Canlyniadau chwilio

937 - 948 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

937 - 948 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, WILLIAM (1838 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd yn Betw, ger Tonyrefail, Sir Forgannwg, 1 Awst 1838, mab David Evans, Caerdydd, ac ŵyr i'r Parch. William Evans, Tonyrefail. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Normal Abertawe a Phrifysgol Glasgow (M.A.), a bu wedi hynny yng Ngholeg Cheshunt am gwrs mewn diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1863 ac ymgymerodd â gofal eglwys Methodistiaid Calfinaidd Saesneg Runcorn. Ymhen dwy flynedd symudodd i S
  • EVANS, WILLIAM (1795 - 1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd 1818, ac ordeiniwyd ef yn sasiwn Aberteifi, 1825. Teithiodd a phregethodd dros Gymru oll ar hyd ei oes faith, a hoffid ef yn fawr ar gyfrif pertrwydd ei sylwadau a gloywder ei ddoniau. ' Cloch arian Tonyrefail ' y gelwid ef gan ei gyfoeswyr. Ef ac Edward Matthews, Ewenni a ledaenodd Fethodistiaeth ym Morgannwg yn nyddiau'r cynnydd mawr ym mhoblogaeth y sir. Pregethodd yn agoriad y rhan fwyaf o'r
  • EVANS, WILLIAM CARADAWC (1848 - 1878) - gweler EVANS, DAVID
  • EVANS, WILLIAM CHARLES (1911 - 1988), cemegydd a bywydegydd
  • EVANS, WILLIAM DAVIES (1790 - 1872), dyfeisiwr symudiad agoriadol mewn gwyddbwyll
  • EVANS, WILLIAM EDWARD (1801 - 1869), canon yn Henffordd - gweler EVANS, JOHN
  • EVANS, WILLIAM EILIR (Eilir; 1852 - 1910), clerigwr a bardd Ganwyd 26 Ebrill 1852 yn y Garreg Lwyd, Cenarth, Sir Gaerfyrddin. Annibynnwr ydoedd, ac aeth fel myfyriwr i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Troes at Eglwys Loegr yng Nghymru, a mynd yn 1878 i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Daliodd rai bywiolaethau, ond ni fu ryw lawer o lun arno fel offeiriad. Bu'n gurad yn Llanfaelog (Môn), Devizes, ac Aberdâr. Bu hefyd yn ysgolfeistr, am ychydig yn
  • EVANS, WILLIAM EMRYS (1924 - 2004), banciwr a ffilanthropydd Ganwyd Emrys Evans 4 Ebrill 1924 yn fab i Richard a Mary Elizabeth Evans, Maesglas, Y Foel, sir Drefaldwyn. Gadawodd Ysgol Sir Llanfair Caereinion yn 1941 a mynd i weithio gyda Banc y Midland (yn awr HSBC). Flwyddyn yn ddiweddarach ymunodd â'r Llynges Frenhinol lle y gwasanaethodd yn negesydd radio; yr oedd ymhlith grwp bychan o wyr a laniodd yn Normandi ddiwrnod cyn Diwrnod-D i adrodd ar
  • EVANS, WILLIAM GARETH (1941 - 2000), hanesydd a darlithydd prifysgol mewn Addysg Ganwyd ef yng Nghynwyd, ger Corwen ar 14 Rhagfyr 1941, yn fab i William a Mary Evans. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Cynwyd, ac Ysgol Tŷ Tan Domen (Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y Bala), ysgol nodedig a fu'n feithrinfa i nifer o haneswyr blaenllaw gan gynnwys Yr Athro Syr Rees Davies (1938-2005). Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Hydref 1960 a graddiodd gydag anrhydedd uchel o fewn y
  • EVANS, WILLIAM HUGH (Gwyllt y Mynydd; 1831 - 1909), gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor ddiweddarach bu'n olygydd iddo am 13 mlynedd (yn y Rhyl). Cyfrannodd hefyd i'r Traethodydd, Y Geninen, a'r Athronydd. Cyhoeddodd amryw esboniadau a holwyddoregau, a chasglodd emyniadur i'r ysgolion Sul. Yn 1888 cyhoeddodd gofiant i'w frawd ' Cynfaen.' Bu farw 28 Mehefin 1909. Mab iddo oedd WILLIAM OWEN EVANS (1864 - 1936), yntau'n weinidog a llenor; ganwyd yn Llanfair Caereinion yn 1864; bu mewn ysgol yn
  • EVANS, WILLIAM JOHN (1866 - 1947), cerddor
  • EVANS, WILLIAM MEIRION (1826 - 1883), mwynwr, pregethwr, a golygydd cyfnodolion Ganwyd 12 Awst 1826 yn Isallt Fawr, Llanfihangel y Pennant, Sir Gaernarfon. Symudodd ei rieni, Edmund a Mary Evans, i Gatws y Parc, Llanfrothen, pan oedd y bachgen yn ifanc. Ni chafodd ddim breiniau ysgol, namyn yr hyn a ddysgwyd iddo gan ei dad ac yn yr ysgol Sul. Pan yn 15 oed dechreuodd grefydda o ddifrif. Bu'n chwarelwr yn Ffestiniog, ac yn ystod ei oriau hamdden darllenai ac astudiai yn