Canlyniadau chwilio

1153 - 1164 of 1867 for "Mai"

1153 - 1164 of 1867 for "Mai"

  • MORGAN, WILLIAM (JOHN) (Penfro; 1846 - 1918), clerigwr, eisteddfodwr, ac emynydd agos nid yn unig â'r englynwr enwog, Trebor Mai, ond hefyd â'r gŵr hynod hwnnw, Gwilym Cowlyd. Mynychai 'wrth' eisteddfodau Gwilym Cowlyd ar lannau llyn Geirionydd; yn wir, ni ddaeth Penfro fyth i deimlo'n gartrefol yn y 'wir' eisteddfod genedlaethol, er iddo fod yn amlwg yn ddiweddarach yn eisteddfod daleithiol Powys. O 1875 hyd 1878 bu'n gurad yn Llanelwy, lle yr enillodd beth enwogrwydd fel
  • MORGAN, WILLIAM (1750 - 1833), ystadegydd Ganwyd ef ar 26 Mai 1750 ym Mhenybont-ar-Ogwr, yn fab hynaf i William Morgan (meddyg) a'i wraig Sarah Price, chwaer yr athronydd Richard Price - mab arall oedd George Cadogan Morgan. Bu'n brentis gyda dau apothecari yn Llundain a hefyd yn fyfyriwr yn Ysbyty St Thomas. Yn 1772, dychwelodd i Ben-y-bont i gymryd practis ei dad ar ôl iddo farw. Yn 1773 aeth i Lundain ac mae'n bosibl ei fod wedi cadw
  • MORGAN, Syr THOMAS (1604 - 1679), milwr anllythrennog ac mai prin y gallai dorri ei enw. Bu farw yn ei swydd ar 13 Ebrill 1679. Er mai dyn byr o gorffolaeth ydoedd, yr oedd yn cael ei gyfrif yn uchel ymhlith swyddogion milwrol ei gyfnod, ac yr oedd iddo enw da hefyd oblegid y modd mawrfrydig y byddai'n arfer trin ei elynion. Priododd ar 10 Medi 1632 a bu iddo naw mab. Dilynodd yr hynaf o'r meibion, Syr JOHN MORGAN, yr ail farwnig, gamre ei dad, gan
  • MORGANN, MAURICE (c. 1725 - 1802), awdur ysgrifau beirniadol ar Shakespeare ac ar wleidyddiaeth un o deulu'r Morganiaid, Blaenbylan, ym mhlwyf Clydau, Sir Benfro, hen dylwyth â'i achau yn olrhain i Lywelyn ap Gwilym o'r Cryngae (a oedd yn ewythr i'r bardd Dafydd ap Gwilym), ac Ednyfed Fychan, yn ôl yr achydd William Lewes (N.L.W. Bronwydd MS. 7170). Adwaenai Richard Fenton ef a'i frawd William yn dda a dywed mai ym Mlaenbylan, cyn i'r hen gartref syrthio'n adfeilion tua 1740-50, y magwyd ef
  • MORRIS, CAREY (1882 - 1968), arlunydd Ganwyd 17 Mai 1882 yn Llandeilo, Caerfyrddin, mab Benjamin ac Elizabeth Boynes Morris. Bu yn ysgol sir Llandeilo, a gwrthryfelodd yn gynnar yn erbyn dulliau mecanyddol y Bwrdd Addysg o ddysgu arlunio. Aeth i'r Slade yn Llundain, a rhagorodd ar astudio anatomi dan gyfarwyddyd Henry Tonks. Priododd yn 1911 â Jessie Phillips, a daeth yn aelod o'r gymdeithas niferus o arlunwyr a weithiai yn Newlyn
  • MORRIS, Syr DANIEL (1844 - 1933), llysieuegwr Ganwyd yng Nghasllwchwr 26 Mai 1844; bu mewn ysgol yn Cheltenham ac wedyn yn y Royal College of Science (South Kensington) ac yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, lle y graddiodd yn y dosbarth blaenaf mewn gwyddoniaeth - cafodd wedyn radd D.Sc. yno. Wedi bwrw rhai blynyddoedd mewn gerddi botanegol yn Ceylon a Jamaica, penodwyd ef yn 1886 yn is-gyfarwyddwr Gerddi Kew. Anfonwyd ef droeon i ynysoedd
