Canlyniadau chwilio

1105 - 1116 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1105 - 1116 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GRIFFITH, WILLIAM (fl. diwedd yr 16eg ganrif), barnwr y Morlys dros sir Gaernarfon - gweler GRIFFITH, JOHN
  • GRIFFITH, WILLIAM JOHN (1875 - 1931), awdur Storïau'r Henllys Fawr
  • GRIFFITH-JONES, EBENEZER (1860 - 1942), gweinidog Annibynnol a phrifathro a Llywydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Ysgrifennodd The Ascent through Christ 1899, Providence (2 vols.), The Master and His Method 1903, The Economics of Jesus 1904, The Dominion of Man 1926 &c. a llu o erthyglau mewn cylchgronau diwinyddol ac athronyddol. Anghydffurfiwr cadarn ac anhyblyg ei farn, dadleuwr pybyr ar faterion diwinyddol a chyhoeddus. Priododd Carita (marw 1936), merch T. F. Stoner
  • GRIFFITH-JONES, WILLIAM (1895 - 1961), gweinidog (A) a gweinyddwr bregethu a bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Manceinion a choleg diwinyddol sir Gaerhirfryn, 1919-24. Ordeiniwyd ef yn eglwys Freemantle, Southampton ym mis Gorffennaf 1924. Bu yno hyd 1936 yn weithgar iawn gyda'r Eglwysi Rhyddion ac yn ysgrifennu i'r wasg ar ben ei waith yn ei eglwys. O 1936-51 bu'n weinidog ar eglwys newydd Emmanuel, West Wickham, ac yn y cyfnod hwnnw daeth i amlygrwydd yn Undeb
  • GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes Ganwyd fis Ebrill 1776 yn Dolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, (bedyddiwyd 21 Ebrill 1776), merch John (bu farw c. Chwefror 1804) a Jane Thomas (bu farw 1794). Yr oedd ei rhieni yn mynychu eglwys y plwyf. Cawsant bump o blant (1) Jane, 1767, (2) John, 1770, (3) Elizabeth, 1772, (4) Ann, a (5) Edward (1779). Ymdriniwyd yn helaeth â'r plant (a'u disgynyddion) gan David Thomas, yn
  • GRIFFITHS, ARCHIBALD REES (1902 - 1971), arlunydd pheintio er mwyn diddanwch pan fu'r pwll yn segur. O 1919 ymlaen astudiodd mewn dosbarth nos ac wedyn yn llawn amser yn Ysgol Gelf Abertawe dan William Grant Murray. Erbyn 1922 roedd wedi gwneud digon o gynnydd i gyflwyno portread olew, The Gorseinon Schoolgirl, i gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman, lle dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo gan Christopher Williams. Ar argymhelliad William
  • GRIFFITHS, DAVID (1792 - 1863), cenhadwr Ganwyd 20 Rhagfyr 1792 yn Glanmeilwch, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin. Dechreuodd bregethu yn 1812, aeth i academi Neuaddlwyd yn 1814, a'r un flwyddyn derbyniwyd ef i goleg Wrecsam. Aeth i Goleg y Cenhadon yn Gosport yn 1817. Enwyd ef i fyned i faes y genhadaeth ym Madagascar. Ordeiniwyd ef ar 27 Gorffennaf 1820; hwyliodd gyda'i wraig ym mis Hydref y flwyddyn honno a chyrraedd pen y fordaith yng
  • GRIFFITHS, DAVID (1756 - 1834), clerigwr Methodistaidd Ganwyd yn y Felinwlân, Llanbedr Efelffre, Sir Benfro, mab John Griffiths. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Penfro a phenodwyd ef, c. 1774, yn athro preifat yn nheulu Bowen, Llwyn-gwair, Nanhyfer, lle daeth i gyswllt â rhai o brif arweinwyr y Methodistiaid. Priododd ferch hynaf ei noddwr. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan esgob Tyddewi, 16 Hydref 1779, ac yn offeiriad, 2 Medi 1780; sefydlwyd ef yn ficer
  • GRIFFITHS, DAVID REES (Amanwy; 1882 - 1953), bardd ac ysgrifwr Ganwyd 6 Tachwedd 1882 yn Efail y Betws, ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, mab William a Margaret Griffiths (ganwyd Morris). Brawd iddo oedd y Gwir Anrhydeddus James Griffiths. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Betws, ac aeth i weithio i'r lofa pan oedd yn 12 mlwydd oed. Anafwyd ef yn dost mewn tanchwa yng nglofa Pantyffynnon, a lladdwyd brawd iddo yr un adeg. Ar ôl y danchwa dechreuodd ymhyfrydu mewn
  • GRIFFITHS, DAVID ROBERT (1915 - 1990), gweinidog ac ysgolhaig Beiblaidd Lladin a gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth J. Gwyn Griffiths yn 1962. Yn 1944 priododd â Gladys Owen, a anwyd ym Mhontllan-fraith, sir Fynwy, merch i John Owen, Prifathro Coleg Caerllion-ar-Wysg. Ganed iddynt un ferch, Petra. Roedd Gladys Griffiths wedi graddio mewn Ffrangeg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ac yn athrawes Ffrangeg yng Nghasnewydd adeg ei phriodas. Ar hyd ei hoes, gyda
  • GRIFFITHS, EDWARD (1929 - 1995), cemegydd diwydiannol ac Aelod Seneddol Ganwyd 7 Mawrth 1929, yn fab i Robert Griffiths, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, a'i wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Yr Wyddgrug a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Wedi dychwelyd i Sir y Fflint yn 1951 ar ôl graddio, cafodd waith fel cemegydd diwydiannol, yn gyntaf yng ngweithfeydd dur John Summers yn Shotton ac yn ddiweddarach yng Nghaerffili a gweithfeydd Dalzell yn yr
  • GRIFFITHS, EDWIN STEPHEN (1868 - 1930), gŵr busnes a philanthropydd Ganwyd Edwin Stephen Griffiths ym Mhengam, plwyf Bedwellte, Sir Fynwy ar 26 Awst 1869, yn fab i Gwilym a Rachel Griffiths (gynt Rachel Davies). Fe'i haddysgwyd yn yr ysgol leol a mynychodd gapel y Bedyddwyr yn y pentref. Dywedir fod ei fryd ar fynd i'r weinidogaeth ymhlith y Bedyddwyr gan geisio mynediad i'r Athrofa ym Mhont-y-pŵl (rhagflaenydd Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd), ond bu'n rhaid iddo