Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 818 for "Henry Parry"

25 - 36 of 818 for "Henry Parry"

  • JONES, WILLIAM (1896 - 1961), bardd a gweinidog Ganwyd 24 Medi 1896, Trefriw, Caernarfon, mab Henry Jones, gweinidog (A) a'i wraig Margaret (Madgie), merch William Jones, gweinidog (MC) Trawsfynydd. Addysgwyd ef yn ysgol sir Llanrwst (1908) ac aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1914 a Choleg Bala-Bangor 1914-16. Graddiodd yn y Gymraeg a Hebraeg yn 1917. Ordeiniwyd ef yn weinidog y Tabernacl (A), Betws-y-coed yr un flwyddyn ond
  • PARRY, JAMES RHYS (fl. 1570?-1625?), bardd a droes rai o'r salmau ar gân yn Gymraeg Ni wyddys mo flwyddyn ei eni nac amser ei farw, eithr gellir barnu ei fod yn aelod o ryw gangen o deulu Parry, Poston, sir Henffordd, a Llandefaelog-tre'r-graig, sir Frycheiniog - gweler ach y teulu arbennig hwn yn Jones, Brecknockshire, a Llyfr Baglan, 37. Os felly, bu James yn briod deirgwaith; ac y mae'n fwy na thebyg mai'r drydedd wraig oedd mam ei fab George Parry. Pan aeth y mab hwn i
  • THOMAS, DAVID JOHN (Afan; 1881 - 1928), cerddor Ganwyd 15 Ebrill 1881 yng Nghwmafan, Morgannwg, yn fab i Evan Thomas (arweinydd côr) a'i briod (a oedd yn gantores ac yn ferch i Dafydd Nicholas, yntau'n gerddor gwybodus). Yn ifanc fe ddysgodd ganu'r ffidil a'r piano, ac yn ddiweddarach yr organ yn un o eglwysi Bournemouth ac yn eglwys gadeiriol Llandaf. Cafodd lawer athro cerddorol, yn eu plith Dr. Joseph Parry yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd
  • PARRY, DAVID (1682? - 1714), ysgolhaig Ganwyd yn nhref Aberteifi yn fab i William Parry, 'dyn tlawd.' Tua 1695, pan oedd (i bob golwg) yn ysgol ramadeg Aberteifi (ac 'yn Lladinwr rhugl'), dygwyd ef gan William Gambold y gramadegydd i sylw Edward Lhuyd, a'i cymerth yn gynorthwywr yn ei ymchwiliadau ac yn gydymaith ar ei deithiau yng Nghymru, Iwerddon, Sgotland, Cernyw, a Llydaw (lle y cymerwyd y ddau i'r ddalfa fel 'ysbiwyr'). Ar eu
  • PARRY, GEORGE (1613? - 1678), clerigwr a wnaeth fersiwn fydryddol Gymraeg o rai o'r salmau Ganwyd c. 1613, mab James Rhys Parry. Ceir rhai manylion am gysylltiadau'r teulu a siroedd Henffordd a Brycheiniog yn yr erthygl ar y tad, ac yn llawnach yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 276-301, a iii, 13-6 - y cwbl o'r bron wedi eu cael yn rhagymadroddion George Parry i'w fersiwn ef fel y ceir hi yn NLW MS 641C. Y mae'n weddol sicr mai yr un ydoedd George Parry mab James
  • WATKIN-JONES, ELIZABETH (1887 - 1966), awdur llyfrau i blant Ganwyd 13 Gorffennaf 1887 yn Nefyn, Sir Gaernarfon, yn unig ferch Henry a Jane Parry. Capten llong oedd ei thad a bu foddi yn Ne America cyn i'w ferch ei weld. Cafodd ei haddysg yn ysgol Nefyn, ysgol sirol Pwllheli ac yn y Coleg Normal, Bangor, a bu'n athrawes plant bach yn Aberdâr, Onllwyn, Porthmadog, Trefriw, a Nefyn. Priododd â John Watkin-Jones yn Chwefror 1916. Ar ôl Rhyfel Byd I bu'n byw
  • DAVIES, GLYNNE GERALLT (1916 - 1968), gweinidog (A) a bardd Ganwyd yn Lerpwl 21 Chwefror 1916, ond magwyd ef yn y Ro-wen, Dyffryn Conwy, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol y Rowen ac ysgol ramadeg Llanrwst. Bu am gyfnod yn gweithio yn swyddfa Henry Jones, cyfreithiwr yn Llanrwst. Dechreuodd bregethu gyda'r MC a bu dan addysg bellach yng Ngholeg Clwyd, Coleg y Brifysgol, Bangor, a'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Safodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn
  • FOSTER, IVOR LLEWELYN (1870 - 1959), datganwr dwywaith ar yr unawd baritôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Caernarfon 1894 a Llanelli 1895). Yn dilyn ei lwyddiant yn Llanelli trefnodd rhai o'i gyfeillion yn y Rhondda gyngherddau i'w gynorthwyo i gael addysg gerddorol; aeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ym mis Mai 1896, a bu yno am bedair blynedd yn astudio gyda Henry Blower (llais), James Higgs (cynghanedd) a Villiers Stanford (opera
  • PARRY, JOHN (1789 - 1868), saer maen a cherddor Ganwyd John Parry ar 10 Chwefror 1789 yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, yn fab i Bernard Parry, ffermwr ac athro canu, a'i wraig Elizabeth (g. Saunders). Dengys cyfrifiad 1841 fod John Parry a'i wraig Mary Williams Parry (1784-1849) yn byw gyda'u dau fab ieuengaf, William a Caleb, yn Ochr-y-gop, i'r gogledd-ddwyrain o Drelawnyd. Saer maen oedd John Parry wrth ei grefft, a chyflogai nifer o weithwyr
  • PARRY, HUMPHREY (c. 1772 - 1809), ysgolfeistr, aelod o Wyneddigion a Chymreigyddion Llundain Ganwyd tua 1772 yn y Cwm Mawr, Clynnog Fawr, Arfon. Yn glerc i gyfreithiwr yr aeth i Lundain, ond wedyn bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells, dan David Davies. Ar farwolaeth Davies (1797), agorodd Parry ysgol breifat yn Hackney; gellid meddwl iddi fod yn llwyddiant, oblegid yn 1806 sonia am wario £700 ar helaethu ei hadeilad. Yr oedd yn aelod o'r Gwyneddigion
  • PARRY, JOHN HUMFFREYS (1786 - 1825), hynafiaethydd Yr oedd ei dad, Edward Parry (1752 - 1805), fab Edward Parry, ' gent. ', o'r Nercwys yn Sir y Fflint, yn glerigwr; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1772, ond ni ddengys Foster (Alumni Oxonienses) iddo raddio, serch y rhoddir B.A. iddo mewn cyfeiriadau ato; priodola W. D. Leathart iddo ' high literary attainments.' Bu'n rheithor Llangar (1784-9) a Llanferres (1789-1805) - gweler Thomas, A History
  • PARRY, EDWARD (1798 - 1854), cyhoeddwr llyfrau a hynafiaethydd Ganwyd yn 1798 yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, mab Edward a Mary Parry, ond symudodd i Gaerlleon yn gynnar yn ei fywyd, ac ymsefydlu yno fel llyfrwerthwr, yn gyntaf yn Exchange, Northgate Street, ac yn ddiweddarach yn Bridge Street Row. Yn ei siop lyfrau gwerthid amrywiaeth o weithiau llenyddol Gymreig, llyfrau, a darluniau, o'i waith ef ei hun ac eraill. Ymdaflodd i fywyd Cymreig y ddinas o'r