Canlyniadau chwilio

85 - 96 of 1816 for "david lloyd george"

85 - 96 of 1816 for "david lloyd george"

  • CECIL-WILLIAMS, Syr JOHN LIAS CECIL (1892 - 1964), cyfreithiwr, ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a phrif hyrwyddwr cyhoeddi'r Bywgraffiadur Cymreig manteisiodd ar bob cyfle i osod sêl a delw aruchel arni. Yng ngeiriau Syr Thomas Parry-Williams, a fu am gyfnod yn llywydd y Gymdeithas, defnyddiodd Cecil-Williams swydd ysgrifennydd 'yn eofn a diflino i hyrwyddo buddiannau a noddi treftadaeth Cymru a'r Gymraeg '. Os i'r Athro R.T. Jenkins, ynghŷd â Syr John Edward Lloyd a Syr William Davies, y mae'r clod yn ddyledus am gynllun a chynnwys Y Bywgraffiadur
  • CHALONER, THOMAS (bu farw 1598), Ulster King of Arms Rhoddir rhai manylion am yr herald amryddawn hwn - yr oedd hefyd yn baentiwr, hynafiaethydd, bardd, ac actor - gan W. J. Hemp mewn erthygl ('Two Welsh Heraldic Pedigrees, with Notes on Thomas Chaloner, Ulster King of Arms') yn Y Cymmrodor, xl. Pedwerydd mab ydoedd i Robert Chaloner, Dinbych, a'i wraig Dowce, ferch Richard Mathew, Lleweni Green, gerllaw Dinbych, a'i wraig Jane, ferch David
  • CHANCE, THOMAS WILLIAMS (1872 - 1954), gweinidog (B) a phrifathro coleg ffwrdd yn ardal Cathedin. Bedyddiwyd ef 17 Ebrill 1887 yn eglwys Heffsiba, Erwyd, ac ar anogaeth ei weinidog John Morgan dechreuodd bregethu, gan ailgychwyn ei addysg, hynny am ddwy fl. mewn ysgol ramadeg a gynhelid gan Daniel Christmas Lloyd, gweinidog (A), yn ei gartref yn Nhy Hampton, Y Clas-ar-Wy, ac wedyn yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle y graddiodd yn B.A. yn 1898 gydag
  • CHARLES, BERTIE GEORGE (1908 - 2000), ysgolhaig ac archifydd Prifysgol Cymru dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol. Cyflwynwyd y cofnodion gwreiddiol ar adnau i'r Llyfrgell ym 1948 a Dr Charles a fu'n gyfrifol am eu rhestru. Chwe blynedd yn ddiweddarach, ym 1973, blwyddyn ei ymddeoliad, ymddangosodd y gyfrol feistrolgar George Owen of Henllys: a Welsh Elizabethan. Treuliodd yr awdur flynyddoedd meithion yn ymchwilio ar ei chyfer, gan ailfeddwl ac yn
  • CHARLES, DAVID (1812 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ef yn Llanidloes. THOMAS CHARLES, F.R.C.S. (1811? - 1873), meddyg Meddygaeth Brawd David Charles. Bedyddiwyd ef ar 10 Ionawr 1811. Bu'n feddyg ym Mhorthaethwy (1841-6), ac wedyn yn Llundain; ymfudodd tua 1855 i Sydney, ond dychwelodd i Gymru tua 1870, i ddilyn ei alwedigaeth ym Mhenfro ac wedyn yn Aberystwyth, lle y bu farw 11 Ebrill 1873. Gellir nodi dwy ffaith amdano. Yn y Carnarvon and Denbigh
  • CHARLES, DAVID (1762 - 1834), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, emynydd
  • CHARLES, DAVID (1803 - 1880), gweinidog ac emynydd Ganwyd yng Nghaerfyrddin, mab David Charles I. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y dref a'r Coleg Presbyteraidd, ac aeth i weithio at ei dad. Yn ddiweddarach dechreuodd bregethu, fel yntau, yn wr canol oed, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1851. Bu'n flaenllaw yn ei gyfundeb; llanwodd gadair y Gymdeithasfa yn y Deau yn 1853, a bu'n gyd-ysgrifennydd
  • CHARLES, EDWARD ('Siamas Wynedd; 1757 - 1828), llenor Ganwyd yng Nghlocaenog (bedyddiwyd yno 23 Medi 1757), yn fab i Edward (amaethwr) a Margaret Charles. Ni wyddys nemor ddim o'i hanes bore, ond dywedir (Jenkins, Thomas Charles, ii, 390) iddo fod dan addysg David Ellis, curad Derwen, ac wedyn yn brentis yn Rhuthyn. Erbyn 1789, beth bynnag, yr oedd yn gweithio gyda dilledydd yn Llundain. Etholwyd ef (5 Ebrill 1790) yn aelod o Gymdeithas y
  • CHARLES, GEOFFREY (1909 - 2002), ffotograffydd gydweitho â gohebydd ifanc addawol o'r enw John Roberts Williams wrth ddarlunio straeon ar gyfer Y Cymro. Cyflwynwyd y ddau gan gyfaill cyffredin ym maes pêl-droed Pwllheli yn 1938. Ystyriai Geoff mai John Roberts Williams a wnaeth iddo adnabod a gwerthfawrogi ei Gymreictod. John Roberts Williams oedd ei was priodas yn 1939 pan briododd Verlie Blanche George (1907-1981). Cawsant un mab, John, a dwy ferch
  • CHARLES, JOHN ALWYN (1924 - 1977), gweinidog (A.) ac athro coleg Ganwyd Alwyn Charles yn Colombia Row, Llanelli, 18 Rhagfyr 1924, yn fab David John Charles a'i briod. Derbyniodd ei addysg gynnar yn St. Paul a Lakefield, Llanelli, cyn mynd i Goleg Ysgrifenyddol Woodend. Oddi yno, aeth i wasanaethu fel clerc yn swyddfa cyfreithwyr Jennings a Williams. Codwyd ef i bregethu yng Nghapel Als, Llanelli, o dan weinidogaeth y Parchg. D. J. Davies. Wedi dilyn cwrs
  • CHARLES, PHILIP (1721? - 1790), gweinidog Presbyteraidd Ychydig a wyddys amdano; gan ei fod yn nai i Philip David, odid nad dyn o sir Fynwy oedd.Ymddengys yr enw ar restr academi Caerfyrddin yn 1745. Yn 1749, dilynodd Richard Rees yn weinidog cynulleidfa Cefn-coed-cymer, a oedd newydd ei chorffori - cangen o Gwm-y-glo. Armin oedd Philip Charles, a thebyg iddo wedyn ddatblygu'n Ariad. Bu farw 19 Mai 1790. Y mae amryw gyfeiriadau ato yn nyddiaduron ei
  • CHARLES, THOMAS (Charles o'r Bala; 1755 - 1814) Ganwyd 14 Hydref 1755 yn Longmoor (yn ôl pob tebyg), ym mhlwyf Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin, mab Rees Charles, ffermwr, a'i briod Jael. Ar adeg geni Thomas, daliai'r tad fferm fawr Pant Dwfn a'i phlasty bychan, ond nid yw yn debyg ei fod wedi symud yno i fyw. Yr oedd y fam o haen uwch mewn cymdeithas - yr oedd yn ferch i David Bowen, Pibwr Lwyd, siryf Caerfyrddin yn 1763. Anfonwyd ef i