Canlyniadau chwilio

1009 - 1020 of 1867 for "Mai"

1009 - 1020 of 1867 for "Mai"

  • LLOYD, DAVID (bu farw 1747?), clerigwr a chyfieithydd Ordeiniwyd ef yn ddiacon 27 Mai 1711, ac yn offeiriad 15 Mehefin 1712, gan esgob Llandaf. Disgrifir ef fel myfyriwr o Goleg Iesu, Rhydychen, y tro cyntaf, ac fel B.A. o'r coleg hwnnw ar yr ail achlysur (Llandaff Subscription Books). Yr unig berson o'r enw hwn a raddiodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 1711/12, oedd David Lloyde, mab Phillip Lloyde, o Dyddewi, Sir Benfro, a raddiodd yn B.A. 24 Mawrth
  • LLOYD, DAVID (1752 - 1838), clerigwr, bardd, a cherddor Ganwyd 12 Mai 1752, yng Nghroes Cynon, Llanbister, sir Faesyfed, unig fab Thomas Lloyd, Trevodich, a Mary, merch David James, Croes Cynon Fach. Gweithiodd am beth amser ar dyddyn ei dad, a didrefn fu ei ddyddiau ysgol. Eto llwyddodd i ennill gwybodaeth o'r Lladin ac o fathemateg, a dysgodd Roeg ar ei ben ei hun. Yn y flwyddyn 1771 agorodd ysgol fechan yn Llanbister. Yno ymbaratodd ar gyfer urddau
  • LLOYD, DAVID TECWYN (1914 - 1992), beirniad llenyddol, llenor, addysgydd ardal, gan gynnwys dosbarthiadau yn ei hen ysgol, Ysgol Llawrybetws. Darlithiai ar amryfal bynciau, er mai ei brif faes oedd Llenyddiaeth Cymru. Yn ôl y rhai a fynychai ei ddosbarthiadau, crwydrai'r gwersi i bob cyfeiriad, a rhoddid sylw cyson i 'Faterion y Dydd'. (Yr oedd hyn yn ystod y flwyddyn arweiniodd i'r Ail Ryfel Byd, 1939-1945, a blynyddoedd cynnar y rhyfel hwnnw.) Yn ogystal â thrafod
  • LLOYD, EDWARD (c. 1570 - 1648?) Llwyn-y-maen, rhydd hyd ddiwedd 1620. Yn y cyfamser hysbyswyd iddo ddatgan, mewn modd agored ac annoeth, ei lawenydd o glywed i fab-yng-nghyfraith Protestannaidd y brenin, ' brenin Bohemia,' gael ei orchfygu yn Bohemia ym mis Tachwedd, a bu dadlau brwd o'i blegid yn Nhŷr Cyffredin y mis Mai dilynol; yr oedd aelodau'r Tŷ (a'r aelodau o Gymru yn eu plith) yn benderfynol o geisio cael iddynt eu hunain ryw fodd i gosbi
  • LLOYD, EVAN (1734 - 1776), clerigwr ac awdur - The Powers of the Pen (London, 1766), The Curate (London, 1766), The Methodist (London, 1766; Conversation (London, 1767). Credid mai William Price, Rhiwlas, gerllaw'r Bala, oedd y ' Libidinoso ' a ddisgrifid yn The Methodist, a dug Price gyngaws am athrod yn erbyn yr awdur. Gorfodwyd Lloyd i dreulio pythefnos yng ngharchar y King's Bench, Llundain, a dirwywyd ef i'r swm o £50 ar 16 Mai 1768
  • LLOYD, EVAN (fl. 1833-59), argraffwyr a chyhoeddwyr Y mae popeth (e.e. teitl y bartneriaeth - John ac Evan Lloyd) yn awgrymu mai John oedd y brawd hynaf, ond ni lwyddwyd hyd yn hyn i ddarganfod dyddiadau ei eni a'i farw. Rhaid bod y cwmni yn argraffu yn yr Wyddgrug yn 1833, oherwydd yn y flwyddyn honno penodwyd Owen Jones (Meudwy Môn) yn ddarllennydd proflenni yn eu swyddfa, yn arbennig i gywiro proflenni esboniad Beiblaidd James Hughes (1779
