Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 274 for "Siôn"

13 - 24 of 274 for "Siôn"

  • teulu CONWY Botryddan, Saeson oedd y Conwyaid o ran cyff, disgynyddion Syr William Coniers, ' Knight of War ', uchel gwnstabl Lloegr dan William Goncwerwr. Syr HENRI CONWY, mab-yng-nghyfraith Syr Huw Crevecœur, arglwydd Prestatyn, oedd y cyntaf i ymsefydlu yng Nghymru, ac etifeddwyd yr arglwyddiaeth honno gan ei fab, Richard. Yn wahanol i'w ragflaenwyr cafodd wyr hwnnw, SIANCYN CONWY (c. 1415 - ?1445,) mab Siôn Aer y
  • HOWEL, HARRI (fl. 1637-71), bardd mab Howel ap Sion Ieuan o blwyf Dolgellau, a oedd yntau yn fardd. Yr oedd yn cydoesi â Gruffydd Phylip (gweler Phylipiaid Ardudwy) ac yn canu i'r un teuluoedd ag ef o'r bron. A barnu oddi wrth y deunaw neu fwy o gywyddau a adawodd ar ei ôl bu Harri Howel yn canu i wŷr tiriog yn byw mewn cylch sy'n ymestyn o Fodwrdda yn Llŷn i Gwaenynog a Llwyn Ynn yn nyffryn Clwyd, Nannau a Hafod Dywyll, gerllaw
  • LLEWELYN, SION (1690 - 1776), bardd
  • HUW LLŶN, bardd ap Rhisiart hefyd yn fardd, ond nid oes unrhyw brawf mai'r un person oeddynt. Cadwyd peth o farddoniaeth Huw Llŷn, ac yn ei phlith gerddi i Walter Devereux (iarll Essex), Henry Rowland (esgob Bangor), Simwnt Thelwal o Blas y Ward, ac i'r Deheuwyr Tomas Fychan (Pembre), Gruffudd Dwn (Ystrad Merthyr), Wiliam a Siors Owen (Henllys), a Sion Llwyd (Cilgwyn). Canwyd ymryson rhyngddo a Sion Mawddwy, ac un
  • DAFYDD COWPER (GOWPER) (fl. c. 1500), bardd Bardd 'o Wregsam,' Cadwyd ei waith yn Peniarth MS 76, Peniarth MS 312, Llanstephan MS 118, Cardiff MS. 7, Cardiff MS. 49, B.M. Add. MS. 14997, a NLW MS 728D. Yn eu plith y mae cywydd 'a barodd sion pilstwn hen [o Blas ym Mers] i wneuthur ir abad sion [o Lanegwestl],' ac englyn i glochdy Wrecsam (1507).
  • EDWARD MAELOR (fl. c. 1580-1620), bardd Ni wyddys dim o'i hanes, ond ceir nifer o'r gywyddau ac englynion mewn llawysgrifau. Ymhlith y rhain ceir cywyddau mawl i rai o foneddigion Gogledd Cymru, Hwmffre Huws o'r Werclys, Sion Eutun a'i wraig, a chywydd priodas i Andrew Meredydd o Glan Tanad a chywydd marwnad i'r bardd Sion Tudur. Canodd amryw englynion yn cynnwys rhai ymryson â Morys Powel.
  • ELLIS, ELLIS OWEN (Ellis Bryncoch; 1813 - 1861), arlunydd Ganwyd ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon, ei fam yn ferch John Roberts ('Siôn Lleyn'); yr oedd yr arlunydd yn perthyn hefyd i John Thomas ('Siôn Wyn o Eifion'). Prentisiwyd ef i saer coed, ond gan fod ganddo beth talent arlunio fe drefnodd Syr Robert Williames Vaughan, Nannau, Sir Feirionnydd, iddo ddyfod i adnabod Syr Martin Archer Shee, paentiwr, a roes iddo lythyrau i'w gyflwyno i arlunwyr
  • POWEL, MORGAN (fl. c. 1563), bardd, un o gwndidwyr Morgannwg, a chlerigwr o Lanhari yr oedd, y mae'n debyg, yn aelod o deulu Powel Tir Iarll (gweler Powel, Antoni). Ymddengys iddo fod yn glerigwr yn Nhrelales, ger Penybont-ar-Ogwr, tua 1563. Cadwyd enghreifftiau o'i waith, ac yn eu plith gywydd i Wiliam Prys o Lansawel (Briton Ferry), a chywydd i heddychu Siôn Mawddwy a Tomas ap Wiliam ap Hywel; bu hefyd ddau ymryson rhyngddo a Llywelyn Siôn a Tomas Llywelyn.
  • LLWYD, FFOWC (fl. c. 1580-1620), bardd ac ysgwïer Fox Hall, sir Ddinbych; mab Siôn Llwyd a'i wraig (gyntaf), Sibl, ferch Rhisiart Glyn. Priododd Alis ferch Ffowc ap Tomas ap Gronw. Ni wyddys fawr amdano, ac nid erys llawer o'i waith mewn llawysgrifau. Canodd i Syr Siôn Llwyd o Iâl (NLW MS 3057D (962)) ac i Tomas Prys o Blas Iolyn (B.M. Add. MS. 14896 (58)); canodd hefyd gerdd a ddengys gydnabyddiaeth â bywyd Llundain (Jesus Coll. MS. 18 (8)).
  • THOMAS, JOHN (Siôn Wyn o Eifion; 1786 - 1859), bardd Ganwyd yn Chwilog, plwyf Llanarmon, yn Eifionydd. Ei dad oedd Thomas Roberts, brawd 'Siôn Lleyn' (John Roberts, 1749 - 1817), bardd. Pan oedd 'Siôn Wyn' yn 9 oed cyfarfu â damwain trwy gael ei wasgu rhwng cert a gwal gerrig yn ymyl ei gartref. Wedi iddo wella aeth i ysgol Isaac Morris, Pentyrch Isaf, athro 'Eben Fardd' a 'Dewi Wyn.' Ymhen tair blynedd wedi'r ddamwain cafodd glefyd trwm a'i
  • DAFYDD GOCH BRYDYDD o FUALLT (fl. tua diwedd yr 16eg ganrif), bardd O'r cerddi a gadwyd hyd heddiw ceir rhai i Syr Sion Salbri (NLW MS 6495D a NLW MS 6496C), Syr Sion Wyn o Wydir (Cardiff MS. 83), a Gruffydd Fychan o Gors y Gedol (Llanstephan MS 118). Y mae'n bosibl, hefyd, mai'r un bardd yw ef a'r ' Dafydd Goch Brydydd ' y ceir ei farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: Llanstephan MS 38, Llanstephan MS 49, Llanstephan MS 118, Llanstephan MS 125, Llanstephan MS
  • HARRI, WILLIAM (Gwilym Garwdyle; 1763 - 1844), bardd Ganwyd 18 Rhagfyr 1763 yn Garw-dyle, Penderyn, yn ŵyr, meddir, i'r bardd Siôn Llewelyn o'r Faenor. Gwehydd oedd, a gwehyddion hefyd oedd ei ddau frawd Siôn Harri o'r Faenor ac Edward Harri o Gefncoed. Bu'n ffermio 'n aflwyddiannus yn Llwynonn, Penderyn, ond bwriodd y rhan helaethaf o'i oes ym Mhontbren-llwyd. Cafodd naw o blant. Bu farw yn nhŷ un o'i feibion, yn Nowlais, 11 Gorffennaf 1844, yn ei