Canlyniadau chwilio

1069 - 1080 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1069 - 1080 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GRIFFITH, GEORGE (1601 - 1666), esgob Llanelwy Ganwyd 1601 yn y Penrhyn, Sir Gaernarfon (medd T. F. Tout yn y D.N.B.). Y gwir yw mai un o Griffithiaid Carreg Lwyd ym Môn ydoedd, un o geinciau ieuengaf y Penrhyn. Gyda'r teulu mwyaf eglwysyddol yn y tir - ei daid yn rheithor, ewythr iddo'n rheithor, dau o'i frodyr yn briod â merched i esgobion, un o'r brodyr hyn yn ganghellor esgobaeth Bangor yn ogystal â Llanelwy. Aeth i Ysgol Westminster ac i
  • GRIFFITH, GEORGE WILLIAM (1584 - 1655?), tir-feddiannwr, cyfreithiwr, ustus heddwch, hynafiaethydd o Benybenglog, Sir Benfro; ganwyd 21 Ebrill 1584, mab hynaf William Griffith. Priododd, 22 Tachwedd 1605, Maud Bowen o Lwyngwair, a bu iddynt saith o blant. Penodwyd ef yn ysgrifennydd cyhoeddus yn Sir Benfro gan gyngor y gororau, yr oedd yn ddistain barwniaeth Cemaes, cynorthwyodd George Owen, Henllys, gyda'i ymchwiliadau hanesyddol, ac ysgrifennodd lawer o lawysgrifau achau. Croesawodd feirdd
  • GRIFFITH, GRACE WYNNE (1888 - 1963), nofelydd Ganed yn Chwefror 1888 yn Niwbwrch, Môn, merch y Capten W.G. Roberts. Chwaer iddi oedd Elizabeth Ann Williams, awdur Hanes Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1927). Addysgwyd hi yn ysgol sir Caernarfon. Bu'n nyrsio yn Lerpwl ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ac yno y cyfarfu â Griffith Wynne Griffith, Lerpwl; priodwyd hwy yn 1914. Bu farw 1 Mai 1963. Daeth i amlygrwydd yn 1934 pan ddaeth
  • GRIFFITH, GWILYM WYNNE (1914 - 1989), meddyg a swyddog iechyd cleifion yn dioddef o'r clefyd a chyhoeddodd yn 1939 adroddiad ar ffurf anghyffredin o liwcemia, y gyntaf o liaws o erthyglau a phapurau ymchwil meddygol ganddo. Gwasanaethodd yn gyrnol-feddyg yn yr RAMC yn Ewrop a'r Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi dychwelyd, fe'i penodwyd yn Swyddog Meddygol Cynorthwyol sir y Fflint ac yn 1948 penodwyd ef yn Swyddog Meddygol Sir Fôn. Enillodd radd MD
  • GRIFFITH, HUW WYNNE (1915 - 1993), gweinidog (MC) ac eciwmenydd amlwg ), gweithwraig gymdeithasol, a Douglas (1918-1918). Addysgwyd Huw Wynne Griffith yn Lerpwl cyn i'r teulu symud yn 1923 i Borthmadog lle bu'n ddisgybl yn yr ysgol gynradd ac yna yn Ysgol Sir Porthmadog, ac wedyn yn Ysgol Friars, Bangor (pan ddaeth ei dad yn weinidog eglwys y Tabernacl), Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd mewn Lladin), Coleg Westminster, Caergrawnt, lle'r enillodd radd MA. Yn ystod y
  • GRIFFITH, JOHN (fl. fl.1548-87), gwr o'r gyfraith sifil Mab (mae'n debyg) i William Griffith (bu farw 1587), Plas Mawr, Caernarfon, a Threfarthen, Llanidan, sir Fôn, mab hynaf ail briodas Syr William Griffith o'r Penrhyn. Margaret, merch John Wyn ap Meredith o Wydir, a modryb y Syr John Wynn 1af, oedd ei fam. Gwnaethpwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls, Rhydychen, yn 1548, cymerodd ei B.C.L. yn 1551 (18 Gorffennaf), a gradd doethur yn 1563 (7
