Canlyniadau chwilio

961 - 972 of 1867 for "Mai"

961 - 972 of 1867 for "Mai"

  • LEWIS, HUBERT (1825 - 1884), gŵr o'r gyfraith ail fab Edward Clapham Lewis, Ripon, sir Gaerefrog. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, a daeth yn fargyfreithiwr (Middle Temple) ym mis Mai 1854. Bu'n ŵr prysur yn ei alwedigaeth, yn arbennig fel un yn trefnu trosglwyddiadau ('conveyances'), eithr gwnaeth fwy o enw iddo'i hun fel ysgrifennwr ar rai materion cyfreithiol. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae Principles of Conveyancing, 1863
  • LEWIS, HYWEL DAVID (1910 - 1992), Athro ac athronydd Ganwyd Hywel D. Lewis yn Llandudno ar 21 Mai 1910 ond magwyd ef yn y Waunfawr yn fab i David John Lewis, gweinidog yn yr Eglwys Bresbyteraidd, a'i wraig Rebecca (gynt Davies). Wedi gyrfa, heb ddangos unrhyw ddisgleirdeb arbennig, yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i astudio Athroniaeth gan gael ei gyfareddu'n llwyr gan y pwnc a fu'n ganolbwynt ei fywyd
  • LEWIS, IDRIS (1889 - 1952), cerddor (1931-35) bu'n gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau adnabyddus, yn eu plith Blossom Time, gyda Richard Tauber yn gwasanaethu fel datganwr. Un o'r rhai a swynwyd gan y ffilm hon oedd Sam Jones, a oedd ar y pryd yn gynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda'r B.B.C., ac ar ôl deall mai Cymro oedd Idris Lewis llwyddodd i'w berswadio i ymuno â'r B.B.C. yng Nghaerdydd, lle y bu'n gyfarwyddwr
  • LEWIS, JAMES (1674 - 1747), gweinidog Annibynnol gan nad addefid ei ddaliadau gan ei hen eglwys a'i gweinidog. Gwahoddodd James Lewis y diwygiwr Howel Harris i efengylu yn ei ardal yn 1740. Bu farw 31 Mai 1747, yn 73 oed.
  • LEWIS, JANET ELLEN (1900 - 1979), nofelydd, bardd a newyddiadurwr darlun byw o'r lle a'r cyfnod, ac mae ei naws agosatoch yn deillio o'r ffaith mai Lucy Gwyn, merch wyth oed lawn dychymyg, sydd yn llywio'r naratif. Cyflëir safbwynt y ferch fach yn gywir ac mewn iaith hardd, ac efallai mai hyn sydd yn gyfrifol am apêl eang y nofel, gyda'i naws hiraethus a'i darluniau o brofiadau synhwyrus plentyndod. Llyfr am fyd natur yw hwn hefyd, yn debyg i farddoniaeth Eiluned
  • LEWIS, JOHN (GOMER) (1844 - 1914), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac areithydd 1,100 o aelodau. Ymsefydlodd yn Belle Vue, Abertawe, Mawrth 1878, ac wedi agor Capel Gomer ym Mawrth 1891, ychwanegodd yr enw 'Gomer' at ei enw ei hun. Adnabyddid ef fel y ' Dr. Gomer ' wedi ymweld ohono ag U.D.A. ym Mai 1878. Yr oedd yn enwog fel pregethwr, yn ddyngarwr mawr ymhlith y tlodion, yn ddihafal fel darlithydd - rhoes ei ddarlithiau ar ' Ffair y Byd,' ' Abraham Lincoln,' a ' Gogoniant
  • LEWIS, JOHN (bu farw 1616) Llynwene, Llanfihangel Nant Melan, bargyfreithiwr a hanesydd Ganwyd ym mhlwyf Pencraig (Old Radnor), mab Hugh Lewis a Sibyl, merch Roger ap Watcyn Fychan, Hergest. Y mae W. Rowlands (Llyfryddiaeth, o dan 1729) yn camgymryd wrth ei gysylltu â Maenor Owen a'i alw yn hen-daid i Richard Fenton. Nid yw'n debyg mai ef oedd y John Lewis a dderbyniwyd i Lincoln's Inn, 28 Chwefror 1562-3 (Lincoln's Inn Admissions). Tebycach yw mai ef yw'r gŵr a dderbyniwyd i'r
  • LEWIS, JOHN (fl. 1728-55), argraffydd a chyhoeddwr mwyaf, oddi wrth George Whitefield a'i ohebwyr. Parhaodd y papur am rai blynyddoedd dan y teitlau amrywiol The Weekly History, 1741-2, An Account of the Progress of the Gospel, 1743-4), a The Christian History, 1744-5. Cyhoeddodd lawer o lyfrynnau o waith Methodistiaid y cyfnod. Bu farw 13 Mai 1755, a chladdwyd ef yn Bloomsbury. Yr oedd ei wraig a'i blant yn Forafiaid.
  • LEWIS, JOHN (1792? - 1816), cenhadwr gyda'r Wesleaid mab Jenkin a Mary Lewis, Talsarn, Trefilan, Sir Aberteifi. Ymddengys mai Eglwyswyr oedd ei rieni; bedyddiwyd ef 23 Ionawr 1793. Addysgwyd ef yn yr ardal a than yr enwog David Davis, Castell Hywel. Ymunodd â'r Wesleaid, ac yn 1813 ceir ef yn gwasanaethu yng nghylchdaith Dolgellau. Y flwyddyn wedyn derbyniwyd ef fel cenhadwr cydnabyddedig i'w ddanfon i India'r Gorllewin. Ymsefydlodd i ddechrau ar
  • LEWIS, JOHN DAVID (1859 - 1914), llyfryddwr, hanesydd lleol, a sefydlydd gwasg argraffu Gwasg Gomer yn 1894, a throi'r fusnes yn llwyr yn fusnes llyfrwerthwr ac argraffydd. Credir mai edmygedd J. D. Lewis o Joseph Harris ('Gomer') a barodd iddo alw ei wasg yn Wasg Gomer. Y llyfrau cyntaf a argraffwyd yng Ngwasg Gomer oedd Hanes Plwyf Llandyssul (W. J. Davies 1896), Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (Daniel E. Jones 1899), a Hanes Plwyf Llangunllo (E. Cunllo Davies 1905). Argraffwyd yma
  • LEWIS, JOHN HUW (1931 - 2008), cyhoeddwr ac argraffwr o bwyllgorau cenedlaethol: er enghraifft Cyngor Darlledu Cymru y BBC (1982-87), Llysoedd y Llyfrgell Genedlaethol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn gweithio ar ran Ymddiriedolaeth y Tywysog fel mentor i bobl ifainc oedd yn ceisio sefydlu busnesau eu hunain. Ond diau mai achosion lleol oedd agosaf at ei galon. Bu'n aelod ffyddlon o gapel Penybont, Llandysul ac yn ddiacon er 1972. Yn wir
  • LEWIS, JOHN SAUNDERS (1893 - 1985), gwleidydd, beirniad a dramodydd Nghaerdydd yn 1952, ac er mai prin oedd ei gynnyrch academaidd, parhaodd hyd 1955 i olygu Efrydiau Catholig, cylchgrawn a gychwynnwyd ganddo yn 1946, lle'r ailafaelodd mewn gwaith beirniadol-lenyddol, gyda diddordeb neilltuol yn yr ail ganrif ar bymtheg. Troes yn ôl hefyd at y theatr. Gwelodd 1948 gwblhau Blodeuwedd, wedi bwlch o bron chwarter canrif ers ysgrifennu'r ddwy act gyntaf. I'r cyfnod hwn y