Canlyniadau chwilio

1201 - 1212 of 2571 for "john hughes"

1201 - 1212 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, JOHN EMRYS (1914 - 1991), ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Lafur yng Nghymru
  • JONES, JOHN EVANS (1839 - 1893), newyddiadurwr Caernarvon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon, a phan fu farw John James Hughes ('Alfardd'), golygydd Yr Herald Cymraeg, yn 1875, rhoddwyd gofal y papur hwnnw arno hefyd, ond ymneilltuodd o'r ofalaeth honno yn 1879. Bu am dymor hefyd yn golygu Y Darlunydd, cyhoeddiad misol o'r un swyddfa, ac yn ysgrifennu iddo dan y ffugenw ' Y Cwilsyn Gwyn.' Ysgrifennodd gyfres o ysgrifau i blant i Trysorfa y Plant, dan
  • JONES, JOHN FOULKES (1826 - 1880), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd ym Machynlleth, 6 Mehefin 1826, yn fab i John Jones o'r Fron Deg (Wrecsam) a'i wraig Lydia, merch i Thomas Foulkes ac ŵyres i Simon Lloyd o'r Bala. Anfonwyd Foulkes Jones, yn 13 oed, i'r coleg yn y Bala a oedd wedi ei agor gan Lewis Edwards a David Charles. Yn 1843, penderfynodd fynd yn bregethwr ac aeth am ail dymor i'r Bala, ac yn 1844 i Brifysgol Edinburgh. O 1848 hyd 1853 bu'n genhadwr
  • JONES, JOHN HARRIS (1827 - 1885), gweinidog Methodistiaid Calfinaidd ac athro yng Ngholeg Trefeca Ganwyd 28 Awst 1827 yn Waunwthan, plwyf Llangeler, Sir Gaerfyrddin, mab John ac Elizabeth Jones, Penybanc, Closygraig. Pan oedd yn ddwyflwydd oed symudodd ei rieni i gartref y fam, sef Penybanc. Cafodd ei addysg foreol mewn ysgol a gynhelid yng nghapel Saron, Llangeler. Pan oedd yn 12 oed aeth am dair blynedd i ysgol ramadeg yng Nghastellnewydd Emlyn a gedwid gan yr Undodwr J. Davies (1795 - 1858
  • JONES, JOHN HENRY (1909 - 1985), addysgydd a chyfieithydd Ganwyd John Henry Jones ar 28 Gorffennaf 1909 yn Llangefni, Ynys Môn, yn unig blentyn tad a rannai'r un enwau, John Henry Jones (1863-1923), rheolwr siop ddillad, a'i briod Jane Jones (g. Griffith, 1868-1955), gwniyddes a hetwraig wrth ei chrefft. Wedi marw ei dad, profodd ei fam ac yntau gryn gyni, ond diolch i'w hymroddiad hi a chefnogaeth eglwys y Methodistiaid Wesleaidd (enwad y codwyd ef yn
  • JONES, JOHN HERBERT (Je Aitsh; 1860 - 1943), newyddiadurwr ac awdur
  • JONES, JOHN HUGH (1843 - 1910), offeiriad yn Eglwys Rufain Ganwyd yn Tanrhiw, Llanycil, 21 Mai 1843; ei dad oedd John Jones, ac yr oedd ei fam Mary née Jones yn ŵyres i Ddafydd Cadwaladr. Bu yn ysgol ramadeg y Bala a hefyd, medd y coffad amdano yn Cennad Catholig Cymru, dan addysg breifat gan John Williams ('Ab Ithel'). Yn 1862 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan fwriadu paratoi ar gyfer urddau yn Eglwys Loegr, ond ar 18 Hydref 1865, cyn cwpláu ei gwrs
  • JONES, JOHN ISLAN (1874 - 1968), gweinidog (U), awdur
  • JONES, JOHN ITHEL (1911 - 1980), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg Ganwyd John Ithel Jones yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg, ar 1 Ionawr 1911. Cafodd ei addysg yn yr ysgol gynradd lleol ac yn Ysgol Ramadeg Cyfarthfa, Merthyr Tudful, ac fe'i bedyddiwyd ym Moreia, Dowlais. Ewythr iddo oedd y pregethwr efengylaidd enwog, y Parchg R. B. Jones. Roedd Ithel Jones eisoes yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, pan dderbyniwyd ef yn 1930 yn ymgeisydd am y
  • JONES, JOHN JAMES (1892 - 1957), athro, llyfrgellydd, ysgolhaig ac ieithydd Ganwyd 12 Mawrth 1892 yng Ngheinewydd, Ceredigion, yr ieuangaf o ddau blentyn y cyfrwywr Thomas Jones ac Elizabeth, merch John Williams, Pendre, Llwyndafydd. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Ceinewydd, ysgol ganolraddol Aberaeron (1906-10); bu'n ddisgybl athro cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1911-14), lle y daeth yn ddisgybl i'r athro enwog Hermann Ethé. Graddiodd yn B.A. gydag
  • JONES, JOHN LLOYD - gweler LLOYD-JONES, JOHN
  • JONES, JOHN MATHER (1826 - 1874), perchennog Y Drych Ganwyd 9 Mehefin 1826 ym Mangor, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i America yn 1849 gan gartrefu yn Utica, Efrog Newydd. Prynodd Y Drych, yn 1865, gan John William Jones a ddaeth yn olygydd y papur o hynny ymlaen, yn cael ei gynorthwyo gan Thomas B. Morris ('Gwyneddfardd'). Yn 1866 cyhoeddodd John Mather Jones lyfr Cymraeg ar hanes y Rhyfel Cartref a ysgrifenwyd gan ddau olygydd Y Drych ar ei gais ef. Ar