ef yn 1848. Araf, ar waethaf ei boblogrwydd
  • THOMAS, LOUIE MYFANWY (Jane Ann Jones; 1908 - 1968), nofelydd Ganwyd 29 Chwefror 1908 yn Primrose Cottage, Holway, Treffynnon, Fflint, yn unig blentyn Walter Owen Davies, ' master saddler ' a'i wraig Elizabeth Jane (ganwyd Jones). Bu farw y fam 3 Chwefror 1909 yn 26 mlynedd a daeth ei nain atynt am gyfnod i'w magu. Symudodd y teulu i Yscawen, Rhuddlan (lle y cymerodd y tad waith fel groser) ac addysgwyd Louie Myfanwy yn ysgol elfennol yr Eglwys ac yn Ysgol
  • THOMAS, MARGARET (1779), emynyddes; hemynau gan T. Levi yn Y Traethodydd, 1904, a cheir y pennill ' Dyma Feibl annwyl Iesu,' etc., yn eu plith. Tybir mai hi biau'r hen bennill, ac nis priodolir i neb arall. Cyhoeddwyd ef gyntaf, hyd y gwyddys, yn ail argraffiad casgliad T. Owen o emynau (Llanfyllin, 1820).
  • THOMAS, Syr OWEN (1858 - 1923), awdurdod ar ffermio, brigadydd, aelod seneddol papurau newyddion. Urddwyd ef yn farchog yn 1917. Bu iddo bob amser ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth - awgrymwyd ei enw yn 1894 fel ymgeisydd dros Fôn ar ran y Rhyddfrydwyr - ac yn Rhagfyr 1918, wele ef yn ymgeisydd Llafur, ac er syndod i'r Rhyddfrydwyr uniongred, enillodd y sedd oddiar yr hen aelod a fu'n cynrychioli'r sir er 1895 (E. J. Ellis-Griffith). Yn 1919-1920 yr oedd yn aelod o'r Comisiwn
  • THOMAS, OWEN (1812 - 1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd yng Nghaergybi, 16 Rhagfyr 1812, mab Owen a Mary Thomas, a brawd John Thomas (1821 - 1892) a Josiah Thomas. Saer maen oedd y tad, ac ar ôl symud y teulu i fyw i Fangor 1827, dilynodd yntau yr un alwedigaeth. Dechreuodd bregethu yn 1834, a daeth ar unwaith yn amlwg fel pregethwr. Aeth i Goleg y Bala, 1838, ac oddi yno i Brifysgol Edinburgh. Yn 1844 derbyniodd alwad yn weinidog eglwys
  • THOMAS, RACHEL (1905 - 1995), actores Funeral (awdur Alun Owen, cyf. Ted Kotcheff, ITV, 1960) ac Y Darn Arian (trosiad John Eilian o waith Arthur O. Roberts, 1961). Cawsai ei chyfle cyntaf i berfformio mewn drama deledu pan ymddangosodd ochr yn ochr â Stanley Baker a Donald Houston yn y fersiwn teledu byw o Choir Practice (awdur Cliff Gordon, cynh. Michael Mills) a ddarlledwyd o Alexandra Palace, Llundain, ym 1949. Ond ni recordiwyd y
  • THOMAS, RHYS (1720? - 1790), argraffydd yn rhannau; daeth y rhan gyntaf allan yn 1770 a'r bedwaredd rhan ar ddeg yn 1783 - a'r geiriadurwr, druan, yn gorfod bod yn amyneddgar. Fel y gwelir yn llyfr Ifano Jones (Hist. of Printing and Printers in Wales) bu raid i Owen Jones ('Owain Myfyr') drefnu i gael gorffen yr argraffu - yn Llundain, yn 1794. Bu Rhys Thomas farw yn 1790, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llandochau ar 11 Gorffennaf
  • THOMAS, RICHARD (1753 - 1780), clerigwr a chynullydd llawysgrifau ac achau ei lawysgrifau, meddir, i'w frawd iau. Nid rhyfedd, felly, cael Richard Thomas yn dangos yn ei lythyrau o Goleg Iesu fod iddo ddiddordeb mewn casglu a chopïo llawysgrifau. Cyfarfu Richard Thomas ag Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') ym Mheniarth ym mis Ebrill 1775 ar adeg, y mae'n werth sylwi, pan oedd Cymdeithas y Cymmrodorion, ag Owen Jones ('Owain Myvyr') yn ysgrifennydd iddi, yn ceisio trefnu i
  • THOMAS, ROBERT (Ap Vychan; 1809 - 1880), gweinidog ac athro diwinyddiaeth gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor gyngor ar bob llaw. Ef, ond odid, yn unig a gadwodd ei enw da yn ddilychwin drwy holl 'helynt y cyfansoddiadau' ynglŷn â Choleg y Bala; a safodd wrth ochr ei gyfaill M. D. Jones i'r diwedd. ELLIS THOMAS (1823 - 1878), bardd Barddoniaeth Brawd i 'Ap Vychan'. Pan symudodd ei deulu i Feifod, Sir Drefaldwyn, bu'n gweithio ar ffermydd yn y sir honno, ac wedyn, fel gof, yn Rhuddlan a Kinsford (Sir y Fflint