Canlyniadau chwilio

1921 - 1932 of 2571 for "john hughes"

1921 - 1932 of 2571 for "john hughes"

  • PULESTON, Syr JOHN HENRY (1829 - 1908), bancer ac aelod seneddol Ganwyd 2 Mehefin 1829 ym Mhlas Newydd, Llanfair Dyffryn Clwyd, mab hynaf John Puleston, disgynnydd o Bulestoniaid Emral. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhuthyn a Choleg y Brenin, Llundain. Bu yn yr Unol Daleithiau am gyfnod a daeth yn hysbys yno rhwng 1856 a 1860 fel golygydd dau newyddiadur, ac wedi hynny fel bancer cyfrifol ac fel cyrnol anrhydeddus dan yr arlywydd Wilson yn y Rhyfel Cartref
  • PURNELL, THOMAS (1834 - 1889), awdur . Cyhoeddodd: Literature and its Professors, 1867; Dramatists of the Present Day, 1871; Correspondence and Works of Charles Lamb, 1871; To London and Elsewhere, 1881; The Lady Drusilla a Psychological Romance, 1886; Dust and Diamonds: Essays, 1888; a golygodd Historia Quatuor Regum Angliae (gan John Herd) i'r Roxburghe Club, 1868.
  • PYRKE, JOHN (1755 - 1834), trydydd gwneuthurwr gwaith japan ym Mrynbuga Daeth o Lundain (lle yr oedd yn gwerthu nwyddau japan - yn arbennig wrnau, tebotau mawrion) i Frynbuga yn 1799; yn 1814 daeth yn berchen gwaith japan Thomas Hughes (1740 - 1828). O dan Pyrke daeth y farnais ('lacquer') o liw siocoled tywyll yn boblogaidd - y 'lacquer' arbennig hwnnw y daeth llestri a phethau japan eraill Brynbuga yn enwog o'i blegid; yr oedd hefyd yn defnyddio 'papier-maché' fel
  • QUARRELL, THOMAS (bu farw 1709), pregethwr, Bedyddiwr rhydd-gymunol cyfarfodydd dirgel yn Eglwysilan, Llanedern, Meirin, a Bedwas. Yn 1670 cafodd ef (a dau arall) lythyr oddi wrth Vavasor Powell ychydig cyn ei farw yn amgau rhodd fechan o arian. Yn 1672, ar 25 Gorffennaf, cafodd drwydded i bregethu yn nhŷ John Maurice yn Shirenewton; yn 1675 rhydd Henry Maurice yn ei adroddiad le pur amlwg i Quarrell ymhlith Ymneilltuwyr Mynwy. Y mae'n eglur oddi wrth eiriau Maurice mai
  • RANDALL, HENRY JOHN (1877 - 1964), cyfreithiwr a hanesydd
  • RANDLES, EDWARD (1763 - 1820), telynor ac organydd dall Ganwyd yn Wrecsam, 1763, mab Edward Randles, cigydd yn y dref. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan John Parry, Rhiwabon. Yr oedd yn chwaraewr medrus ar yr organ, a phenodwyd ef yn organydd eglwys Wrecsam yn 1788. Cyfeiria George Thomson, Edinburgh, ato yn ei ragymadrodd i'w gyfrol Alawon Cymreig, 1809, fel telynor rhagorol. Bu ef a'i ferch Elizabeth Randles yn canu o flaen Siôr III a'r frenhines
  • teulu RAVENSCROFT Ravenscroft, Ravenscroft, nodwn ddau o feibion Ralph, sef (1) George a (2) John. (I) GEORGE RAVENSCROFT 'o Bretton,' mab hynaf y Ralph uchod; ohono ef y tardd rhes o uchelwyr blaenllaw yn eu sir; yr oedd ef yn fyw yn 1517, a'i fab THOMAS RAVENSCROFT yn fyw yn 1547. Mab hynaf Thomas Ravenscroft oedd GEORGE RAVENSCROFT, siryf 1578-9, a fu farw yn 1592 ac a goffeir (fel eraill o'r tylwyth) yn eglwys Penarlâg; bu'n aelod
  • RECORDE, ROBERT (c. 1512 - 1558), mathemategydd a meddyg Ganwyd Robert Recorde yn Ninbych-y-pysgod yn sir Benfro, yr ail o ddau fab Thomas Recorde o Ddinbych-y-pysgod a Ros Johns, merch Thomas ap John ap Sion, o Fachynlleth. Hon oedd ail briodas Thomas, ar ôl priodas fer a di-blant â Joan Ysteven o Ddinbych-y-pysgod. Etifeddodd Thomas Recorde fusnes masnachol a sefydlwyd yn y dref gan ei dad Roger Recorde. Mae'n bosibl bod Robert a'i frawd hŷn Richard
  • REES, ABRAHAM (1743 - 1825), gwyddoniadurwr Ganwyd yn 1743 yn nhŷ capel yr Annibynwyr, Llanbrynmair, mab y Parch. Lewis Rees ac Esther Penry. (Yn ei erthygl ar John Penry yn ei Cyclopaedia dywed Rees : ' The editor of this Cyclopaedia traces his genealogy, by the maternal branch, to the family of Mr. Penry. ') Bu am gyfnod cyn 1753 ym Mhencerrig, Llanelwedd, gyda John Evans, tiwtor preifat Thomas Jones, yr arlunydd (1742 - 1803). Cafodd ei
  • REES, ALAN WILLIAM (1941 - 2005), mynach Benedictaidd a cherddor Ganwyd Alan Rees yn Nhreforys, Abertawe, ar 1 Chwefror 1941, yn fab i John a Hilda Rees. Fe'i magwyd yn nhraddodiad y Bedyddwyr gan ei dad ac yn y traddodiad Anglicanaidd gan ei fam. Bu'n aelod o'r Eglwys yng Nghymru yn ei ieuenctid a glynodd wrth y traddodiad Eingl-Gatholig. Amlygodd ddiddordeb dwfn yn yr Eglwys Gatholig o oedran cynnar ac fe'i derbyniwyd i'r Eglwys yn ystod ei flwyddyn gyntaf
  • REES, BOWEN (1857 - 1929), cenhadwr ddechrau Gwrthryfel 1896, a dal i'w cefnogi wedyn, bu cryn lewyrch ar eu cenhadaeth dros ardal o faint Dyfed. Ceisiodd Bowen Rees amddiffyn yr Ndebele rhag rhaib y British South Africa Co. : rhoddodd wybodaeth i'r Crynwr, John Ellis A.S., aelod o'r Pwyllgor Ymchwil i'r Jameson Raid, a thystiolaeth i'r Aborigine Protection Society ar gyfer achos cyfreithiol a benderfynodd, yn 1918, nad oedd gan y cwmni
  • REES, BRINLEY RODERICK (1919 - 2004), ysgolhaig clasurol, addysgydd a phrifathro coleg prifysgol Ganwyd Brinley Rees 27 Rhagfyr 1919 yn y Ton-du, Penybont ar Ogwr, yn fab i John David Rees, dilledydd, a Mrs Mary Ann Rees (gynt Roderick). Symudodd y teulu i Aberhonddu, lle'r addysgwyd ef (1931-8) yng Ngholeg Crist. Dan hyfforddiant ysbrydoledig prifathro'r ysgol, y Parchg A. D. James, llwyddodd yn eithriadol mewn Groeg a Lladin a dyfarnwyd iddo yr ysgoloriaeth flaenaf yn y Clasuron yng