Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 3100 for "John Jones"

13 - 24 of 3100 for "John Jones"

  • ALLCHURCH, IVOR JOHN (1929 - 1997), pêl-droediwr . Daeth uchafbwynt ei yrfa ryngwladol yn 1958 yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden, pan sgoriodd Allchurch ddwy gôl allweddol wrth i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf, cyn cael eu curo gan Brazil, enillwyr y gystadleuaeth yn y pen draw. Priododd Esme Thomas o Abertawe ar 13 Mehefin 1953. Bu iddynt ddau fab, John Stephen Allchurch (ganwyd 1954) a David Ivor Allchurch (ganwyd 1961). Ymddangosodd
  • ALLEN, JOHN ROMILLY (1847 - 1907), hynafiaethydd Allen yn un o'r awdurdodau pennaf, a chafodd Archæologia Cambrensis fanteisio'n fawr yn ystod cyfnod ei olygyddiaeth ef ar yr astudiaeth a roes ef a Syr John Rhys i destun meini arysgrif Cymru; yng nghyfarfodydd blynyddol y gymdeithas yr oedd Allen bob amser yn siaradwr a groesewid pan fyddid yn disgrifio hynafion. Bu farw yn ddi-briod, yn Llundain, 5 Gorffennaf 1907. Gwelir ei lun yn Archæologia
  • ALLEN, ROBERT (1847 - 1927), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 5 Ionawr 1847 yn Llanelli, mab John Allen o Gastellnedd, a'i wraig o Gilrhedyn, Castellnewydd Emlyn, ond ym Morgannwg y'i magwyd ac y gwersyllodd. Ym Mlaenycwm y'i bedyddiwyd, yng Nghwmafon y dechreuodd bregethu, ym Mryntroedgam, 17 a 18 Hydref 1880, yr urddwyd ef. Bu yno saith mlynedd, yna Pontrhydyfen, 1887-1890, Capel Rhondda, 1890-2, Calfaria, Maesteg, 1892-1908, a Philadelphia, Cwm
  • teulu ALLGOOD Annibynwyr, y Twyn, Brynbuga. Yr oedd wedi trosglwyddo ei fusnes i'w nai, THOMAS HUGHES (1740 - 1828). Gweler ymhellach Pyrke, John, a Evan Jones (1790 - 1860).
  • teulu ALMER Almer, Pant Iocyn, Yr oedd y teulu yn disgyn yn llinell ddidor o Ithel Eunydd, ail goncwerwr gwlad Dinbych y sydd i'r dwyrain o'r Clawdd (sef Clawdd Offa). Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan JOHN ALMER, gŵr a ddaliai swydd heb fod yn bwysig yn llys Harri VIII ac a drefnodd i'w feibion John a William gael eu dewis yn rhingylliaid-ag-arfau. Rhwng 1554 a 1558 chwalwyd Almer i'r llawr a chludwyd ei feini a'u defnyddio
  • AMBROSE, WILLIAM (Emrys; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor Ganwyd 1 Awst 1813 ym Mangor, unig fab John ac Elizabeth Ambrose. Daethai ei hen-daid, John Ambrose, crydd, o Iwerddon i Gaergybi yn 1715, a mab iddo ef, Robert, oedd ail weinidog y Bedyddwyr ym Mangor. Bu i Robert Ambrose ddau fab - Robert, tad y Parch. W. R. Ambrose, Talsarn, a John (tad 'Emrys') - a merch (mam John Ambrose Lloyd). Ceir enw tad 'Emrys' ymhlith aelodau cynharaf y Bedyddwyr ym
  • ANIAN (bu farw 1293), esgob Llanelwy Nid ar unwaith y dilynwyd Anian I gan Anian II, oblegid cysegrwyd un John, gwr na wyddys ddim amdano, yn 1267. Erbyn 5 Ionawr 1268 yr oedd John wedi marw, ac ar 24 Medi 'r flwyddyn honno hysbyswyd fod y brenin wedi cadarnhau ethol Anian, prior cwfaint y Brodyr Duon yn Rhuddlan, yn esgob Llanelwy. Cysegrwyd yr esgob newydd yn Southwark, 21 Hydref, gan yr archesgob Boniface a Walter, esgob Exeter
  • ANTHONY, DAVID BRYNMOR (1886 - 1966), athro a chofrestrydd Ganwyd 28 Hydref 1886 yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, ail fab John Gwendraeth a Mary (ganwyd Harris) Anthony. Masnachwr bwydydd a dilledydd oedd y tad yn Paris House yn y dreflan honno. Addysgwyd ef yn ysgol y Castell yng Nghydweli, ysgol Uwchradd Llanelli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r ymaelododd yn Hydref 1905 a graddio gyda dosbarth I mewn Ffrangeg a Ieitheg Romawns yn 1908, gan
  • ANTHONY, WILLIAM TREVOR (1912 - 1984), canwr Ganwyd Trevor Anthony ar 28 Hydref 1912 yn Nhŷ-croes, ger Rhydaman, yn fab hynaf i David John Anthony a'i wraig Adeline (ganwyd Lewis). Wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio dan ddaear a derbyn hyfforddiant lleisiol gan Gwilym R. Jones. Daeth i amlygrwydd pan enillodd gystadleuaeth yr unawd bas yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1934, ac yntau'n ddim ond 21 oed. Un o feirniaid y
  • teulu ANWYL Parc, Llanfrothen Y mae Anwyliaid y Parc, Llanfrothen, yn disgyn o Robert ap Morris, Park (bu farw 1576), pedwerydd mab y Morris ap John ap Meredydd, Rhiwaedog, y ceir ei hanes yn llyfr Syr John Wynn, The history of the Gwydir family. Cymerodd meibion iau Robert ap Morris y cyfenw Roberts, e.e. John Roberts, Vaner, gerllaw Dolgellau, oedd tad David Roberts, rheithor Llanbedrog, caplan i iarll Warwick, eithr
  • ANWYL, Syr EDWARD (1866 - 1914), ysgolhaig Celtig Ganwyd 5 Awst 1866 yng Nghaer, yn fab i John ac Ellen Anwyl; addysgwyd yn King's School, Caer, ac yng ngholegau Oriel a Mansfield, Rhydychen. Daeth yn athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1892, ac, yn ddiweddarach, yn athro ieitheg Gymharol hefyd. Fe'i hapwyntiwyd yn brifathro Coleg Hyfforddi Mynwy, Caerleon, ym mis Tachwedd 1913, ond bu farw 8 Awst 1914, cyn dechrau ar ei
  • ANWYL, JOHN BODVAN (Bodfan; 1875 - 1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur Ganwyd 27 Mehefin 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, Sir y Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur