Canlyniadau chwilio

289 - 300 of 2563 for "john hughes"

289 - 300 of 2563 for "john hughes"

  • DAVIES, JOHN ELIAS (Telynor y Gogledd; 1847 - 1883) Ganwyd 20 Mawrth 1847, ym Methesda, Sir Gaernarfon. Derbyniodd ei addysg ar y delyn gan James Hughes ('Iago Bencerdd'), Trefriw, D. Morris, Bangor, a William Streatham, Lerpwl. Enillodd ar ganu'r delyn yn 12 oed yn eisteddfod Llangollen 1858, y prif wobrwyon yn eisteddfodau Conwy (1861), Caernarfon (1862), Rhyl (1863), Llandudno (1864), Fflint (1867), ac mewn amryw eraill. Yr oedd ganddo
  • DAVIES, JOHN EVAN (Rhuddwawr; 1850 - 1929), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor 'Ddarlithydd Davies' yn 1916. Sgrifennai lawer i'r Geninen, a dug allan Gyfrol Goffa James Hughes, 1911, a llyfrau eraill. Cystadleuai'n fynych mewn eisteddfodau, ac yn eisteddfod genedlaethol Llanelli, 1903, enillodd y goron. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth yn gyfrol, Blodau'r Grug, 1922.
  • DAVIES, JOHN GLYN (1870 - 1953), ysgolhaig, ysgrifennwr caneuon a bardd Ganwyd 22 Hydref 1870 yn 55 Peel St, Sefton Park, Lerpwl, yn fab i John a Gwen Davies. Masnachwr te oedd ei dad a'i fam yn ferch i John Jones, Tal-y-sarn; brodyr iddo oedd George Maitland Lloyd Davies, Stanley Davies, a'r Capten Frank Davies. Addysgwyd ef yn y Liverpool Institute. Bu'n gweithio gyda chwmnïau llongau hwylio Rathbone Brothers (1887-92) a'r Cambrian (1892-95), gyda Henry Tate & Sons
  • DAVIES, JOHN GRIFFITH (1836 - 1861), bardd a chyfieithydd Yr ail o bedwar o blant a fu i John [ George ] Davies ('Siôn Gymro'), Yetwen, Glandwr, Sir Benfro, a'i wraig Phoebe, merch J. D. Griffiths ac wyres y Parch. John Griffiths, Glandwr. Bu farw'r pedwar plentyn ym gymharol ifanc - Mary Ann yn 1860 yn 26, Elizabeth yn 1859 yn 19, David yn 1848 yn 5 oed, a John Griffith, a syrthiodd dros fwrdd y llong Hibernia yn agos i Lerpwl, 14 Mawrth 1861, pan oedd
  • DAVIES, JOHN GWYNORO (1855 - 1935), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd enwadol. Bu'n gadeirydd cyngor dinesig Abermaw am 17 mlynedd, ac yr oedd yn aelod o bron bob pwyllgor cyhoeddus yng Nghymru. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r Gwyddoniadur Cymreig, a chyhoeddodd Flashes from the Welsh pulpit, cyfrol yr ysgrifennodd Thomas Charles Edwards ragymadrodd iddi. Priododd (1) Mary, merch John Jones ('Ivon'), a (2), Jeannie Mary, merch William Watkin, Muriau, Cricieth.
  • DAVIES, JOHN HAYDN (1905 - 1991), athro a chôr-feistr Ei enw cofrestredig oedd John Davies, ond mynnodd modryb gyfeirio ato fel Haydn am ryw reswm, a glynodd yr enw: am weddill ei oes John Haydn Davies ydoedd i bawb. Fe'i ganwyd yn Heol Hendrewen, Blaencwm, Rhondda Fawr, ar 3 Chwefror 1905, yn fab i Daniel Davies (1881-1971), saer maen, a'i wraig Lucy (ganwyd Morgan, c.1881-1961). Symudodd ei rieni i'r Rhondda o Sir Gaerfyrddin cyn geni John a'i
  • DAVIES, JOHN HUMPHREYS (1871 - 1926), llyfryddwr, llenor, ac addysgwr Aberteifi ac yn drysorydd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd cyn cyrraedd ei 30 oed. Dyfnhawyd ei ddiddordeb ym mywyd a llenyddiaeth Cymru drwy ei gyfathrach yn Rhydychen ag O. M. Edwards ac wedi hynny â T. E. Ellis, ei frawd-yng-nghyfraith. Yn 1905 penodwyd ef yn gofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru, ac yn 1919 yn brifathro; daliodd y swydd honno hyd ei farw. Gyda Syr John Williams ac eraill yr
  • DAVIES, JOHN IDRIS (Ioan Idris; 1821 - 1889), bardd Ganwyd yn y Bala, mab John Davies, llyfr-rwymwr a gwerthwr llyfrau a phapurau. Cafodd y mab beth ysgol yn Nolgellau a'i brentisio wedi hynny gyda'i ewythr, Morris Davies ('Meurig Ebrill'), saer coed, a ddysgodd iddo, megis y gwnaeth John Jones ('Idris Fychan'), reolau barddoniaeth. Yn 21 oed ymfudodd i Utica, N.Y., ac wedyn i Cambria, Wisconsin, ac yn ddiweddarach, sef yn 1868, i Judson
  • DAVIES, JOHN LLEWELYN (1826 - 1916), cyfieithydd, caplan, ac un o ddringwyr cynnar mwyaf llwyddiannus yr Alpau Mab John Davies, offeiriad ac athronydd. Yr oedd yn gymrawd o Goleg y Drindod, Caergrawnt, 'Hulsean Lecturer' yn y brifysgol honno, 'Lady Margaret Preacher' yn Rhydychen, yntau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cwestiwn addysg uwch i ferched, a chyfaill Frederick Denison Maurice; y mae'n adnabyddus iawn fel cyd-gyfieithydd Gwladwriaeth Platon. Yr oedd yn un o 31 aelod gwreiddiol y Clwb Alpaidd ac
  • DAVIES, JOHN LLEWELYN (1826 - 1916), Cymrawd o Goleg y Drindod, Caergrawnt - gweler DAVIES, JOHN
  • DAVIES, JOHN LLOYD (1801 - 1860) Blaendyffryn, Alltyrodyn,, aelod seneddol Ganwyd yn Aberystwyth ar 1 Tachwedd 1801. Hyfforddwyd ef yn y gyfraith ac erbyn ei fod yn 24 mlwydd oed yr oedd wedi ymrestru'n gyfreithiwr yng Nghastellnewydd Emlyn. Yn 1825 priododd Anne, merch John Lloyd, Alltyrodyn, a thrwy'r briodas yr etifeddodd yr ystad honno. Priododd yr eilwaith yn 1857 ag Elizabeth Bluett, unig ferch Thomas Bluett Hardwicke, Tytherington Grange, sir Gaerloyw. Yr oedd yn
  • DAVIES, JOHN OSSIAN (1851 - 1916), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur