Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 4737 for "Dafydd Jones o Drefriw"

25 - 36 of 4737 for "Dafydd Jones o Drefriw"

  • ALLCHURCH, IVOR JOHN (1929 - 1997), pêl-droediwr Ganwyd Ivor Allchurch ar 16 Hydref 1929 yn 66 Heol Waun-wen, Abertawe. Ef oedd y chweched o saith o blant Charles Wilfred Allchurch (1894-1956) a'i wraig Mabel Sarah (ganwyd Miller; 1895-1982), ill dau 'n hanu 'n wreiddiol o Dudley yng ngorllewin Canolbarth Lloegr. Bu ei frawd iau Leonard 'Len' Allchurch, (1933-2016) hefyd yn bêl-droediwr proffesiynol adnabyddus a chwaraeodd dros Gymru. Roedd eu
  • ALLEN, JAMES (1802 - 1897), deon Tyddewi a hynafiaethydd , 1847-1870, canghellor a chanon preswyl Tyddewi, 1870-8, a deon gwladol Pebidiog, 1875; a bu'n ddeon eglwys gadeiriol Tyddewi, 1878-1895. Priododd Isabella Dorothea, ferch Peter R. Hoare, Kilsey Hall, swydd Caint. Yr oedd yn hynafiaethydd da ac yn aelod selog o'r 'Cambrian Archaeological Association.' Rhoes lawer o'i amser a'i arian tuag at y gwaith o adnewyddu'r eglwys gadeiriol (yn arbennig rhan o
  • ALLEN, JOHN ROMILLY (1847 - 1907), hynafiaethydd Ganwyd yn Llundain, 9 Mehefin 1847, o hen deulu Alleniaid Cresselly, Sir Benfro, yn ddyledus yn ddiau am ei ail enw i'r ffaith i'w daid briodi nith Syr Samuel Romilly. George Baugh Allen, Cilrhiw, gerllaw Llanbedr Efelffre, oedd ei dad, a'i fam yn ferch Roger Eaton, Parc Glas, gerllaw Crinow. Ar ôl cael addysg yn Rugby a King's College, Llundain, dewisodd y mab beidio â dilyn esiampl ei dad, a
  • ALLEN, ROBERT (1847 - 1927), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 5 Ionawr 1847 yn Llanelli, mab John Allen o Gastellnedd, a'i wraig o Gilrhedyn, Castellnewydd Emlyn, ond ym Morgannwg y'i magwyd ac y gwersyllodd. Ym Mlaenycwm y'i bedyddiwyd, yng Nghwmafon y dechreuodd bregethu, ym Mryntroedgam, 17 a 18 Hydref 1880, yr urddwyd ef. Bu yno saith mlynedd, yna Pontrhydyfen, 1887-1890, Capel Rhondda, 1890-2, Calfaria, Maesteg, 1892-1908, a Philadelphia, Cwm
  • teulu ALLGOOD Cysylltir teulu o'r enw hwn am dros 150 mlynedd â'r diwydiant japanio ym Mhontypwl a Brynbuga (Usk). Cychwyn yr olyniaeth gyda THOMAS ALLGOOD I (c. 1640 - 1716), Crynwr o swydd Northampton, a ddaeth ar wahoddiad ei gyfaill Richard Hanbury i sefydlu gwaith copperas ym Mhontypwl. Troes ei egnïon at y posibilrwydd o gynhyrchu lacar o gynyrchion eilraddol glo. Bu farw 8 Mai 1716, ac fe'i claddwyd ym
  • teulu ALMER Almer, Pant Iocyn, Yr oedd y teulu yn disgyn yn llinell ddidor o Ithel Eunydd, ail goncwerwr gwlad Dinbych y sydd i'r dwyrain o'r Clawdd (sef Clawdd Offa). Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan JOHN ALMER, gŵr a ddaliai swydd heb fod yn bwysig yn llys Harri VIII ac a drefnodd i'w feibion John a William gael eu dewis yn rhingylliaid-ag-arfau. Rhwng 1554 a 1558 chwalwyd Almer i'r llawr a chludwyd ei feini a'u defnyddio
  • AMBROSE, WILLIAM (Emrys; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor Mangor. Buasai ei fam yn aelod yn Ebeneser gyda'r Dr. Arthur Jones, ond ymadawodd gydag eraill a sefydlu eglwys arall, Bethel (1843-55); bu hi farw yn 1853. Yn y Penrhyn Arms Inn, cartref cyntaf Coleg y Gogledd, yr oeddynt yn byw o 1813 hyd 1823, ac yno y ganwyd 'Emrys'. Addysgwyd 'Emrys' yn Ysgol y Friars ac wedi hynny yng Nghaergybi yn ysgol W. Griffith. Tua 1828 aeth yn brentis o ddilledydd mewn
  • AMBROSIUS AURELIANUS (fl. c. 475), tywysog neu bennaeth Prydeinig Yn ôl Gildas - y sydd y tro hwn heb ddilyn ei arfer o adael allan enwau personol - yr oedd Ambrosius Aurelianus yn disgyn o dras Rhufeinwyr enwog a fu mewn awdurdod dros Brydain yn eu dydd ond a fuasai farw yn yr ornest yn erbyn goresgynwyr o Saeson. Er ei fod yn ŵr heb uchelgais, fe'i tynnwyd gan y Brythoniaid, pan oedd yn gyfyng arnynt, i ganol y gwrthdaro, ac o dan ei arweiniad ef fe gafwyd
  • ANARAWD ap GRUFFYDD (bu farw 1143), tywysog , gyda'i frawd Cadell, ymunodd Anarawd ag Owain a Chadwaladr, a oedd y pryd hwn ag awdurdod ganddynt ar Geredigion, i ymosod ar gastell Aberteifi, a ddelid o hyd gan y Normaniaid; daeth llu cryf o longau'r Vikingiaid i aber Teifi i gynorthwyo'r ymgyrch; eithr cytunwyd ar heddwch a pheidiwyd â rhyfela. Ceir Anarawd eto'n ochri gyda gwŷr y Gogledd yn 1140 pan apeliodd Owain a Chadwaladr at yr esgob Bernard
  • ANARAWD ap RHODRI (bu farw 916), tywysog Mab hynaf Rhodri Mawr. Pan laddwyd ei dad yn 878 gan wŷr Mercia daeth Anarawd yn bennaeth Môn a rhannau cyfagos Gwynedd. Efe, yn ddiau, oedd y gorchfygwr yn y frwydr ar lannau'r Conwy yn 881 - buddugoliaeth a gyfrifai'r Cymry yn arwydd o ddial Duw am Rodri. Ar y cyntaf ceisiodd Anarawd ei nerthu ei hun trwy ymuno â brenhiniaeth Ddanaidd York; ond ni fu'r ymuno o fawr fudd iddo a throes yn hytrach
  • ANDREAS O FÔN - gweler BRERETON, ANDREW JONES
  • ANDREWS, JOSHUA (c.1708 - 1793), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Nid yw hanes ei ddechreuadau'n hysbys; ond yn 1732 neu 1733 daeth yn aelod o eglwys Miles Harri ym Mhen-y-garn. Yn 1736 aeth i Academi Bryste; yr oedd yn un o chwech o Gymry yno - un arall oedd Caleb Evans. Dychwelodd i bregethu'n gynorthwyol ym Mhen-y-garn; a thua 1740 urddwyd ef yn gydweinidog â Miles Harri, a gofal neilltuol yr achos ym Mryn Buga arno; ond nid oedd ei ddoniau'n boblogaidd