Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 18 for "Breese"

1 - 12 of 18 for "Breese"

  • AMBROSE, WILLIAM (Emrys; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor masnachdy yn Lerpwl. Ymaelododd yn y Tabernacl, Great Crosshall Street, o dan weinidogaeth John Breese. Yn 1834 aeth i Lundain i wasanaethu mewn masnachdy yn Borough Road. Ymunodd ag eglwys y Boro ac yno y dechreuodd bregethu ac ymddiddori mewn cyfansoddi barddoniaeth. Ymhen rhyw ddwy flynedd dychwelodd adref gyda'r bwriad o ymsefydlu mewn masnach ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Lerpwl. Yn y cyfamser, fodd
  • BREESE, CHARLES EDWARD (1867 - 1932), cyfreithiwr - gweler BREESE, EDWARD
  • BREESE, EDWARD (1835 - 1881), hynafiaethydd Ganwyd yng Nghaerfyrddin 13 Ebrill 1835, mab John Breese, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a Margaret, merch David Williams, Saethon, Llŷn. Gwnaeth marw ei dad yn 1842 beri i dylwyth ei fam, a oedd yn ddylanwadol yn ne sir Gaernarfon, gymryd gofal ohono. Yr oedd ei ewythr David Williams (eisoes wedi llwyddo i raddau helaeth iawn yn ei yrfa fel cyfreithiwr) yn abl i'w helpu mewn modd sylweddol; aeth y
  • BREESE, JOHN (1789 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr a sgrifennodd John Roberts, Llanbrynmair i bleidio'r 'System Newydd' sef Galwad Ddifrifol a ddaeth i'w hadnabod fel 'Y Llyfr Glas.' Mab iddo oedd yr hynafiaethydd Edward Breese.
  • DAVIES, EVAN (Eta Delta; 1794 - 1855), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 1794 yn y Cefn, Llanbrynmair, nai i'r Parch. Thomas Davies, Llanuwchllyn. Addysgwyd ef yn athrofa y Drenewydd. Dechreuodd ei yrfa fel cenhadwr cartrefol yng nghymdogaeth Bilston. Bu flwyddyn yng ngwasanaeth eglwys y Tabernacl, Lerpwl, yn absenoldeb y gweinidog, J. Breese. Urddwyd ef yn weinidog yn Llanrwst yn 1827. Symudodd i Lannerchymedd yn 1834 ac yn 1841 i Drelawnyd, lle yr arhosodd
  • DAVIES, JOHN BREESE (1893 - 1940), llenor, cerddor ac arbenigwr ym maes cerdd dant ) ac ar ' Alun ' (1924), ynghyd a llawer o ysgrifau yn Yr Eurgrawn a'r Cerddor. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn y gyfrol Ysgrifau John Breese Davies ym 1949. Fel llenor, meddai ar arddull raenus, medrusrwydd celfydd, cynildeb ymadrodd a chyfoeth o rinweddau'r gwir ysgolhaig. Ef ydoedd ysgrifennydd pwyllgor llên yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth yn 1937, ac y mae ei ysgrif ar fro Ddyfi fel
  • DAVIES, THOMAS (TEGWYN; 1831 - 1924), teiliwr, casglwr llyfrau a llenor Ganed Thomas Tegwyn Davies ar 11 Tachwedd 1851, yn y Ty Gwyn, Abercywarch, yn fab i Hugh ac Elizabeth Davies. Yr oedd ei wraig, Elisabeth, yn hanfod o deulu Breesiaid Llanbryn-mair, a'i fab John Breese Davies yn arbenigwr ym maes cerdd dant. Teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth; ymhlith y tai y gweithiai ynddynt (yn ôl yr hen arfer) yr oedd rheithordy Llan-ym-Mawddwy yng nghyfnod D. Silvan Evans
  • GRUFFUDD GRYG (fl. ail hanner y 14eg ganrif), bardd ,' a'i golerwisg o arian, a'i fod uwch ben eraill yng Ngwynedd. Yn ôl Breese (Kalendars of Gwynedd, 49) apwyntiwyd ef yn siryf Caernarfon yn 1351, a bu yn y swydd hyd 1359. Teg amseru'r cywydd yn y cyfnod hwn, neu'n fuan wedi. Os Gruffudd Gryg biau'r farwnad i Rys ap Tudur ' cun (h.y. pennaeth) Môn ' a urddaswyd gan Risiart frenin, ac a benodwyd yn ' Geidwad Ceirw Eryri,' rhaid credu iddo fyw hyd
  • HUGHES, DAVID (1800 - 1849), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Amlwch, sir Fôn, mab amaethwr cefnog. Cafodd addysg dda yng nghylch ei gartref; bu hefyd mewn ysgol yn Lerpwl. Ymaelododd yng nghapel y Tabernacl, Lerpwl, o dan weinidogaeth John Breese, a dechreuodd bregethu yno. Wedi iddo fod yng Ngholeg Caerfyrddin, 1824-28, urddwyd ef yn weinidog eglwys Heol y Felin, Casnewydd-ar-Wysg, 1 Ionawr 1829. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach urddwyd ef (11-13
  • JONES, JOHN (Myrddin Fardd; 1836 - 1921), llenor, hynafiaethydd, a chasglwr hen lythyrau a llawysgrifau gofnodion cerrig-beddau. Ymwelai hefyd â llyfrgelloedd fel Peniarth i gopïo llawysgrifau a chronicïau gwahanol ardaloedd, a throsglwyddodd lawer o'r copiau hyn i'r prifathro J. H. Davies, Aberystwyth, ac Edward Breese, Porthmadog. Y mae llawer o'i ysgriflyfrau a chasgliadau o'i lythyrau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Gwnaeth lawer o waith i gynorthwyo ysgolheigion a llenorion Cymraeg yn
  • JONES, JOHN EDWARD (Iorwerth Twrog; 1886 - 1934), ysgolfeistr, bardd, a datgeiniad gyda'r tannau fri ac urddas ar y gelfyddyd. Bu'n feirniad yn yr eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd lawer o wobrwyon. Yn 1922 ysgrifennodd ddeuddeg o wersi rhagorol ar ganu penillion yn Y Winllan a chyhoeddwyd hwynt gan Adran Athrawon Meirionnydd yn llyfr dan yr enw Swyn y Tannau, yn cynnwys hefyd osodiadau J. E. Jones gyda nodiadau gan Mr. J. Breese Davies ac ysgrif goffa gan y Parch. Evan Roberts. Aeth i
  • teulu LLOYD Rhiwaedog, Rhiwedog, LLOYD, Rhiwaedog, oedd siryf tymor 1764-5; bu'r olaf farw yn 1774 a'i ddilyn yn Rhiwaedog gan ei nai, WILLIAM LLOYD DOLBEN, mab ei chwaer (Susan Dolben). Dywed W. W. E. Wynne (E. Breese, Kalendars of Gwynedd) fod siryf 1831-2, sef Hugh Lloyd, Caer a Chefnbodig, yn disgyn yn uniongyrchol o hen deulu Rhiwaedog. Nai i Hugh Lloyd, sef George Price Lloyd, Plasyndre, Bala, oedd siryf 1840-1 a nai iddo yntau