  • MORRIS, DAVID (1744 - 1791), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac emynydd Ganwyd yn 1744 yn Lledrod, Sir Aberteifi, mab Morris Morgan. Dywedir mai porthmon ydoedd ym more'i oes, ond ni wyddys am ei gysylltiadau crefyddol y pryd hynny. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid yn 1765 a daeth i amlygrwydd yn fuan fel pregethwr nerthol, a chafodd ddylanwad mawr ar y werin yn ystod ei deithiau dros Gymru. Dechreuodd dewychu o ran ei gorff pan oedd yn ieuanc, a rhwystrwyd
  • MORRIS, DAVID (Bardd Einion; 1797? - 1868), bardd tybir ei eni yn 1797, yn Nhan-y-bryn, Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, ac efallai mai ef yw'r David, mab David a Margaret Morris, o ardal Heniarth, a fedyddiwyd yn eglwys y plwyf 2 Gorffennaf 1797. Bu'n wehydd am gyfran o'i oes ond yn ddiweddarach trodd at arddio. ' Y Gerddi ' oedd hen enw Tan-y-bryn, ac yno y triniai David Morris ei ardd gan werthu'r cynnyrch i'r cymdogion ac yn y
  • MORRIS, DAVID (1630 - 1703), offeiriad Catholig a cham-dyst Ebrill 1654, ac aeth i Loegr, 1 Mai 1655. Ychydig a wyddys am ei yrfa yn ystod yr ugain mlynedd nesaf. Yr oedd yn aelod o Gabidwl yr offeiriaid seciwlar yn 1677, ac, er gwaethaf ei ymdrechion yn eu herbyn, parhâi yn aelod yn 1684, pan ddisgrifid ef fel archddiacon siroedd Northampton, Huntingdon a Chaergrawnt. Yn 1680, ar adeg y Cynllwyn Pabaidd, daethpwyd â Morris o Fflandrys, drwy gyfrwng Israel
  • MORRIS, EDWARD (1607 - 1689) Perthi Llwydion, Cerrig-y-drudion, bardd a phorthmon dau gywydd o Cardiff MS 5.30. Y mae'n anodd bod yn bendant ynglyn â'r rhain gan na feddwn ddim y gwyddom i sicrwydd mai ysgrifen Edward Morris ydyw, ond o sylwi ar wahanol gyfeiriadau yn Peniarth MS 200 cymhellir ni i'w derbyn fel ei eiddo, tra gorfyddir arnom amau ei gysylltiad â Cardiff MS 1.5 Ceir marwnad iddo ar t. 364 o hwnnw.
  • MORRIS, JAN (1926 - 2020), awdur blentyn, câi ei chyfareddu o weld llongau ym Môr Hafren a bryniau tywyllach, llymach Cymru y tu hwnt. Roedd Sir Fynwy bell yn ddeniadol hefyd am mai yno y ganwyd ei thad, a fu farw pan oedd hi'n ddeuddeg oed. Daeth Morris i adnabod gororau Cymru yn well pan aeth yn Ionawr 1941 i Goleg Lancing, a oedd wedi mudo o arfordir Sussex i gyfres o hen dai drafftiog yn Swydd Amwythig. Ar ôl gadael yr ysgol
  • MORRIS, JOHN WILLIAM (1896 - 1979), cyfreithiwr a barnwr , ond ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a bu yn Ffrainc drwy gydol y rhyfel. Cyrhaeddodd reng capten yn y pen draw a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. Wedi'r rhyfel, aeth Morris o'r diwedd i Trinity Hall, i astudio'r gyfraith. Tra bu yno etholwyd ef yn llywydd cymdeithas ddadlau Undeb Caer-grawnt. Ym Mai 1919 derbyniwyd ef i'r Deml Fewnol, ac yn 1920 enillodd radd