Canlyniadau chwilio

1321 - 1332 of 2571 for "john hughes"

1321 - 1332 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, WILLIAM (1755 - 1821), clerigwr efengylaidd cyfaill i Thomas Charles; ganwyd yn y Fenni, 18 Tachwedd 1755, yn fab i John Jones, gwneuthurwr clociau. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1773 neu 1774, a bu yno hyd 1777 (yr oedd Charles yntau yno yn 1775, a geilw Jones ef ' my once very intimate friend'); dengys y dyddlyfrau a ddechreuodd yn Rhydychen ei fod yn burion ysgolhaig. Ddechrau 1778, aeth yn athro i deulu swyddog gwladol yn Jamaica
  • JONES, WILLIAM (1814? - 1895), gweinidog gyda'r mudiadau 'diwygiadol' ymhlith y Wesleaid, ac wedyn gyda'r Annibynwyr fugeiliaeth Hugh Hughes ('Huw Tegai'). Yn 1853 hefyd dechreuodd William Jones gyhoeddi cylchgrawn i'w enwad newydd, Gedeon (pedair cyfrol, 1853-6). Yn 1857 penderfynodd y ' Reformers,' fel enwad, ymuno â'r hen ' Wesleyan Methodist Association,' ond gymaint oedd atgasedd y ' Reformers' Cymreig at unrhyw fath o 'awdurdod' cymanfaol fel y penderfynasant sefyll allan. Yn 1858, cyfyngodd William Jones ei
  • JONES, WILLIAM (Bleddyn; 1829? - 1903), hynafiaethwr, hanesydd lleol, daearegwr, a chasglwr llên gwerin Ganwyd yn Beddgelert, mab John Jones, clochydd (y cyfeirir ato yn Charles Kingsley, Two Years Ago), a Chatrin Williams, ei wraig. Fe'i prentisiwyd yn ddilledydd yng Nghaernarfon yn 1841, ond ar wahân i ysbaid ym Mhorthmadog ymddengys mai yn Llangollen y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac yno y bu farw 30 Ionawr 1903. Bu'n gyd-fuddugol ag Owen Wynne Jones ('Glasynys') ar draethawd ar 'Hynafiaethau
  • JONES, WILLIAM (1834 - 1895), gweinidog gyda'r Bedyddwyr bregethwr hynod yn herwydd naws athronyddol ei bregethau. Golygwyd cyfrol o'r pregethau hyn gan T. T. Jones, Caerdydd, dan y teitl Yr Angel Mawr a'r Llyfr Bychan (Llangollen, 1899), a chyhoeddwyd pigion o'i ddywediadau dan y teitl Drychfeddyliau Detholedig (London, 1907). Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel 'Prometheus,' 'John Bunyan,' a 'Charles Dickens.'
  • JONES, WILLIAM (Ehedydd Iâl; 1815 - 1899), ffermwr a bardd Ganwyd 15 Awst 1815 yn Cefn Deulin, Derwen, sir Ddinbych. Ni chafodd ysgol o gwbl. Aeth tua 9 oed yn 'hogyn' i'r Llwyn Isaf, ac oddi yno at John Davies, Plas-yn-nerwen, lle y ' byddai yr hen ŵr a minnau yn prydyddu ei hochr hi.' Oddi yno aeth i'r Hendre, Gwyddelwern, lle y cafodd gopi o ramadeg ' Bardd Nantglyn,' ac ar ôl bod saith neu wyth mlynedd yma aeth i Lanelidan, yn hwsmon at Mrs. Davies
  • JONES, WILLIAM (1826 - 1899), ysgrifennydd y 'Peace Society,' ac olynydd Henry Richard; mab John Jones y Crynwr, Rhuthyn, a gorŵyr Jonathan Hughes y bardd. Bu yn ysgol y Crynwyr yn Ackworth. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn bennaeth comisiwn i ymgeleddu trigolion yr Almaen a dwyrain Ffrainc adeg y rhyfel a dorrodd allan yn 1870. Tua'r adeg yma daeth i gyffyrddiad â John Bright, a daeth y ddau yn gyfeillion mynwesol. Cafodd William Jones ymgom, ymysg eraill
