Canlyniadau chwilio

961 - 972 of 990 for "Mawrth"

961 - 972 of 990 for "Mawrth"

  • WILLIAMS, WILLIAM (1788 - 1865), aelod seneddol chadwodd y sedd honno hyd y bu farw yn Regent's Park, Llundain, 28 Ebrill 1865. Ar 10 Mawrth 1846 cynigiodd yn Nhy'r Cyffredin bod ymchwil i'w wneuthur - 'into the state of Education in the Principality of Wales, especially into the means afforded to the labouring classes of acquiring a knowledge of the English tongue.' Dyma'r cynigiad a roes fod i'r comisiwn addysg y galwyd ei adroddiad yn 'Brad y
  • WILLIAMS, WILLIAM (Carw Coch; 1808 - 1872), eisteddfodwr a llenor Ganwyd 6 Mawrth 1808 gerllaw Aberpergwm yn nyffryn Nedd, yn fab i Noah a Joan Williams, aelodau o gynulleidfa Undodaidd Blaen Gwrach. Symudodd yn ifanc i Dredegar, ac oddi yno i Lwydcoed, Aberdâr lle y priododd (1832) â merch o un o hen deuluoedd yr ardal. Yn 1837, cododd y gwesty yn Nhrecynon a elwid 'y Stag' - dyna'r eglurhad ar ei ffugenw - ac yno y bu weddill ei fywyd. Yr oedd yn wleidydd
  • WILLIAMS, WILLIAM (Caledfryn; 1801 - 1869), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a beirniad ; Aldersgate Street, Llundain, 1848-50; Llanrwst, 1850-56; Beulah ger Bangor, 1856-7; a Groeswen, o 1857 hyd ei farw 23 Mawrth 1869. Priododd dair gwaith a ganwyd iddo un mab, William ('ap Caledfryn'), a merch, Margaret Mary. Urddwyd 'Caledfryn' yn fardd yng Nghaernarfon, Medi 1821, ac enillodd y gadair am ei awdl ar 'Drylliad y Rothesay Castle' yn Biwmares 1832. Cyhoeddodd Cyfarwyddiadur i Ddarllen ac
  • WILLIAMS, WILLIAM (Ap Caledfryn; 1837 - 1915), arlunydd Mab William Williams, ('Caledfryn'). Ganwyd yn Nghaernarfon, 24 Mawrth 1837, a treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yng Nghymru. Derbyniodd ei wers gyntaf mewn arlunio pan yn chwe mlwydd oed gan yr arlunydd Cymreig Hugh Hughes. Priododd â Mary Daniel, merch Herbert Daniel, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghefn-y-crib, a bu iddynt fab a merch, a'r ddau, fel eu tad, yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Ymysg ei
  • WILLIAMS, WILLIAM EWART (1894 - 1966), ffisegydd a dyfeisydd Ganwyd 3 Mawrth 1894 ym Modgarad, Rhostryfan, Caernarfon, mab hynaf Ellis William Williams (goruchwyliwr chwarel y Cilgwyn) a'i wraig Jane, Llys Twrog, y Fron. Wedi mynychu ysgolion lleol ymaelododd yng Ngholeg Owens, Prifysgol Manceinion lle y cafodd Rutherford, Bohr a Darwin yn athrawon. Graddiodd gydag anrhydedd mewn ffiseg yn 1915 ac ennill M.Sc. (Manc.) yn 1926. Wedi hyfforddiant gyda Barr
  • WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur Ganwyd 10 Mawrth 1867 yn Brownhill, Llansadwrn, dyffryn Tywi (ar 15 Medi 1938 dadorchuddiwyd cofgolofn iddo o flaen y tŷ), yn ail fab i Morgan Williams a'i wraig Sarah (Davies). Yr oedd ei deulu'n dda eu byd, ac yn Annibynwyr o hil gerdd; ei daid, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac cyn symud o'r Ffrwd-wen (Llandeilo) i Brownhill, a dau o frodyr ei dad yn weinidogion, sef JOHN WILLIAMS
