Canlyniadau chwilio

1261 - 1272 of 2571 for "john hughes"

1261 - 1272 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, REES CRIBIN (1841 - 1927), gweinidog (U) ac athro Ganwyd ym Melin Talgarreg, Ceredigion, 9 Medi 1841, yn un o bedwar o blant; mab y Rhandir, Talgarreg, oedd David Jones, ei dad, a merch Caer foel, Ystrad, oedd ei fam. Bu'n fugail a chafodd ei addysg yn ysgol Dewi Hefin, Cribyn, ysgol John Davies, Three Horse Shoes, Cribyn, ysgol Pont-siân (1860-63), a'r Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin (1863-67). Gwasanaethodd yn achlysurol yn eglwys Undodaidd
  • JONES, REES JENKIN (1835 - 1924), pregethwr, ysgolfeistr, hanesydd, emynydd Ganwyd 17 Medi 1835, mab hynaf John Jones (1802 - 1863), Aberdâr. O du ei fam hanoedd o Jones iaid Llwynrhys, arloeswyr Anghydffurfiaeth yng Ngheredigion. Addysgwyd yn ysgol ei dad, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin (1855-9), Prifysgol Glasgow (1859-62); graddiodd yn M.A., 1863. Cymerth le ei dad (bu farw 19 Rhagfyr 1863) yn yr ysgol a'r pulpud, ac yn Ionawr 1864 derbyniodd alwad unfrydol yr eglwys
  • JONES, RHYS (1713 - 1801), hynafiaethydd a bardd Mab hynaf John Jones o'r Blaenau, Llanfachreth, Sir Feirionnydd. Cafodd ei addysg yn Nolgellau ac Amwythig. Bwriadai fyned am y gyfraith ond pan oedd yn 18 oed bu farw ei dad, a daeth adref i'r Blaenau, ac yma y bu drwy gydol ei oes. Yn 1741 priododd Ann, merch Richard Griffith, Tan-yr-allt, Sir Gaernarfon. Cyhoeddodd Cerdd Newydd iw chanu yn y Lloerig Gymdeithas yr hon sydd wedi i sefydlu iw
  • JONES, RICHARD (1603? - 1673), ysgolfeistr a chyfieithydd gweithiau crefyddol Mab John Lewis o Lansannan, sir Ddinbych. Addysgwyd ef yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a graddiodd yn B.A., Chwefror 1628-9, ac M.A., Mehefin 1633. Tan y Weriniaeth daeth yn bregethwr teithiol, ac yn ddiweddarach yn ysgolfeistr Ysgol Rydd Dinbych. Gwyddys iddo gael ei apwyntio i ysgol Dinbych cyn Chwefror 1656-7, o bosibl ychydig cyn hynny. Diswyddwyd ef yn 1660. Bu farw Awst 1673. Y cyntaf o'i
  • JONES, RICHARD (1772? - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor unig fab John a Margaret Prichard, Coed-cae-du, plwyf Llanystumdwy. Cafodd dymhorau byrion o ysgol o dan Robert Jones, Rhoslan, ym Mrynengan, ac wedyn gyda John Roberts, Llanllyfni. Bu hefyd am ddwy ysbaid yn ddisgybl i Evan Richardson yn Llangybi a Brynengan. Pan oedd yn 14 oed bu gorfod arno ymroddi i waith fferm. Ymhen rhyw ddwy flynedd profodd ddeffroad meddyliol, a'i hanes wedyn oedd darllen
  • JONES, RICHARD (1603 - 1655/6?) Llanfair Caereinion, clerigwr ac awdur Ganwyd 1603, yn fab i John Pew o Henllan, sir Ddinbych, yn ôl A. Wood, Athenae Oxionienses, a J. Foster, Alumni Oxonienses, ond John ap Hugh o Hendre Caerwys, Llaneurgain, Sir y Fflint, yn ôl Thomas, S. Asaph. Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddiodd yn B.A. yn Chwefror 1625-6 ac yn M.A. Gorffennaf 1628. Apwyntiwyd ef yn ficer Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, yn 1636, ond
  • JONES, RICHARD (Gwyndaf Eryri; 1785 - 1848), bardd, amaethwr, a saer maen Ganwyd yn Erw Ystyfflau, plwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon, yn niwedd 1785, yn fab John Jones a Margaret ei wraig; bedyddiwyd ef yn eglwys Llanwnda 29 Ionawr 1786. Bu farw 21 Mehefin 1848, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon. Eisteddfodwr hunan-ddiwylliedig hynod lwyddiannus ydoedd. Enillodd wobr y gadair yn eisteddfod Caernarfon 1821 am awdl ' Cerddoriaeth,' tlws y Gwyneddigion yn
  • JONES, RICHARD (1787 - 1856?), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau 1811 ac wedyn o 1819 hyd 1824. Argraffodd y cylchgronau hyn hefyd: (a) Cylchgrawn Cymru, (b) Y Dysgedydd Crefyddol, (c) Pethau Newydd a Hen, (ch) Tysor i Blentyn, (d) Yr Athraw, (dd) Trysorfa Rhyfeddodau, (e) Y Dirwestwr. Cyhoeddodd weithiau mwy eu maint, e.e. adargraffiad, 1815, o eiriadur Saesneg - Cymraeg John Walters, gweithiau cyflawn Josephus, 1819, Beibl yr esgob Morgan, 1821, a 17 rhan o
  • JONES, RICHARD (1848 - 1915), llyfrwerthwr teithiol Ganwyd 24 Awst 1848 yn Nhy'n-y-fron, Clipiau, Aberangell, Meirionnydd, yn fab i Richard Jones a'i wraig Lowri (ganwyd Hughes). Hanai ei fam o Gwmtirmynach, Y Bala. Bwriadodd ddilyn ei frawd hynaf, Robert, yn y weinidogaeth ond oherwydd afiechyd a diffygion addysgol bu'n rhaid iddo newid ei gynlluniau. Perswadiwyd ef gan gyfeillion i fynd yn llyfrwerthwr teithiol. Ymaflodd yn yr awgrym a daeth
  • JONES, ROBERT (1745 - 1829), athro, pregethwr, ac awdur Ganwyd 13 Ionawr 1745, mab John a Margaret Williams o'r Suntur, Llanystumdwy. Dysgwyd darllen iddo gan ei fam, a bu yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones a gedwid gan Thomas Gough. Llwyddodd Robert Jones i berswadio Madam Bevan i ailagor yr ysgolion cylchynnol yng Ngwynedd, a bu ef yn athro yn Llangybi (1766), Beddgelert (1767), Capel Curig (1768), Rhuddlan (1769), Brynsiencyn (1770
  • JONES, ROBERT (1806 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur Ganwyd yn Dolwenith, Llanllyfni, 14 Tachwedd 1806, mab hynaf John Evans, chwarelwr, a Mary ei wraig. Symudodd y teulu i Gae'rwaun yn yr ardal yn 1810, a gelwid Robert Jones ' Yr Hen Bencae'rwaun ' gan ei gydnabod. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd a chafodd flwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan oedd yn 12 oed. Cafodd gyfarwyddyd ar y pwnc o fedydd gan Alsi Hughes
  • JONES, Sir ROBERT (1857 - 1933), llawfeddyg orthopedig Ganwyd 28 Mehefin 1857 yn y Rhyl, mab Robert Jones, newyddiadurwr, a Mary Hughes, Rhuddlan. Pan oedd y mab yn bum mlwydd oed symudodd y tad i Lundain. Cafodd ei addysg yn Sydenham College ac wedyn bu'n astudio meddygaeth yn Lerpwl gan fyw yn 11 Nelson Street gyda'i ewythr, Dr. H. O. Thomas, i'r hwn hefyd y cafodd ei brentisio; pan fu farw ei dad ymhen dwy flynedd wedi hynny daeth cartref ei