Canlyniadau chwilio

61 - 72 of 2563 for "john hughes"

61 - 72 of 2563 for "john hughes"

  • BELL, Syr HAROLD IDRIS (1879 - 1967), ysgolhaig a chyfieithydd Ganwyd 2 Hydref 1879 yn Epworth, swydd Lincoln, yn fab i Charles Christopher Bell a Rachel (ganwyd Hughes). Yr oedd ei daid o ochr ei fam, John Hughes, yn hanu o Ruddlan, ac yn Gymro Cymraeg. Cafodd Bell ei addysg yn Ysgol Uwchradd Nottingham, ac yn 1897 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Oriel, Rhydychen, lle graddiodd yn y clasuron. Yna treuliodd flwyddyn ym Mhrifysgol Berlin a Phrifysgol Halle yn
  • BELL, RONALD MCMILLAN (1914 - 1982), gwleidydd Ceidwadol Ganed ef yng Nghaerdydd ar 14 Ebrill 1914, yn fab i John Bell. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg Magdalene, Rhydychen, lle graddiodd yn BA ym 1936 ac MA ym 1942. Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Geidwadol Prifysgol Rhydychen ym 1935 ac Ysgrifennydd a Thrysorydd Undeb Rhydychen ym 1935-36. Galwyd Bell i'r bar o Gray's Inn ym 1938 a gwasanaethodd
  • teulu BERRY (Arglwyddi Buckland, Camrose a Kemsley),, diwydianwyr a pherchnogion papurau newyddion Dyrchafwyd yn arglwyddi bob un o dri mab JOHN MATHIAS BERRY (ganwyd 2 Mai 1847 yng Nghamros, Penfro; marw 9 Ionawr 1917) a'i briod Mary Ann (ganwyd Rowe, o Ddoc Penfro), a symudodd i Ferthyr Tudful yn 1874. Gweithiai J. M. Berry ar y rheilffordd ac fel cyfrifydd cyn cychwyn busnes yn 1894 fel arwerthwr a gwerthwr eiddo. Ef oedd y maer yn 1911-12 pan ymwelodd y Brenin Siôr V â'r dref. Gosodwyd
  • BERRY, JOHN MATHIAS (1847 - 1917) - gweler BERRY
  • BERRY, ROBERT GRIFFITH (1869 - 1945), gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd Ganwyd yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, 20 Mai 1869, yn fab i John Berry a Margaret Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol genedlaethol, a'r ysgol ramadeg yn Llanrwst. Cafodd ei dderbyn yn aelod o gapel Annibynnol y Tabernacl dan weinidogaeth Thomas Roberts. Oddi yno aeth, gydag ysgoloriaeth, i goleg y Brifysgol, Bangor, lle y cymerodd hanner gyntaf gradd B.A. (Prifysgol Llundain); yn 1892 aeth
  • BERTIL, Y DYWYSOGES LILIAN (DUGES HALLAND), (1915 - 2013) Ganed y Dywysoges Lilian, priod y Tywysog Bertil o Sweden, yn Lillian May Davies yn nhy ei mamgu a'i thadcu 3 Garden Street, Abertawe, 30 Awst 1915, fis neu ddau wedi priodas ei rhieni. Ei thad oedd William John Davies, (1893-1956), York Street, Abertawe, a Gladys Mary (Curran), (c.1895-1942) oedd ei mam, merch William Curran, labrwr yn y gwaith olew, a'i wraig Jane. Gwasanaethodd W. J. Davies ym
  • BEVAN, ANEURIN (1897 - 1960), gwleidydd ac un o sylfaenwyr y Wladwriaeth Les Ganwyd 15 Tachwedd 1897 yn 32 Charles Street, Tredegar, Mynwy, y chweched o ddeg plentyn David Bevan a Phoebe ei wraig, merch John Prothero, gof lleol. Yr oedd David Bevan yn löwr ac yn Fedyddiwr, yn hoff o lyfrau a cherddoriaeth a chafodd ddylanwad sylweddol ar ei fab. Aeth Aneurin Bevan i ysgol elfennol Sirhywi, ond nid oedd yn hoff o'r ysgol a gadawodd yn 1910. Eto benthycai lyfrau o Lyfrgell
  • BEVAN, BRIDGET (Madam Bevan; 1698 - 1779), noddwraig ysgolion cylchynol Merch ieuengaf John ac Elizabeth Vaughan, Cwrt Derllys, sir Gaerfyrddin. Bedyddiwyd hi 30 Hydref 1698 yn Eglwys Merthyr gan y rheithor, Thomas Thomas. Yr oedd, yn ôl pob tebyg, yn adnabod Griffith Jones, Llanddowror, yn ieuanc, am fod ei thad yn drefnydd ysgolion S.P.C.K. yn Sir Gaerfyrddin o 1700 hyd 1722, a Griffith Jones yn gofalu am ysgolion yn Lacharn (1709) a Llanddowror (1716); hefyd
  • BEVAN, SILVANUS (fl. 1715-1765), meddyg a Chrynwr iddo) drosodd gan ei frawd TIMOTHY BEVAN 1704 - 1786, a briododd Hannah, ferch John Gurney. Mab iddynt hwy oedd JOSEPH GURNEY BEVAN (1753 - 1814), a ddaliodd ymlaen gyda'r busnes ond sy'n fwy adnabyddus fel amddiffynnydd daliadau'r Crynwyr - y mae ysgrif arno yn y D.N.B.
  • BEVAN, THOMAS (Caradawc, Caradawc y Fenni; 1802 - 1882), hynafiaethydd adnabyddid fel Llanelly Works). Yno daeth i gyffyrddiad a nifer o Gymry a oedd yn ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru a'r eisteddfod - David Lewis (mab y Parch. James Lewis, Llanwenarth), Thomas Williams ('Gwilym Morganwg'), a John Morgan (y 'Rhifyddwr Egwan' yn Seren Gomer). Daeth i ymgydnabyddu ag arddull lenyddol trwy ddilyn dadleuon Thomas Price ('Carnhuanawc') a David Owen ('Brutus') ar dlodi'r iaith a
  • BEYNON, ROSSER (Asaph Glan Tâf; 1811 - 1876), cerddor Ganed yng Nglyn Eithinog, Glyn Nedd, Morgannwg, mab John ac Elizabeth Beynon. Yn 1815 symudodd y tad a'r fam a saith o blant i fyw i Merthyr Tydfil. Cafodd Rosser ychydig addysg yn ysgol George Williams, ond aeth i weithio i'r gwaith haearn yn 8 oed, a dringodd i fod yn is-oruchwyliwr yno. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a thrwy lafurio yn galed i'w ddiwyllio ei hunan daeth yn
  • BEYNON, THOMAS (bu farw 1729), gweinidog Gweinidog cyntaf eglwys Annibynnol Brynberian (Nanhyfer) a chynulleidfaoedd eraill yn y cyffiniau. Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond yr oedd ganddo fab yn Academi Brynllywarch mor fore â 1696; dywedir mai yn 1690 y codwyd capel Brynberian. Ymddengys enw Beynon yn rhestr John Evans (1715); ychwanegir mai yn Rhydlogyn gerllaw Aberteifi y preswyliai, ac iddo farw ym Mehefin 1729. Yn D. M. Lewis