  • LLOYD, EVAN (1728 - 1801) Maes y Porth,, hynafiaethydd a bardd Mab Lewis Lloyd Maes-y-Porth, twrnai, ac Anne, ei wraig, bedyddiwyd ef yn Llangeinwen, 26 Mai 1728. Ar 11 Ionawr 1774, priododd Margaret Thomas yn eglwys Llansadwrn, sir Fôn. Yn 1793 ef oedd uchel siryf sir Fôn. Cymerai gryn ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac achyddiaeth Gymraeg, a bu llawysgrifau Wynnstay 2, NLW MS 560B, NLW MS 1256D, NLW MS 1258C a NLW MS 1260B, a Bangor 5944 unwaith yn ei
  • LLOYD, HUGH (1586 - 1667), esgob Llandaf archddiacon Tyddewi, 1644. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol yr oedd, fel ei dad, yn Frenhinwr yr oedd plaid y Senedd yn cadw eu llygaid arno. Cymerwyd ei fywiolaethau oddi arno cyn Deddf y Taenu oherwydd ei fod yn eu dal 'in plurality' ac am iddo wrthod cymryd y 'cyfamod,' eithr caniatawyd iddo gael derbyn y 'bumed' ('fifths') am beth amser. Ym mis Mai 1648 fe'i cymerwyd yn garcharor gan y cyrnol Horton wedi
  • LLOYD, JOHN (1733 - 1793), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd yn 1733 (bedyddiwyd 26 Mawrth) yn Llanarmon-yn-Iâl, yn fab i John Lloyd (a fu farw 1756) o Fodidris a'i wraig Elizabeth (Jones) (a fu farw 1768) o'r Gerddi Duon, yr Wyddgrug. Ni ddylid cymryd yn ganiataol mai cainc oedd hon o hen deulu ' Lloyd o Fodidris'; yr oedd y tad yn fab i Richard Lloyd o'r Cwmbychan yn Ardudwy (a fu farw 1697), ac yr oedd yr hynafiaethydd felly'n gefnder i Evan
  • LLOYD, JOHN (Einion Môn; 1792 - 1834), ysgolfeistr a bardd Ganwyd yn 1792 ym Mhwllgynnau, Ceidio, Môn. Y mae bron y cwbl a wyddys am ei yrfa i'w gasglu o farwnad ddienw arno, a argraffwyd yn Y Gwyliedydd (1834, 375), a'r Gwladgarwr (1835, 24). Bu farw ei rieni pan nad oedd ef ond plentyn; bu mewn ysgol yn Llannerch-y-medd; ac aeth (ar adeg anhysbys) i Lundain. Honnir weithiau mai ' cyfreithiwr ' (efallai glerc yn swyddfa cyfreithiwr) oedd, ond y mae'r
  • LLOYD, JOHN (1638 - 1687), pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen, ac esgob Tyddewi , 1682-5. Gwnaed ef yn rheithor Llandawke, Sir Gaerfyrddin, yn 1668, Llangwm, Sir Benfro, 1671, a Burton, 1672. Penodwyd ef yn gantor eglwys gadeiriol Llandaf, 9 Ebrill 1672, ac yn drysorydd 10 Mai 1679. Cysegrwyd ef yn esgob Tyddewi yn Lambeth 17 Hydref 1686 gyda'r hawl i gadw Llandawke a Burton 'in commendam.' Yr oedd ar y pryd yn wael ei iechyd, ac o'i anfodd y derbyniodd ei ddyrchafiad. Bu farw yng
  • LLOYD, JOHN (bu farw 1679), Offeiriad seciwlar a merthyr cynnwrf Cynllwyn Titus Oates aed ag ef i'r ddalfa ar 20 Tach 1678, o dŷ Mr. Turberville, Pen-llîn, Morgannwg. Carcharwyd ef yng ngharchar Caerdydd gyda'r Tad Philip Evans, S. J.. A gydag ef dedfrydwyd yntau i farwolaeth ar 9 Mai 1679; fe'i dienyddiwyd ar 22 Gorffennaf 1679.