  • GRIFFITH, JOHN (1752 - 1818), gweinidog gyda'r Annibynwyr a Chynydd Crefydd yn yr Enaid (cyfieithiad o Doddridge). Bu'n briod ddwywaith. Ei ail wraig oedd Janet, ferch Janet Williams (o Fwlch Mwlchan), chwaer William Griffith (1719 - 1782), Drws-y-coed - nid chwaer Alice Griffith ei wraig, fel y dywedir yng Nghofiant William Griffith, Caergybi. Cawsant ddau fab. Yr hynaf oedd JOHN GRIFFITH (ganwyd 11 Medi 1799 yn Nhyddyn-y-graig, Dolbenmaen), a aeth i'r
  • GRIFFITH, JOHN (fl. 1649-69) Llanddyfnan, bardd ac uchelwr Nid hawdd yw ei leoli yn ach y teulu; mae cynifer o'r un enw mor agos i'w gilydd; ond y mae lle i dybied mai ef yw'r 7fed John Griffith yn yr ach honno, a'i fod felly yn fab i John Griffith VI a Dorcas, merch William Prydderch, rheithor Llanfechell. Ychydig a wyddys amdano y tu allan i'w ganu. Ceir llawer o'i waith - yn garolau, englynion, a chywyddau - ymhlith llawysgrifau Mostyn, Llanstephan, a
  • GRIFFITH, JOHN (Y Gohebydd; 1821 - 1877) Ganwyd 16 Rhagfyr 1821 yn Bodgwilym ger Abermaw, mab i Griffith a Maria Griffith - yr oedd ei fam yn ferch hynaf John Roberts, Llanbrynmair. Cafodd addysg elfennol yn Abermaw. Tua 1836 prentisiwyd ef gyda William Owen, 'Grocer, Draper and Druggist,' Abermaw, lle y bu hyd 1840. Wedi hynny bu'n gwasanaethu mewn siopau yn Scotland Road, Lerpwl, a Llangynog, Maldwyn. Yn 1847 penodwyd ef yn
  • GRIFFITH, JOHN (1818? - 1885), clerigwr Ganwyd (yn 1819 yn ôl Yr Haul, 1885) ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi, mab Thomas Griffith. Cafodd ei addysg yn ysgol Ystrad Meurig, ysgol ramadeg Abertawe, a Choleg Crist, Caergrawnt (B.A. 1841, M.A. 1844). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1842, yn offeiriad yn 1843; bu'n gurad yn Astbury, gerllaw Congleton, swydd Gaer, 1842-4, a bu'n athro a chaplan teulu yng nghartref Syr Stephen Glynne
  • GRIFFITH, JOHN (1713 - 1776), Crynwr Ganwyd 21 Mai 1713 yn sir Faesyfed. Ymfudodd i America yn 1726 ac ymunodd â'r Crynwyr gan ddyfod yn weithiwr diflino drostynt. Dychwelodd i Loegr fis Ionawr 1748 a theithiodd 12,000 o filltiroedd yng nghwrs dwy flynedd a hanner. Aeth yn ôl i'r America fis Mai 1750, eithr dychwelodd ym mis Hydref; priododd Frances Wyatt, Chelmsford, swydd Essex, lle y bu byw weddill ei oes ond am un daith arall i
  • GRIFFITH, JOHN (1863 - 1933), athro ysgol, a cherddor Ganwyd 18 Ebrill 1863 yn Rhiw, Llŷn, Sir Gaernarfon, mab hynaf Siôn Griffith, crydd, Penygroes, Rhiw, a Martha Griffith, Pen Nebo, Rhiw. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Botwnnog, a bu'n ddisgybl-athro yn Nebo, Llanllyfni, cyn mynd i Goleg Normal Bangor, (1881-2). Daeth yn brifathro 'r Ysgol Frutanaidd yn Glanwydden ac wedyn ym Machynlleth. Priododd Dorothy, merch Owen Jones, Siop Fawr, Talysarn