Canlyniadau chwilio

949 - 960 of 2571 for "john hughes"

949 - 960 of 2571 for "john hughes"

  • IEUAN DYFI (1461? - 1500) Nid oes dim ar gael ynghylch hanes bywyd y bardd hwn, ac ychydig, ysywaeth, yw'r ffeithiau a geir o'i ganu ef ei hun. Prydydd o Aberdyfi ydoedd a flodeuai tua 1490, yn ôl Dr. John Davies o Fallwyd. Bardd serch yn anad dim ydoedd, yn canu i ferch o'r enw Anni Goch. Canodd gywydd i brofi cymaint twyll gwragedd drwy'r oesoedd, a chan amled copïau ohono mewn llawysgrifau gwelir iddo ennill cryn
  • INNES, JAMES DICKSON (1887 - 1914), arlunydd Ganwyd 27 Chwefror 1887 yn Llanelli. Ef oedd yr ieuengaf o feibion John Innes, cyfrifydd, a'i wraig Alice Anne Mary (née Rees). Addysgwyd ef yng ngholeg Crist, Aberhonddu, ac yna yn ysgol arlunio Caerfyrddin. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol arlunio Slade yn Llundain yn 1905, a threuliodd ddwy flynedd yno. Ni bu erioed yn gryf ei iechyd ac yn 1908 sylweddolwyd mai'r darfodedigaeth oedd yn peri hynny
  • INNES, JOHN (Ynys Hir; 1853? - 1923), cyfrifydd a hynafiaethydd a anwyd yn Campbelltown, swydd Argyle, yn yr Alban. Penodwyd ei dad, Robert Vertue Innes, yn gasglwr tollau dros ranbarth de Cymru yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a chymerodd ran amlwg yn sefydliad ysgol uwchradd yn y dref tua 1863. Cyfrifydd oedd John Innes yng ngwasanaeth y Mri. Nevill Druce, yn Llanelli. Ar 9 Awst 1883 yn eglwys yr Holl Saint, Llanelli, priododd ag Alice Ann Mary, unig blentyn y
  • IORWERTH ap MADOG (fl. 1240?-68), gŵr cyfraith a enwir yn fynych mewn amryw lawysgrifau o 'Ddull Gwynedd' y cyfreithiau Cymreig Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn ' Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ', a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog (fl. c. 1237), perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd, A History of Wales, 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu (9ed ganrif), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, teulu a
  • IORWERTH FYNGLWYD (fl. c. 1480-1527), bardd ap Siôn o Aberpergwm wedi i'r gŵr hwnnw golli ei dreftadaeth am gyfnod a gorfod myned ar herw. Dyma rai o'r cywyddau mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn yr 16eg ganrif, a dyfynnir ohonynt yng nghasgliad y Dr. John Davies o linellau trawgar o weithiau'r beirdd, sef y Flores Poetarum Britannicorum, 1710. Ceisiodd ' Iolo Morganwg ' ei wneuthur yn saer cerrig enwog, un o hynafiaid y seiri honedig hynny
  • JACKSON, Sir CHARLES JAMES (1849 - 1923), gwr busnes a chasglwr , Caergrawnt ond symudodd i Brifysgol Rhydychen lle y bu'n ddarlithydd o 1934 hyd 1937 ac yn Athro Spectromeg o 1947 hyd 1957. Ar gyfrif ei waith gwyddonol sylweddol etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1947. Priododd â Poppet, merch Augustus John, yn 1931. Ei ail wraig, a briododd yn 1936, oedd Pamela Freeman-Mitford, un o'r chwiorydd Mitford enwog; ysgarwyd hwy yn 1951. Janetta, cyn-wraig
  • JAMES, ANGHARAD (fl. 1680?-1730?), prydyddes Roedd yn byw yn y Parlwr, Penanmaen, Dolwyddelan. Rhoddir peth o'i hanes gan Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn, pen. 1. Yno dywedir mai merch oedd hi i James Davies ac Angharad Humphreys, Gelli Ffrydau, Llandwrog, Sir Gaernarfon, ei bod hi'n 20 oed pan briodwyd hi â William Prichard, a oedd yn 60 mlwydd oed ar y pryd, iddi gael addysg dda a dyfod yn hyddysg yn yr iaith Ladin, ei bod yn
  • JAMES, CARWYN REES (1929 - 1983), athro, chwaraewr a hyfforddwr rygbi chwarae ond hefyd yn yr ystafell ddosbarth. Uchafbwynt ei yrfa fel hyfforddwr oedd Seland Newydd yn 1971 pan enillodd y Llewod eu hunig gyfres erioed yno; cafwyd dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal mewn pedwar prawf. Gyda Doug Smith yn rheolwr a John Dawes yn gapten, llwyddodd i asio rygbi agored gyda'r seicoleg a ddatblygwyd yn ystafell newid y Strade. Gwyddai fod sawl carfan dalentog wedi dychwelyd o
  • JAMES, DAVID (Defynnog; 1865 - 1928), athro, addysgydd a threfnydd Ysgolion haf, ac awdur astudiaeth o ' Kymric Literature ' ac yn Eisteddfod Bangor (1902) dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo am ymdriniaeth feirniadol ar nofelau Daniel Owen. Derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd ac yn feirniad cenedlaethol. Treuliodd gyfnodau fel ysgolfeistr yn Eglwyswrw, Cwmifor, Templeton, Pupil Teacher Centre, Rhondda, Dwn-rhefn a Threherbert (1908-26). Er ei fod yn fathemategydd da, fel ei frawd John, troes ei
  • JAMES, Syr DAVID JOHN (1887 - 1967), gŵr busnes a dyngarwr Ganwyd ef 13 Mai 1887 yn Llundain yn un o ddau o feibion i Cathryn (ganwyd Thomas) a John James. Dychwelodd y teulu i'r hen gartref ym Mhantyfedwen, Pontrhydfendigaid, Ceredigion, pan oedd y ddau fachgen yn ifanc. Yn 1903 aeth i goleg S. Ioan, Ystrad Meurig, ar gyfer paratoi i fynd i'r weinidogaeth ond bu yno am dymor yn unig. Dychwelodd i Lundain i ofalu am fusnes laeth y teulu a threuliodd
  • JAMES, EDWARD (1569? - 1610?), clerigwr a llenor Gorffennaf 1603, ac yn ganghellor Llandaf yn 1606. Yn 1606 cyfieithodd Certain Sermons or Homilies i'r Gymraeg, o dan y teitl Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i'r bobl annyscedig. Gwedi eu troi i'r iaith Gymeraeg drwy waith Edward James … 1606. Cyhoeddwyd ail arg. o'r Homiliau gan John Roberts, Tremeirchion, yn 1817, a trydydd arg. yn 1847
  • JAMES, EDWARD (1839 - 1904), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Llanfachraeth, Môn, 12 Mehefin 1839, yn blentyn hynaf John a Margaret James, a brawd O. Waldo James. Ymaelododd ym Modedern yn 1853, a chodwyd ef i bregethu yn y Tabernacl, Caergybi, yn 1858, dan weinidogaeth William Griffith. Yn 1859, ar gais ei gyfaill William Ambrose ('Emrys'), Porthmadog, aeth i'r Gorseddau, ger Penmorfa, Sir Gaernarfon, i bregethu a chadw ysgol i'r gweithwyr llechi