Canlyniadau chwilio

1165 - 1176 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1165 - 1176 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GRUFFYDD ap IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN (c. 1485 - 1553), bardd ac uchelwr Caerwys ac â llawysgrif y dywedodd yr esgob Richard Davies ei bod yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg o Bum Llyfr Moses. Yn eisteddfod gyntaf Caerwys (1524) bu ef a'r bardd Tudur Aled yn cynorthwyo tri chomisiynwr, sef Richard ap Howel ap Ieuan Fychan, Mostyn, Sir y Fflint (tad-yng-nghyfraith Gruffydd ap Ieuan), Syr William Gruffydd o'r Penrhyn, Sir Gaernarfon (tad-yng-nghyfraith Thomas Mostyn, mab Richard
  • GRUFFYDD ap RHYS (bu farw 1201), tywysog Deheubarth y diwedd oedd ei afael ar ei etifeddiaeth. Mewn un ystyr gellir edrych ar ei yrfa fel math o ragarweiniad i'r cwerylon teuluol dinistriol hynny a arweiniodd i gwymp terfynol teulu Dinefwr. Yn 1189 priododd Matilda, merch William de Breos, a'i goroesodd, gyda dau fab ieuanc, Rhys Ieuanc ac Owain, pan fu farw ar 25 Gorffennaf 1201. Claddwyd ef a Matilda yn Ystrad Fflur.
  • GRUFFYDD LLWYD Syr (bu farw 1335), arwr traddodiadol gwrthryfel tybiedig Cymreig yn 1322 Gorwyr Ednyfed Fychan, senesgal Llywelyn ab Iorwerth. Yn yr achau Cymreig disgrifir ef fel arglwydd Tregarnedd yn sir Fôn a Dinorwig yn Sir Gaernarfon; daliai diroedd hefyd yn Twynan a mannau eraill yng ngogledd sir Ddinbych, yn Llansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, ac yn Llanrhystud yn Sir Aberteifi. Etifeddasai Tregarnedd a'r tiroedd yn sir Ddinbych ar ôl ei dad, Rhys ap Gruffydd, a fu farw yn gynnar
  • GRUFFYDD, ELIS (fl. 1500-52), 'milwr o Galais,' copiydd, cyfieithydd, a chroniclwr Ganwyd rhwng 1490 a 1500 yn y Gronnant Uchaf, Gwespyr, plwyf Llanasa, Sir y Fflint, lle yr etifeddodd 24 erw o dir oddi wrth ei ewythr Siôn ap Dafydd. Ni wyddys dim am ei fywyd cynnar yng Nghymru, ond yn ei 'Gronicl' dywed lawer amdano'i hun fel gwasanaethwr i deulu Wingfield, yn Llundain ac yn Ffrainc. Yr oedd gyda Syr Robert Wingfield ar ' Faes y Brethyn Euraid ' ger Calais yn 1521, pan
  • GRUFFYDD, IFAN (1896 - 1971), llenor yna'n ofalwr swyddfeydd Cyngor Sir Môn yn Llangefni. Bu'n actio gyda chwmnïau drama lleol o'r 1930au ymlaen ac yn darlithio ar stori ei fywyd, ond yn y 1950au y daeth i amlygrwydd y tu allan i gylch ei gynefin fel darlithydd poblogaidd ac actor. Cynhyrchwyd drama o'i waith, 'Ednyfed Fychan' yn Theatr Fach Llangefni yn 1957. Yn 1963 cyhoeddwyd ei Gŵr o Baradwys, cyfrol hunangofiannol a enillodd ei lle
  • GRUFFYDD, JEREMY (fl. tua chanol y 17eg ganrif), bardd Disgrifir ef fel o blwyf Cerrig y Drudion, sir Ddinbych. Dywedir bod peth o'i waith yng nghasgliad Ffoulke Owen, Cerdd Lyfr, 1686. Ceir cerdd o'i eiddo yn T. Jones, Carolau a Dyriau Duwiol, 1696, a pheth o'i waith yn NLW MS 5545B a Cwrtmawr MS 127B.
  • GRUFFYDD, OWEN (c. 1643 - 1730), bardd a hynafiaethydd Ychydig a wyddys yn bendant am ei fywyd cynnar a'i fuchedd; ganwyd ym mhlwyf Llanystumdwy yn Sir Gaernarfon, ac yn ôl pob tebyg treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn y plwyf hwnnw a'r rhai oddi amgylch. Gwehydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac enillodd fri mawr fel bardd. Adnabyddid ef hefyd fel achyddwr. Cyfansoddodd farddoniaeth i foneddigion y wlad oddi amgylch yn yr hen draddodiad Cymreig, a hefyd
  • GRUFFYDD, ROBERT (Patrobas; 1832 - 1863), bardd Ganwyd 7 Tachwedd 1832 yn Penymaes, Nefyn, Sir Gaernarfon, mab Robert a Catrin Gruffydd. Aeth yn fasnachwr, eithr bu farw o'r darfodedigaeth, 21 Ebrill (20 Ebrill yn ôl Not. W.) 1863, yn ddyn cymharol ieuanc, gan adael gweddw a dau o blant. Y flwyddyn cynt cyhoeddwyd Byr Ganeuon gan Patrobas (Pwllheli, 1862, ac arg. arall); ymddangosodd rhai caneuon o'i waith yn Y Dysgedydd a chyfnodolion eraill.
  • GRUFFYDD, ROBERT (1753 - 1820), cerddor Ganwyd ym Mhencefn, Llanbeblig, Sir Gaernarfon. Adwaenid ef dan yr enw ' Cantwr Salmau,' am yr arferai fynd oddi amgylch yr eglwysi i ddysgu i'r bobl ganu salmau. Tystia Owen Williams o Fôn yn ei Gamut i'w allu cerddorol, a chredai iddo gyfansoddi amryw donau i Brenhinol Ganiadau Seion (Owen Williams). Efe a gyfansoddodd ' Difyrwch gwyr Caernarfon ' a ' Difyrwch gwyr y Gogledd ' (a geir yn y
  • GRUFFYDD, ROBERT GERAINT (1928 - 2015), ysgolhaig Cymraeg a'r gramadegydd ansad hwnnw o'r ddeunawfed ganrif, William Owen Pughe, ond er mor sylfaenol y gwahaniaeth crebwyll ysgolheigaidd rhwng Geraint Gruffydd ac yntau, eto mewn rhyw ffordd ddirgel bron, ymglywai Geraint â galwad ymchwil ac ysgolheictod yn Egryn a mawrygai mai yno y bu dechrau'r daith. Ymhen ychydig flynyddoedd symudodd y teulu i fferm ymchwil arbrofol Pwllpeiran, Cwm Ystwyth, yng ngogledd
  • GRUFFYDD, THOMAS (1815 - 1887), un o delynorion enwocaf ei gyfnod Ganwyd yn Llangynidr, sir Frycheiniog, yn wŷr i reithor y plwyf. Dysgwyd ef gan John Wood Jones, ac er iddo golli ei olwg yn ifanc nid amharodd hynny ar ei ddawn. Aeth yn delynor i deulu Llanofer, sir Fynwy; gweithiai wrth ei dyddyn yn ogystal â dal y swydd hon a chwarae'r delyn a chanu penillion ar hyd sir Fynwy a Morgannwg. Enillodd delyn deir-res eisteddfod y Fenni, 1836, a bu'n gydradd â
  • GRUFFYDD, WILLIAM JOHN (1881 - 1954), ysgolhaig, bardd, beirniad a golygydd Ganwyd yng Nghorffwysfa, Bethel, Sir Gaernarfon, 14 Chwefror 1881, mab John a Jane Elisabeth Griffith. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Bethel ac ysgol sir Caernarfon, lle'r oedd yn un o'r to cyntaf o ddisgyblion pan agorwyd yr ysgol yn 1894. Yn 1899 derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddiodd mewn llenyddiaeth Saesneg. Yn 1904 penodwyd ef yn athro yn ysgol ramadeg Beaumaris, ac yn 1906 yn