  • JONES, WILLIAM ARTHUR (1892 - 1970), cerddor Ganwyd yng Nghaernarfon, 5 Ebrill 1892, yn fab i J. R. Gwyndaf Jones, darllenydd proflenni i'r Genedl, ac Elizabeth Jones ei wraig. Ar ochr ei dad yr oedd o linach Richard Jones, ' Gwyndaf Eryri ', a'i fam yn ferch i John Jones, ' Eos Bradwen '. Oherwydd cysylltiadau teuluol y fam fe'i hadweinid fel ' William Bradwen ' pan oedd yn blentyn ysgol, a mynnodd yntau lynu wrth yr enw hwnnw hyd derfyn
  • JONES, WILLIAM COLLISTER (1772 - ?), argraffydd hyd 1802. Prentis yn swyddfa Crane a Jones yng Nghaer oedd y Robert Saunderson a ddechreuodd argraffu dros Thomas Charles a Thomas Jones yn y Bala yn 1803; prentisiaid eraill oedd Thomas Gee a John Broster. Y mae'n debygol i W. C. Jones beidio ag argraffu llyfrau Cymraeg tua'r flwyddyn 1807.
  • JONES, WILLIAM GARMON (1884 - 1937), athro hanes, a llyfrgellydd Prifysgol Lerpwl ); ' Bosworth Field, an episode of Welsh history ' (Trans. Liverpool Welsh National Society), 1912; ' York and Lancaster ' (Bell's Source Books of English History); ' Welsh Nationalism and Henry Tudor ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1917-8). Yn 1923 priododd Eluned, unig ferch Syr John Edward Lloyd, Bangor. Bu farw 28 Mai 1937, a chladdwyd ef ym meddrod ei deulu ym mynwent Flaybrick
  • JONES, WILLIAM JOHN PHILPIN (1913 - 1992), cartwnydd gwleidyddol Ganwyd William John Philpin Jones (a elwid fel arfer yn John Jones) ar 17 Awst 1913 yn Roseleigh yn Llandrindod, Sir Faesyfed, yr ieuengaf o dri o blant John Jones (1875-1959), bwci, a'i wraig Mary (g. Johns, 1881-1948). Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Llandrindod, a chyhoeddwyd rhai o'i gartwnau cynnar yn y Radnor Express yn 1928. Yn 1932 dechreuodd astudio yn Ysgol Gelf Birmingham, ac wedyn
  • JONES, WILLIAM OWEN (1861 - 1937), gweinidog 'Eglwys Rydd y Cymry,' Lerpwl Ganwyd 7 Ebrill 1861, ym Mhenbryn, Chwilog, yn fab i Richard Jones, amaethwr, ac Ellen Hughes. Addysgwyd ef yn ysgolion Llanystumdwy, Holt, a Chlynnog. Yn Holt dechreuodd bregethu, ac aeth i Goleg y Bala, oddi yno i Goleg Bangor, ac i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, a graddio (1890) gydag anrhydedd mewn athroniaeth. Yn 1890 derbyniodd alwad eglwys Methodistiaid Calfinaidd Waunfawr, Arfon. Ymhen pum
  • JONES, WILLIAM ('Bill') RICHARD (1839 - 1889) Ganwyd William Jones ar 23 Chwefror 1839 yn Luzerne County, Pennsylvania, y pedwerydd o wyth o blant John Jones (1805-1853), gweithiwr haearn a gweinidog Anghydffurfiol a anwyd yn Aberhonddu, a'i wraig Magdalene, a anwyd yn Ystradgynlais yn 1809. Roedd ei rieni wedi ymfudo i Pennsylvania tua 1832, gan ymgartrefu yn y pen draw yn Catasauqua. Yn ddeng mlwydd oed, dechreuodd Jones weithio yng