Canlyniadau chwilio

2089 - 2100 of 2563 for "john hughes"

2089 - 2100 of 2563 for "john hughes"

  • ROWLANDS, EURYS IONOR (1926 - 2006), ysgolhaig Cymraeg Ddarlithydd yn y Gymraeg a Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy yn Nghaerdydd lle'r arhosodd am 11 mlynedd. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd daeth yn amlwg ei fod yn dioddef gan afiechyd meddwl difrifol a chynyddol a'i gorfododd i ymadael â'i swydd. Cafodd Gymrodoriaeth Syr John Williams gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn ystod y flwyddyn academaidd 1972-3 i barhau â'i ymchwil a
  • ROWLANDS, Syr HUGH (1828 - 1909), cadfridog, a'r Cymro cyntaf i ennill Croes Victoria Ganwyd 6 Mai 1828 yn ail fab John Rowlands, Plastirion, Llan-rug, uchel siryf sir Gaernarfon yn 1832, ac Elizabeth ei wraig (gweler J. E. Griffith, Pedigrees … 289 am achau'r teulu Rowlands). Cafodd Hugh ei addysg yn ysgol ramadeg Biwmares, a phan oedd yn 21 oed prynodd gomisiwn yn y 41st Foot, sef y Gatrawd Gymreig. Bu'n gwasanaethu yn Iwerddon, ynysoedd Ionia (Groeg) a Malta cyn mynd yn 1854 i
  • ROWLANDS, JANE HELEN (Helen o Fôn”; 1891 - 1955), ieithydd, athrawes a chenhades (gyda'r MC) weinidog ar rai o eglwysi Saesneg Eglwys Bresbyteraidd Awstralia. Ef oedd dyfeisydd y Leeds Memory Method. Yr ail blentyn oedd Thomas John (' T.J. '), ysgolor o Goleg Iesu, Rhydychen, a raddiodd yn y clasuron. Er ei ordeinio gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru fe droes at yr eglwys esgobol gan ddod yn rheithor Llandudno a chanon yng nghadeirlan Bangor. Bu dylanwad ei gweinidog ym Mhorthaethwy, Thomas
  • ROWLANDS, JOHN (Giraldus; 1824 - 1891), achyddwr a hynafiaethydd Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun ganwyd yr hynafiaethydd hwn yn Nanteos Arms, Llanbadarn Fawr, Ceredigion. Bedyddiwyd ef yn eglwys y plwy hwnnw, 20 Mawrth 1824, gan William Herbert, curad, fel mab Lewis Rowland, Tynewydd, ac Anne ei wraig, merch John Griffiths, goruchwyliwr ar stad Nanteos. Yr oedd ei daid, Thomas Rowland, Ffynnon-wen, yn heliwr enwog ac ar delerau cyfeillgar â theulu Prysiaid
  • ROWLANDS, JOHN - gweler STANLEY, Syr HENRY MORTON
  • ROWLANDS, ROBERT JOHN (Meuryn'; 1880 - 1967), newyddiadurwr, llenor, bardd, darlithydd, pregethwr Meuryn yn olygydd ar y cyfan hyd ei ymddeoliad fis Mawrth 1954. Yr oedd hefyd wedi olynu ' Eifionydd ' (John Thomas) yn olygydd Y Geninen yn 1923 gan barhau hyd nes y peidiwyd â chyhoeddi'r cyfnodolyn yn 1928. Pan atgyfodwyd Y Geninen yn 1950 bu Meuryn yn ei gyd-olygu, gyda S.B. Jones, hyd ei farwolaeth 2 Tachwedd 1967. Fe'i claddwyd ym mynwent Caernarfon. Gwr gweddw ydoedd erbyn hynny: gadawodd 2 fab