  • WILLIAMS, WILLIAM RETLAW JEFFERSON (?1863 - 1944), cyfreithiwr, achydd a hanesydd Yr oedd yn un o blant nodedig Aberclydach ym mhlwy Llanfeugan, sir Frycheiniog (gweler WILLIAMS, Alice Matilda). Meddyg a chapten yn y First Brecknockshire Rifle Volunteers oedd y tad, John James Williams (bu farw 31 Mawrth 1906). Ei enw ef yng Ngorsedd y Beirdd oedd 'Brychan'. Jane Robertson oedd enw morwynol y fam. Prif orchest y mab hynaf, Howell Price, oedd cyflawni'r daith ar hyd cyfandir
  • WILLIAMS, Syr WILLIAM RICHARD (1879 - 1961), arolygwr trafnidiaeth rheilffyrdd Ganwyd 18 Mawrth 1879 yn fab i Thomas Williams ac Elizabeth Agnes ei wraig, Pontypridd, Morgannwg. Priododd, 8 Ebrill 1902, â Mabel Escott Melluish ond ni fu iddynt blant. Yn un a adweinid mewn cylchoedd yn ymwneud â rheilffyrdd fel ' y dyn a lwyddodd i sylweddoli uchelgais bachgen ysgol i redeg rheilffordd ', addysgwyd ef yng Nghaerdydd a chychwynnodd ar ei yrfa yn glerc bach i Gwmni Rheilffordd
  • WILLIAMS-ELLIS, JOHN CLOUGH (1833 - 1913), ysgolhaig, clerigwr, bardd a'r Cymro cyntaf, ond odid, i esgyn un o fynyddoedd uchaf yr Alpau Ganwyd 11 Mawrth 1833 ym Mangor, Caernarfon, yn ail fab John Williams-Ellis, offeiriad, a'i wraig Harriet Ellen Clough o Ddinbych. Magwyd ef ym Mrondanw, Llanfrothen, ac yna, a'i dad wedi ei ddyrchafu'n rheithor Llanaelhaearn, yn y Glasfryn, Llangybi. Addysgwyd ef yn ysgol Rossall a Choleg Sidney Sussex, Caergrawnt, lle graddiodd yn 3rd Wrangler a'i ethol yn gymrawd o'r coleg yn 1856. Yr oedd yn
  • WILSON, HERBERT REES (1929 - 2008), gwyddonydd Ganwyd Herbert Wilson ar 20 Mawrth 1929 ar fferm ei daid yn Nefyn, Sir Gaernarfon, yn fab i Thomas Wilson, capten llong, a Jennie ei wraig. Addysgwyd Herbert yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, ac aeth ymlaen i astudio ffiseg ym Mhrifysgol Bangor, gan raddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1949. Enillodd ddoethuriaeth wedyn yn 1952 dan gyfarwyddyd yr Athro Edwin Owen. I gychwyn gweithiodd ym maes metelau
  • teulu WOGAN Mawrth 1648 anfonodd Cromwell ef i Gymru i gynorthwyo ailsefydlu'r heddwch yn Sir Benfro a'r siroedd cyfagos. Cafodd ganmoliaeth gan y cyrnol Thomas Horton am ei wasanaeth yn yr ymladd a chyrhaeddodd ei anterth ym mrwydr Sain Ffagan ar 8 Mai 1648. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Aberteifi yn 1646-53 ac yn y cyfnod hwnnw cyflwynodd gais oddi wrth breswylwyr y dref am ysgol rydd i Aberteifi. Yn
  • teulu WOOD, sipsiwn Cymreig ) JEREMIAH WOOD, telynor, a gladdwyd yn Llanrwst; (c) ADAM WOOD, telynor (tad y telynor GODFREY WOOD), a gladdwyd yn Llanelwy; (ch) SAIFORELLA WOOD, mam y MATTHEW (' MATCHO ') WOOD y casglodd Sampson lawer o lên-gwerin y sipsiwn oddi ar ei wefusau - bu Matthew farw yn y Bala, 2 Mawrth 1929, 'yn 86 oed,' a chladdwyd yn Llanycil. (4) JEREMIAH WOOD (neu WOOD JONES), 'Jerri Bach Gogerddan' (1778? - 1867