  • ROWLANDS, ROBERT PUGH (1874 - 1933), prif lawfeddyg Ysbyty Guy Ganwyd yn Nhywyn, Meirionnydd, 27 Medi 1874 yn fab i John Rowlands. Pan oedd yn ddwy oed symudodd y teulu i fyw i Abaty Cymer, Dolgellau. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Llanelltyd ac ysgol ramadeg Dolgellau. Ar ddiwedd ei gyfnod yno llwyddodd i sicrhau lle iddo'i hun yn brentis am flwyddyn gyda'r Dr Hugh Pugh Rowlands. Yn Hydref 1892 cychwynnodd yn ysgol feddygol Ysbyty Guy, Llundain. Yno cafodd
  • ROWLANDS, WILLIAM (Gwilym Lleyn; 1802 - 1865), gweinidog Wesleaidd a llyfryddwr to the end of the eighteenth century; with biographical notices (Llanidloes, John Pryse, 1869). Ceir hefyd deitl Cymraeg sydd yn fwy cynhwysfawr - Llyfryddiaeth y Cymry: yn cynnwys hanes y llyfrau a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg, ac mewn perthynas i Gymru a'i thrigolion, o'r flwyddyn 1546 hyd y flwyddyn 1800; gyda chofnodau bywgraffiadol am eu hawduron, eu cyfieithwyr, eu hargraffyddion, a'u
  • ROWLANDS, WILLIAM (1807 - 1866), awdur, golygydd, gweinidog yr efengyl, a phrif sylfaenydd enwad y Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A. Ganwyd yn Calico Building, Llundain, 10 Hydref 1807, ei rieni yn frodorion o Dregaron, Sir Aberteifi. Bu yn ysgol Ystrad Meurig, mewn ysgol yn Nhregaron, ac yn ysgol ramadeg John Jones (Llanbadarn) yn Llangeitho. Yn 1824 aeth i ardal Merthyr Tydfil yn athro ysgol; bu hefyd yn athro yn Nantyglo. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1826, a bu'n llafurio fel cenhadwr ymhlith y
  • RUCK, AMY ROBERTA (1878 - 1978), nofelydd Lanbryn-mair oedd ei mam hi, a fedrai olrhain ei thras hyd at y bardd Dafydd Llwyd o Fathafarn o'r bymthegfed ganrif ac at John Jones Maes-y-garnedd, Meirionnydd, yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yn 1886, ar ôl cyfnod byr gyda'r Liverpool Volunteers, penodwyd Cyrnol Ruck yn Brif Gwnstabl Sir Gaernarfon ac fe ymgartrefodd y teulu yn Llwyn-y-brain, Llanrug. Addysgwyd Berta gartref i ddechrau, ond ar ôl tymor
  • RUMSEY, WALTER (1584 - 1660), barnwr Ganwyd yn Llanofer yn 1584 yn fab i John Rumsey a'i wraig Anne (David). Aeth i Gloucester Hall (Coleg Worcester heddiw), Rhydychen, yn 1600, ac i Gray's Inn (lle y codwyd ef wedyn, 1631, yn ' Bencher') yn 1603; galwyd ef i'r Bar yn 1608, a gwnaeth arian mawr. Yn 1631 penodwyd ef yn farnwr ar y gylchdaith dde-ddwyreiniol yn y Sesiwn Fawr; yr oedd yn aelod seneddol dros sir Fynwy yn y Senedd Fer
  • SALESBURY, HENRY (1561 - 1637?), gramadegydd Ganwyd ef ym mhlwyf Henllan, sir Ddinbych - yr oedd ei deulu'n gangen o hen deulu Llewenni. Graddiodd ym Mhrifysgol Rhydychen (S. Alban Hall). Bu'n astudio meddygaeth ac yn gwneud gwaith meddyg. Cyfeiria Dr. John Davies o Fallwyd ato fel ' medicus doctis annumerandus.' Yn 1593 fe gyhoeddodd ei ramadeg Cymraeg, Grammatica Britannica (Llundain). Ceir hanes hefyd am waith arall a ddechreuodd, sef